Gwlad sy’n gofalu am bobl a’r blaned: y dewis y mae’n rhaid i Gymru ei wneud

Gweledigaeth Oxfam Cymru yw byd heb dlodi, un a wasanaethir gan economi llesiant lle mae anghenion sylfaenol pawb yn cael eu diwallu o fewn terfynau amgylcheddol diogel.

Mae pandemig COVID-19 yn ei gwneud yn anoddach cyflawni hyn ond mae’n parhau i fod yn bosibl, os byddwn yn gweithredu gyda’n gilydd. Dyna pam y mae Oxfam Cymru yn cyhoeddi papur newydd heddiw, sef: Cymru Sy’n Gofalu am Bobl a’r Blaned.

Mae ein papur yn adlewyrchu’r cyd-destun byd-eang o gythrwfl a newid cyflym a wynebir gan y Senedd, ‘nawr a thu hwnt i’r etholiad sydd i ddod ym mis Mai.

Mae’n galw ar y Senedd i flaenoriaethu pum maes thematig allweddol er mwyn meithrin Cymru ofalgar, sy’n sicrhau cyfiawnder hinsoddol ac sy’n gyfrifol yn fyd-eang, ac sy’n seiliedig ar economi llesiant a system fwyd sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Darganfyddwch ragor am ein hargymhellion polisi ar gyfer y Senedd, yma: https://bit.ly/2LqwO6z

Mae ein galwadau polisi yn seiliedig ar dystiolaeth a phrofiadau a gasglwyd trwy ein gwaith yng Nghymru, arbenigedd ein partneriaid a gwaith Oxfam yn fyd-eang.

Mae cynnydd ym mhob maes thematig yn rhan annatod o’r gwaith o greu economi llesiant ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Rhaid i ni fynd ati ar yr un pryd i ofalu am bobl – yng Nghymru a ledled y byd – yn ogystal â’r blaned yr ydym yn ei rhannu.

Hyd yn oed cyn COVID-19, roedd bron chwarter y bobl yng Nghymru yn wynebu anghyfiawnder tlodi, gan fyw bywydau ansefydlog ac ansicr. Mae’r pandemig wedi gwaethygu sefyllfa a oedd eisoes yn ddifrifol, lle y mae’r rhai sy’n ennill y cyflogau isaf yn y wlad ddeg gwaith yn fwy tebygol o fod wedi teimlo effeithiau cyfyngiadau symud COVID-19 na’r rhai sydd ar y cyflogau uchaf.

A’r tu hwnt i’n ffiniau, y pandemig yw’r ergyd derfynol i filiynau o bobl a oedd eisoes yn cael trafferth yn sgil gwrthdaro, y newid yn yr hinsawdd, anghydraddoldeb a system fwyd ddiffygiol sydd wedi peri i filiynau o gynhyrchwyr bwyd a gweithwyr fod yn dlawd.

Mae’r byd yn cael ei herio i ddod o hyd i atebion ac mae’n rhaid i Gymru chwarae ei rhan; mae’r heriau enfawr sy’n ein hwynebu yn gofyn am gydweithredu sy’n mynd y tu hwnt i wleidyddiaeth y pleidiau.

Mae COVID-19 wedi rhoi cyfle i ni i gyd fyfyrio ar yr hyn sy’n bwysig. Mae ein papur newydd yn cyflwyno ein gweledigaeth y gall Cymru fod yn gartref i bobl ffyniannus, mewn gwlad lewyrchus, gan barchu llesiant pawb ac iechyd y blaned gyfan.

Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru, heddiw ac yn y dyfodol, i weithredu’n feiddgar i greu Cymru sy’n gwerthfawrogi ac yn parchu pobl a’r blaned, ac yn gofalu amdanynt. Ni allwn fethu.