Cerdyn Sgorio Ffeministaidd newydd yn galw am Gomisiynydd Menywod Cymru yn wyneb rhwystrau mawr i gydraddoldeb rhwng y rhywiau

Three women pose with a large version of the feminist scorecard

Gan Catherine Fookes a Sarah Rees

 

Y tu hwnt i rethreg, mae ar fenywod Cymru angen gweithredu beiddgar gan Lywodraeth Cymru. Oni bai ein bod yn gweithredu ‘nawr, bydd cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn cael ei golli am genhedlaeth arall.

Heddiw, bydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN) Cymru ac Oxfam Cymru yn cyd-gyhoeddi Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 2022. Mae’r cerdyn sgorio’n defnyddio system goleuadau traffig i raddio cynnydd ac amlygu’r camau gweithredu y mae eu hangen ar draws chwe maes allweddol, gan gynnwys Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Iechyd Rhwng y Rhywiau a Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod a Merched.  Cafodd ei ysgrifennu gyda mewnbwn gan sefydliadau ar draws y trydydd sector, felly mae’n adlewyrchu’n gryf profiadau bywyd a phryderon cyfredol.

Mae ein hadroddiad yn dangos bod angen camau gweithredu penodol i wireddu’r uchelgais o wneud Cymru yn genedl ffeministaidd a’r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.

O’i gymharu â’r Cerdyn Sgorio blaenorol a gynhyrchwyd ar drothwy cyfyngiadau COVID-19 y DU ym mis Chwefror 2020, mae’n amlwg bod yr ychydig gynnydd a wnaed yn flaenorol yn fregus, gan fethu â gwrthsefyll pwysau’r pandemig a’r argyfwng costau byw parhaus.

Wrth i Lywodraeth Cymru ymateb i’r coronafeirws, ataliwyd y Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru, a hynny wrth i fenywod weithredu ar flaen y gad, yn darparu gwaith allweddol a gofal i’n cenedl. Wrth arwain yr ymateb ledled y gymuned; mewn ysbytai, cartrefi gofal, ysgolion, archfarchnadoedd a’r cartref, cynyddodd beichiau gwaith menywod i lefel beryglus o uchel.

Wrth i fenywod addasu a newid, ni wnaeth y system fawr ddim i’w hwyluso na’u cefnogi. Teimlwyd effeithiau negyddol y cyfrifoldebau gofalu anghyfartal yn glir iawn, gan arwain at effeithiau trychinebus weithiau ar iechyd meddwl a chyllid menywod.

Pam mae’r Cerdyn Sgorio Ffeministaidd yn bwysig? Oherwydd bod hawliau menywod yn hawliau dynol. Mae’r adroddiad hwn wedi’i lunio yn erbyn cefndir lle gwelwyd menywod a phlant yn ffoi rhag rhyfel yn Wcráin. Yn ystod yr wythnosau diwethaf diddymwyd yr hawl cyfansoddiadol i gael erthyliad yn America. Ledled y DU mae yna graffu cyhoeddus parhaus ar hawliau trawsrywiol, gan waethygu’r sefyllfa o ran troseddau casineb cynyddol.

Rydym ar drothwy newid cymdeithasol enfawr, lle mae angen i gamau pendant gan Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw cynnydd ar gyfer menywod a merched yn cael ei rwystro.

Mae’r coronafeirws wedi tynnu sylw at yr heriau y mae menywod a merched yn eu hwynebu, ac wedi gwaethygu anghydraddoldebau, yn enwedig i fenywod sy’n profi gwahaniaethu croestoriadol. Adlewyrchir yr anghydraddoldeb cynyddol hwn yng nghanlyniadau’r Cerdyn Sgorio, sy’n dangos ein bod wedi symud tuag yn ôl ym meysydd Cyllid Teg a Chyfrifoldebau Gofalu.

Cynyddodd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac mae menywod yn dal yn fwy tebygol o fod yn gweithio’n rhan-amser neu o fod yn economaidd anweithgar, sy’n eu gwneud yn fwy bregus yn wyneb costau byw cynyddol. Mae diffyg parhaus o ran gofal plant neu ofal cymdeithasol fforddiadwy o ansawdd uchel yn golygu bod menywod sydd â chyfrifoldebau gofalu di-dâl yn aml yn methu cael gwaith neu gynyddu eu horiau gwaith. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiadau cadarnhaol ynghylch gofal plant a gofal cymdeithasol, ond nid yw cyflymder y gweithredu yn adlewyrchu’r brys ar gyfer newid.

Mae’r un peth yn wir ym maes Anghydraddoldebau Iechyd rhwng y Rhywiau. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynllun iechyd menywod yn gam pwysig, ond y gwir amdani yw nad oes gan fenywod fynediad at y gwasanaethau gofal iechyd y mae arnynt eu hangen. Mae’r pandemig wedi gwaethygu’r broblem hon, wrth i driniaethau gael eu gohirio a’r rhestr aros fynd yn hirach o lawer.

Er bod Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod wedi cadw ei sgôr ambr drwyddi draw, mae’r diffyg gwelliant o ran y sefyllfa enbyd a wynebir gan fenywod, a hynny heb unrhyw hawl i arian cyhoeddus, yn ogystal ag absenoldeb parhaus model ariannu cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau arbenigol, yn cael eu hadlewyrchu mewn is-sgôr goch ar gyfer y meysydd hyn.

A ninnau’n genedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, rhoddodd Llywodraeth Cymru flaenoriaeth i newid yn yr hinsawdd yn ei hagenda ar gyfer y Chweched Senedd, mae’n berthnasol gweld bod cyfiawnder hinsawdd a rhywedd yn faterion integredig. Mae’r costau tanwydd uchel yn gorfodi newid cyflym, fodd bynnag, rhaid ystyried buddsoddiadau posibl mewn sectorau carbon isel, lle mae menywod yn tra-arglwyddiaethu, wrth i ni drosglwyddo i sero net.

Er ein bod yn glir bod llawer i’w wneud o hyd, mae rhai addewidion cadarnhaol wedi’u gwneud, megis yr ymrwymiad hanesyddol i gwotâu rhywedd ac ehangu’r cynnig gofal plant i bob plentyn dwy oed. Ond rhaid cymryd mesurau mwy brys i wrthsefyll yr anghydraddoldebau cynyddol sy’n digwydd yn ein cymdeithas ac i’n rhoi mewn sefyllfa lle gallwn symud unrhyw faes i sgôr werdd.

Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni wrth i bob un ohonom gyd-dynnu i frwydro yn erbyn y pandemig. Mae’n bryd i ni gydnabod yr anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, a’i effaith ar ddiogelwch, iechyd a lles menywod, fel pandemig sy’n niweidio pawb yn ein cymdeithas ac y mae angen i ni ei ddileu am byth.

Credwn ei bod yn hollbwysig bod y llywodraeth yn creu rôl Comisiynydd Menywod, gan wneud lle i benodai a fyddai’n hyrwyddo menywod ac a fyddai’n warcheidwad iddynt yng Nghymru, yn yr un modd ag y mae’r Comisiynydd Plant a’r Comisiynydd Pobl Hŷn yn ei wneud ar ran eu hetholwyr. Heb ffocws cryf ar yr anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a’r modd y dylid mynd i’r afael ag ef, ni fydd y gwaith y mae dirfawr ei angen yn cael ei wneud.

Mae Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 2022 ar gael i’w ddarllen yn Gymraeg a Saesneg.