Gweithredwch ‘nawr i roi diwedd ar dlodi i ofalwyr, y rheiny sy’n gweithio am dâl ac yn ddi-dâl

Heddiw, rydym wedi ysgrifennu at bob AS ac AC ledled Cymru, ynghyd â gwleidyddion ledled y Deyrnas Unedig, i gyfleu neges syml: gweithredwch ‘nawr i roi diwedd ar dlodi i ofalwyr, y rheiny sy’n gweithio am dâl ac yn ddi-dâl.

Mae pandemig COVID-19 wedi tanlinellu pwysigrwydd gofal, rhywbeth y mae pob un ohonom yn dibynnu arno ar ryw adeg yn ein bywyd. Mae’r rhan fwyaf o waith Oxfam yn canolbwyntio ar wledydd datblygol, ond rydym am fynd i’r afael â thlodi ym mhobman, gan gynnwys yn y Deyrnas Unedig. I wneud hynny, mae’n amhosibl anwybyddu’r cysylltiad â gofal.

Hyd yn oed cyn i’r Coronavirus daro, roedd gormod o ofalwyr – y rheiny sy’n gweithio am dâl ac yn ddi-dâl – yn byw mewn tlodi. Nid oedd yn iawn bryd hynny, ac yn sicr nid yw’n iawn ‘nawr. Menywod sy’n darparu’r rhan fwyaf o ofal ac felly effeithir arnynt hwy yn arbennig.

Yng Nghymru, mae yna fwy na 370,000 o ofalwyr, ac mae 58% ohonynt yn fenywod. Wrth i’r pandemig hwn ddatblygu, mae sefydliadau gofalwyr ac undebau wrthi’n gryf, ac yn gwbl gywir, yn tynnu sylw at y modd y mae gofalwyr yn rhoi eu hunain a’u teuluoedd mewn mwy o berygl o ddal y firws, a hynny weithiau heb yr offer y mae ei angen arnynt. Y peth olaf y mae ei angen ar ofalwyr yw’r pryder ychwanegol am dlodi.

Heddiw, rydym yn cyhoeddi dau adroddiad ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, sy’n canolbwyntio ar y mater hwn ac yn rhoi lle amlwg i leisiau a safbwyntiau gofalwyr. Mae Make Care Count yn archwilio’r cysylltiad rhwng gofal a thlodi cyn y pandemig, ac mae ein briff atodol, Gofal, Tlodi a COVID-19 ledled Prydain, yn dangos y modd y mae COVID-19 yn gwaethygu’r broblem honno. Er ein bod yn cydnabod y cymerwyd camau i liniaru’r effaith ar incwm pobl ledled y Deyrnas Unedig, mae’n rhaid i ni wneud mwy i sicrhau bod nawdd cymdeithasol yn amddiffyn pawb rhag tlodi, gan gynnwys gofalwyr. Rhaid i ni hefyd sicrhau bod y rheiny a gyflogir i ddarparu gofal yn cael o leiaf y Cyflog Byw go iawn, ochr yn ochr â chontractau tecach a mwy hyblyg.

Mae gennym fwy i’w wneud i roi mwy o werth ar waith gofal, gan ei rannu’n decach a sicrhau bod gan y rheiny sy’n ei ddarparu yr hyblygrwydd y mae ei angen arnynt, gan gofio bod llawer o bobl yn jyglo gwaith am dâl ac addysg â gwaith gofal di-dâl.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf rydym wedi gweld ymchwydd mewn undod ymhlith pobl ledled y wlad, wrth iddynt ddod allan i stepen eu drws i glapio dros weithwyr allweddol, gan gynnwys gofalwyr.

Gyda’n gilydd, mae’n rhaid i ni wneud mwy i gefnogi’r rheiny sy’n gwneud cymaint i amddiffyn cynifer.