Adrodd ar dlodi yng Nghymru

Ddydd ar ôl dydd rydym yn gweld y penawdau – digartrefedd yn cynyddu, rhagor o bobl yn defnyddio banciau bwyd, a niferoedd cynyddol o gontractau cyflogaeth ansicr. Ond beth yr ydym wir yn ei ddeall am y ffordd y mae’r cyfryngau yn adrodd ar dlodi? Bu Oxfam Cymru yn gweithio gyda grŵp o sefydliadau i gyd-gomisiynu’r adroddiad arloesol, Archwilio naratif y cyfryngau newyddion ar dlodi yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn archwilio rôl y cyfryngau o ran adrodd yn gywir ar dlodi. Roedd yr ymchwil yn monitro’r cyfryngau newyddion yng Nghymru yn ddwys er mwyn casglu a dadansoddi eu hadroddiadau ar bob mater yn ymwneud â thlodi dros gyfnod penodol o amser. Roedd hyn yn cynnwys newyddion ar y teledu, ar y radio ac mewn print, a hynny yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae tlodi yn effeithio ar un o bob pedwar unigolyn yng Nghymru, a gwyddom fod tlodi yn aml yn cael ei guddio. Mae’r cyfryngau yn llywio’r ffordd yr ydym yn gweld ac yn deall tlodi yn sylweddol; felly mae’n hanfodol deall sut y mae’r cyfryngau’n adrodd ar y materion hyn.

Roedd yr ymchwil ar gyfer yr adroddiad yn cynnwys cyfweliadau â newyddiadurwyr yng Nghymru, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol yn y trydydd sector, ac yn amlygu’r berthynas gyd-ddibynnol rhwng y ddwy garfan hyn. Mae newyddiadurwyr yn aml yn dibynnu ar elusennau i gael gafael ar gysylltiadau a gwybodaeth, ac mae elusennau yn dibynnu ar newyddiadurwyr i adrodd eu stori. Fodd bynnag, mae yna dyndra yn y berthynas hon gan fod newyddiadurwyr dan bwysau i ddod o hyd i “fachyn”, neu safbwynt ffres, er mwyn sicrhau bod eu hadroddiadau’n ddigon diddorol, tra bo’r elusennau yn aml am weld cysylltiadau’n cael eu gwneud mewn straeon â’r materion strwythurol sylfaenol sydd wrth wraidd y ffaith bod tlodi yn bodoli yn y lle cyntaf.

Ar y cyfan, mae cyfraddau tlodi yng Nghymru wedi aros yn ddigyfnewid ers degawd, ac mae amlygu safbwyntiau newyddion ffres ar dlodi yn bwysig er mwyn ehangu a dyfnhau dealltwriaeth y cyhoedd o achosion strwythurol tlodi.

Un o ganfyddiadau allweddol yr adroddiad oedd mai traean yn unig o’r adroddiadau a oedd yn cyfeirio at dlodi fel y brif stori, tra bo tlodi’n ymddangos yn eilbeth neu’n bwnc cefndir mewn adroddiadau ar wleidyddiaeth neu drafodaethau ar bolisi macro-economaidd yng ngweddill yr adroddiadau.

Canfyddiad calonogol oedd nad oedd yna unrhyw dystiolaeth sylweddol fod pobl agored i niwed a’r rheiny sy’n dioddef caledi yn cael eu beio am eu profiadau o dlodi, anghydraddoldeb economaidd neu anfantais gymdeithasol.

Mae yna gymaint i’w gasglu o’r darn gwerthfawr hwn o ymchwil. Gallwch weld yr adroddiad yma, a ddarllen y blog hwn a ysgrifennwyd gan Dr Kerry Moore o Brifysgol Caerdydd, a arweiniodd y tîm a gynlluniodd ac a gynhaliodd yr ymchwil ar gyfer yr adroddiad.

#adroddardlodi