Jennifer James sy’n trafod gwaith addysgol Oxfam mewn ysgolion a’r adnodd newydd Gwaith Boddhaol i Fenywod ar gyfer Bagloriaeth Cymru

Jen yw fy enw i, a fi yw’r Ymgynghorydd Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang ar gyfer Oxfam Cymru. Mae fy ngwaith yn cynnwys sicrhau bod athrawon yn barod ac yn ymrwymedig i addysgu dinasyddiaeth fyd-eang, ac yn gallu gwneud hynny, a bod gan bobl ifanc yr wybodaeth, y ddealltwriaeth, y gwerthoedd, yr agweddau a’r sgiliau y mae arnynt eu hangen i fod yn ddinasyddion gweithredol, effeithiol i drechu tlodi lleol a byd-eang. Rwy’n gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau i sicrhau bod dinasyddiaeth fyd-eang yn rhan allweddol o’r addysgu a dysgu mewn ysgolion ledled Cymru.

Jennifer James

Mae Oxfam yn gweithio gydag ysgolion am ein bod yn credu y dylai pobl ifanc gael cyfleoedd i ddysgu am faterion byd-eang, meddu ar y sgiliau i feddwl yn feirniadol amdanynt, a meithrin agweddau a gwerthoedd i weithredu dros y rhai y maent yn teimlo’n angerddol yn eu cylch.

Rwy’n teimlo’n angerddol ynghylch addysgu pobl ifanc am faterion byd-eang oherwydd dyma’r materion sydd nid yn unig o bwys yn fyd-eang, ond hefyd o bwys yn lleol. Mae i dlodi, mudo, newid yn yr hinsawdd ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau synergeddau ar hyd a lled y byd. Dyna pam rwyf wedi cynhyrfu ynghylch lansio’r adnodd newydd hwn ar gyfer ysgolion, a hynny’n cyd fynd ag amseru’r dyddiad cyflog cyfartal ar y 14eg o Dachwedd.

Cyn i mi ddweud wrthych amdano, dewch i ni feddwl am yr hyn y mae’r term ‘dinesydd byd-eang’ yn ei olygu. Yn gyntaf, rhowch gynnig ar ateb y cwestiynau canlynol:

A ydych yn talu sylw i’r hyn sy’n digwydd mewn mannau eraill yn y byd ar y newyddion neu ar eich ffrydiau ar y cyfryngau cymdeithasol?

A ydych yn parchu pobl eraill o’ch cwmpas?

A ydych yn gofalu am yr amgylchedd trwy ailgylchu, er enghraifft?

A ydych yn poeni ynghylch materion mawr tebyg i dlodi, neu drychinebau mawr?

A ydych yn helpu eraill yn eich cymuned, yn eich gweithle neu yng Nghymru a’r byd ehangach?

A ydych yn ysgwyddo cyfrifoldeb am yr amgylchedd a chynaliadwyedd?

Os gallwch ateb ‘ydw’ i’r holl gwestiynau hyn, yna rydych yn ddinesydd byd-eang. Mae dinasyddion byd-eang yn cymryd rhan yn y gymuned ar sawl lefel, yn lleol ac yn fyd-eang, gan weithio i sicrhau bod y byd yn decach, yn fwy cyfiawn ac yn gynaliadwy, a dyna beth yw hanfod Oxfam!

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi bod wrthi’n datblygu adnodd newydd sy’n archwilio byd gwaith yng Nghymru a’r byd – Gwaith Boddhaol ar gyfer Menywod – a hynny ar gyfer her Dinasyddiaeth Fyd-eang cwrs Bagloriaeth Cymru CBAC.

Mae’r adnodd hwn yn archwilio rhywedd a gwaith o amgylch y byd, gan amlygu’r cysylltiadau rhwng menywod yng Nghymru a ledled y byd. Yn fyd-eang, mae mwy o fenywod na dynion yn byw mewn tlodi, mae menywod yn ysgwyddo rhan annheg o’r gwaith gofalu di-dâl ac yn profi cyfyngiadau ar eu rhyddid. Yn Oxfam, rydym yn rhoi menywod wrth galon popeth a wnawn er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cymryd rhan gyfartal yn yr economi a byw bywyd cyfiawn a theg.

Mae’r adnodd hwn ar safle HWB, a gallwch ei gyrchu am ddim yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mae wedi’i anelu at ddisgyblion 14-16 oed (Cyfnod Allweddol 4), ond mae hefyd yn addas i fyfyrwyr sy’n astudio dinasyddiaeth fyd-eang mewn colegau, i gefnogi rhaglenni cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudio rhywedd.

Mae’r adnodd hwn yn archwilio sut y gall menywod ym mhob rhan o’r byd ei chael yn anodd cael gafael ar waith boddhaol. Hyd yn oed yn 2019, nid yw rhai menywod yn cael dilyn gyrfaoedd penodol oherwydd eu rhywedd. Yng ngwledydd yr Undeb Ewropeaidd, mae menywod yn cyfrif am ddim ond 7% o lywyddion a chadeiryddion byrddau, a dim ond 6% o’r prif weithredwyr yn y cwmnïau mwyaf. Mae menywod yn cyfrannu 10 triliwn o ddoleri i’r economi fyd-eang trwy eu gwaith gofalu a’u gwaith domestig di-dâl. Yma yng Nghymru, mae gennym y bwlch cyflog mwyaf rhwng y rhywiau yn y Deyrnas Unedig – ym Mlaenau Gwent mae yna wahaniaeth o 32% rhwng cyflog cyfartalog menywod a dynion.

Caiff dysgwyr eu herio i ddefnyddio’r sgiliau y maent wedi’u meithrin wrth astudio’r pwnc i weithredu ar yr hyn y maent wedi’i glywed, a hynny yn y ffordd fwyaf creadigol posibl.

Nid yn unig y mae’r adnodd hwn yn addysgu dysgwyr am y ffaith nad yw gwaith bob amser yn foddhaol, mae hefyd yn cefnogi Oxfam yn ei daith i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu haddysgu a’u hysbysu am faterion sy’n ymwneud ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn lleol ac yn fyd-eang, a’u bod yn ymwybodol ohonynt, a bod ganddynt y sgiliau, y gwerthoedd a’r agweddau i weithredu pe byddent yn dymuno gwneud hynny.

Mae’r adnodd yn defnyddio gwybodaeth o’r adroddiad, In-work poverty and the search for decent work for women in Wales a ysgrifennwyd gan Dr Claire Evans o Brifysgol Metropolitan Caerdydd  ac mae ffeithlun o’r adroddiad wedi cael ei ddylunio’n arbennig ar gyfer yr adnodd hwn.

Dywedodd Dr Evans, “Mae’n gyflawniad gwych cael yr adroddiad Decent Work yn adnodd ar gyfer Bagloriaeth Cymru. Ni allaf feddwl am well ffordd o ledaenu’r neges i’r genhedlaeth y bydd yn effeithio arni fwyaf”.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr adroddiad neu gael cyfle i fynd i weithdai rhad ac am ddim, cysylltwch â jjames1@oxfam.org.uk

I weld holl adnoddau Oxfam Cymru ar wefan Hwb cliciwch yma