Elusen gwrthdlodi yn rhybuddio bod yn rhaid i’r Prif Weinidog beidio ag esgeuluso arwyr y pandemig

Dywed Oxfam Cymru fod yn rhaid i’r Prif Weinidog ‘roi ei arian ar ei air’ a sicrhau bod gofalwyr Cymru wrth wraidd cynllun adferiad y wlad yn dilyn y pandemig.

Mewn llythyr at Mark Drakeford, dywed yr elusen gwrthdlodi y gallai gofalwyr y genedl, a alwyd yn ‘arwyr’ gan y Prif Weinidog yn ystod anterth yr argyfwng COVID-19, gael eu gadael yn dihoeni mewn tlodi am flynyddoedd, gyda’u cyfraniad amhrisiadwy i’r frwydr yn erbyn y coronafeirws yn cael ei anghofio, fel rhyw ‘droednodyn mewn hanes’.

Daw her Oxfam Cymru wrth i’r elusen gyhoeddi briff newydd sy’n nodi 14 o gamau y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd i roi pobl â chyfrifoldebau gofalu wrth wraidd adferiad cyfiawn, gofalgar, ffeministaidd a gwyrdd yn dilyn y pandemig, gan hefyd eu diogelu rhag tlodi.

Dywed yr elusen y bydd yn amhosibl i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau heb gamau cadarn i roi gwerth ar waith gofalu, a buddsoddi ynddo.

Mae argymhellion Oxfam Cymru yn cynnwys hybu buddsoddiad yn y sector gofal cymdeithasol a rhoi hwb i’r system nawdd cymdeithasol er mwyn diogelu gofalwyr yn well. Mae’r argymhellion yn cynnwys y canlynol:

  • Codi refeniw newydd yn raddol, er enghraifft, trwy ardoll gofal cymdeithasol yng Nghymru, a’i ddefnyddio i hybu buddsoddiad sylweddol yn y sector i ddiogelu gweithwyr gofal ar dâl rhag tlodi ac i leddfu pwysau ar ofalwyr di-dâl;
  • Ei gwneud yn haws i ofalwyr di-dâl droi cefn ar dlodi trwy iddynt gael a chadw cyflogaeth â thâl, cynyddu disgwyliadau ar gyflogwyr i ddarparu amgylchedd cefnogol yn rhan o’r ymrwymiad i ‘Waith Teg’, cryfhau cynlluniau achredu gwirfoddol, a gwneud mynediad at arian cyhoeddus yn amodol ar gynnydd i gyflawni hyn;
  • Cefnogi’r rhai sy’n gofalu am blant i gael a chadw gwaith teilwng trwy hybu mynediad at ofal plant o ansawdd uchel, sy’n hygyrch a hyblyg ac a ariennir yn gyhoeddus, a hynny o chwe mis oed ymlaen (gan gynnwys plant anabl a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol), a hynny yn achos pob rhiant, gan gynnwys rhieni nad ydynt yn gweithio;
  • Sicrhau bod lleisiau a phrofiadau pobl â chyfrifoldebau gofalu, a’r rhai a gefnogir ganddynt, yn cael eu rhoi wrth wraidd y trawsnewid hwn.

Er bod yr elusen yn croesawu’r mesurau brys a roddwyd ar waith gan Weinidogion i helpu i gefnogi gofalwyr yn ystod y pandemig, dywed bod newid sylweddol di-oed yn ofynnol o hyd o ran y gwerth a roir yng Nghymru ar y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu.

Er gwaethaf eu hymdrechion anhygoel yn ystod y pandemig, dywed Oxfam Cymru fod pobl sy’n gofalu am eraill – boed hynny gartref neu’n broffesiynol – yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi, gydag argyfwng y coronafeirws yn gwaethygu’r caledi y maent yn ei wynebu. Mae’r sefydliad yn galw ar y Prif Weinidog i ymyrryd a ‘gwneud iawn am y camwedd hwn’.

Mae Oxfam Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei phwerau datganoledig i’w llawn botensial i ddiogelu gofalwyr rhag tlodi.

Dywed y sefydliad y byddai buddsoddi mewn gofal yn helpu i leihau’r anghydraddoldebau rhwng y rhywiau ac yn adeiladu dyfodol mwy gwyrdd i Gymru. Mae’n dyfynnu o waith ymchwil a wnaed gan y Women’s Budget Group, sy’n rhag-weld y gallai buddsoddi mewn sectorau carbon is, megis gofal cymdeithasol, gynhyrchu dwbl nifer y swyddi â’r un buddsoddiad yn y sector adeiladu.

Dywedodd Rachel Cable, Pennaeth Oxfam Cymru: “Yn ystod anterth y pandemig, ymunodd y Prif Weinidog â phobl Cymru i glapio’n uchel dros ofalwyr y genedl, gan gydnabod, fel y dylai, mai nhw yw’r glud sy’n dal ein gwlad at ei gilydd. Ni all eu hesgeuluso ‘nawr. Yn hytrach, rhaid iddo roi ei arian ar ei air a sicrhau bod gofalwyr yn cael eu rhoi wrth wraidd adferiad Cymru.

“Am lawer yn rhy hir, mae gofalwyr, y mwyafrif ohonynt yn fenywod, wedi cael eu cymryd yn ganiataol a’u gadael i ddihoeni mewn tlodi. Mae’n bryd gwneud iawn am y camwedd hwn. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu’r camau brys, cadarn sy’n ofynnol i roi gwerth ar ofal, a buddsoddi ynddo, a hynny nid yn unig am mai hyn yw’r peth iawn i’w wneud, ond hefyd oherwydd bod gofal, yn ei holl ffurfiau, yn sail i’n cymdeithas a’n heconomi.

“Nid fydd unrhyw adnewyddiad cenedlaethol yn bosibl os bydd gofalwyr, unwaith eto, yn cael eu gadael ar ôl. Rhaid i adferiad cyfiawn, gwyrdd a ffeministaidd o COVID fod yn un gofalgar hefyd. Ni all y gefnogaeth y mae pobl wedi’i hamlygu i ofalwyr a gweithwyr allweddol eraill yn ystod argyfwng y coronafeirws ddod yn rhyw droednodyn mewn hanes; rhaid i hyn fod yn gatalydd ar gyfer newid.”

Mae adroddiad Oxfam Cymru yn dilyn galwad ar y cyd a wnaed gan dros 100 o sefydliadau o bob rhan o Brydain – yn cynnwys 18 yng Nghymru – ar i arweinwyr gwleidyddol wneud mwy i ddiogelu gofalwyr di-dâl a’r rhai ar dâl rhag tlodi.

 

/DIWEDD

I gael rhagor o wybodaeth a threfnu cyfweliadau, cysylltwch â: Rebecca Lozza, Swyddog y Cyfryngau a Chyfathrebu, Oxfam: rlozza1@oxfam.org.uk / 07917738450

 

Nodiadau i Olygyddion