Jessica Mason Paull a Siopau Oxfam yng Nghymru

Jessica Mason Paull a Siopau Oxfam yng Nghymru

Mae gan Oxfam dros 600 o siopau, ac mae 20 o’r rhain yng Nghymru. Mae’r siopau hyn yn ffynhonnell hanfodol o incwm ar gyfer ein gwaith i drechu tlodi yn fyd-eang. Yn ystod 2018 – 19 llwyddodd ein siopau yng Nghymru i godi £2.1 miliwn! Yn ystod y 9 wythnos yn arwain at gyfnod y Nadoilig 2019, llwyddodd siopau Cymru i godi £510,000.

Mewn datganiad ddoe, cyhoeddodd Oxfam bod gwerthiant y siopau ar y cyd, dros gyfnod o naw wythnos yn arwain at y Nadolig, wedi cynyddu 11%, yr uchaf mewn 8 mlynedd. Ni allem wneud hyn heb ein rhoddwyr a’n cwsmeriaid gwych, ynghyd â’n rheolwyr siop a’n gwirfoddolwyr gwych, sy’n gweithio’n ddiflino i sicrhau bod ein siopau yn llwyddo. Diolch o waelod calon i bawb.

Pwy yw ein rheolwyr siop a’n gwirfoddolwyr? Pam a sut y maent yn cymryd rhan? Yn ystod y 12 mis nesaf, byddwn yn neilltuo amser i ateb y cwestiynau hyn ac i ddod i adnabod rhai o aelodau hyfryd ein timau yma yng Nghymru. Rydym am ddechrau gyda Jessica Mason Paull sy’n gweithio yng Nghaerdydd a Chas-gwent …

10 cwestiwn ar gyfer Jessica Mason Paull

1 – Dywedwch ychydig amdanoch eich hun.

Rwy’n 37 oed ac yn dod o Fryste yn wreiddiol. Syrthiais mewn cariad â Chymru ar ôl dod yma i fynd i’r brifysgol. Rwy’n weithredydd yn y bôn, bob amser am gefnogi achos da. Rwy’n gwneud dillad ac yn hoff iawn o uwchgylchu dillad, sy’n golygu fy mod yn gwneud defnydd da o’m gradd mewn Dylunio Gwisgoedd a Setiau Theatr. Mae gen i obsesiwn â chwisiau tafarn, croeseiriau, rhaglenni cwis a phethau tebyg.

2 – Pam oeddech chi wedi penderfynu gweithio i Oxfam?

Fy ‘swydd’ gyntaf erioed oedd gwirfoddoli mewn siop Oxfam pan oeddwn yn 15 oed. Byth oddi ar hynny, rwyf wedi awchu am gael rheoli fy siop Oxfam fy hun. Pan ddychwelais ar ôl bod yn byw yn Vancouver, Canada am 15 mlynedd, roeddwn wrth fy modd pan welais fod yna swydd wag yn Oxfam. Rwyf wedi bod gydag Oxfam ers bron tair blynedd, a hynny mewn tair siop wahanol, ac rwyf wedi gwirioni â’m swydd.

3 – Beth yw eich rôl, a ble ydych chi’n gweithio?

Ar hyn o bryd, fi yw Rheolwr y siop yng Nghas-gwent a Dirprwy Reolwr y siop ar Heol yr Eglwys Newydd a’r Hwb Ar-lein yng Nghaerdydd. Rwy’n gweithio 12 awr yr wythnos yng Nghas-gwent hyd nes y bydd y rheolwr newydd yn dechrau yno, a 24 awr yr wythnos yng Nghaerdydd.

4 – Beth sy’n digwydd mewn diwrnod arferol?

Ddoe, deffrais am 7am, ac roeddwn ar y ffordd gyda’m coffi erbyn 7.30am. Rwy’n cyrraedd Cas-gwent ychydig cyn 9am, pan rydym yn agor. Agorais y siop a rhannais yr wybodaeth ddiweddaraf â’m gwirfoddolwyr, sef Ellie, sydd yn y brifysgol, a Margaret, sy’n athrawes gelf ymddeoledig sydd â synnwyr ffasiwn gwych.

Mae gennym amrywiaeth eang o stoc i’w drefnu a’i arddangos yn y siopau. Rydym yn gwerthu ein cynnyrch ail law hyfryd, yn ogystal â chynnyrch newydd, sy’n rhan o’n dewis Sourced By Oxfam newydd; coffi masnach deg, siocledi Divine, nwyddau ystafell ymolchi, eitemau i’r cartref, megis hylif golchi dillad ecogyfeillgar, sanau, eitemau a wnaed o ffabrig wedi’i ailgylchu, er enghraifft bagiau sari, rhoddion masnach deg prydferth a swag Moomins, yn ogystal â detholiad o dros 100 o gardiau.

Rydym hefyd yn gwerthu ein rhoddion Oxfam heb eu lapio; dyma’r anrhegion yr ydych yn eu cael ar gyfer pobl sydd â phopeth neu os nad ydych yn gwybod beth i’w brynu. Gallwch brynu cerdyn sy’n darparu dŵr diogel ar gyfer teulu o 4 (£10), addysg ar gyfer plentyn (£19), neu’r Coblyn Cudd poblogaidd am uchafswm o £5.

Ar ôl trefnu’r stoc, cefais gyfarfod â gwirfoddolwr newydd, a oedd wedi dod i mewn am sgwrs gychwynnol; mae’n wirfoddolwr Dug Caeredin, a bydd yn dechrau cyn hir. Mae arnom angen rhagor o wirfoddolwyr bob amser, ac rwy’n treulio cyfran fawr o’m hamser yn recriwtio gwirfoddolwyr, yna’n hyfforddi ac yn cadw’r gwirfoddolwyr hynny.

Rydym yn cymryd diogelwch gwirfoddolwyr o ddifrif, ac mae gennym nifer o fesurau ar waith i ofalu am y rheiny sydd o dan 18 neu sy’n oedolion agored i niwed. Mae pob gwirfoddolwr newydd yn cael sesiwn gynefino ar iechyd a diogelwch, ac rydym yn gwirio eu geirdaon, yn cynnal asesiadau risg ac yn rhoi hyfforddiant diogelwch iddynt.

Ganol y bore, cefais gyfle i wneud fy hoff ran o’r swydd – mynd trwy roddion! Wyddoch chi ddim beth y byddwch yn dod ar ei draws, a dydych chi byth yn diflasu ar agor rhoddion newydd. Mae uchafbwyntiau ddoe yn cynnwys côt Karen Millen, casgliad mawr o lyfrau Terry Pratchett, a bag llaw Jaeger mewn cyflwr perffaith. Mae pobl mor hael, ac mae’n syndod cyson i mi pa mor garedig yw pobl.

Roeddem wedi cau’r siop am 5pm; bu’n ddiwrnod da, roeddem wedi gwneud dros £300. Mae hynny’n iawn ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn. Cychwynnais am adref tua 5.30pm, yn barod i roi cwtsh i’r ci erbyn 7pm.

5 – Mae pobl yn tueddu i feddwl bod gwirfoddolwyr wedi ymddeol neu’n hŷn, ond mae’n swnio fel pe bai yna amrywiaeth o wirfoddolwyr yn eich siop chi

Oes! Yn fy siopau i, mae ein gwirfoddolwr ieuengaf yn 14 oed, ac mae’r hynaf yn 78 oed. Mae ein timau mor amrywiol â’n cymuned. Yr wythnos diwethaf, cefais fy sifft gyntaf gyda gwirfoddolwr o Uganda, sydd yma ar gyfer y brifysgol ac sy’n llawn cyffro ynghylch helpu. Mae gan rai o’n gwirfoddolwyr iau ddiddordeb mewn cael profiad gwaith a datblygu eu CVs, tra bo rhieni ifanc yn hapus i ailgydio mewn gwaith trwy wirfoddoli am fore yr wythnos gyda ni.

6 – O ble y daw’r stoc? Pwy sy’n rhoi?

Mae pobl yn wych, mae’r rhoddion a ddaw trwy ein drws yn fy syfrdanu. O ddillad sydd â’r tagiau arnynt o hyd i hen lyfrau ac eitemau casglu prin, rydym mor lwcus bod gennym gefnogwyr rhyfeddol sy’n rhoddi mor hael. Rydym hefyd yn rhannu’r stoc rhwng siopau ac yn helpu ein gilydd cymaint ag y gallwn.

Oherwydd bod gennym siopau arbenigol, gallwn anfon rhoddion mwy anarferol iddyn nhw, er enghraifft, bydd casgliadau penodol o lyfrau yn mynd i’n siopau llyfrau, nu bydd ffrogiau priodas yn mynd i’n bwtîcs priodasol.

Caiff ein holl gynnyrch newydd eu dethol a’u dewis yn unol â meini prawf llym gan ein tîm Cynnyrch Newydd, a hynny er mwyn sicrhau’r safonau moesegol uchaf a chyn lleied o effaith â phosibl ar yr amgylchedd. Caiff rhai o’r cynnyrch newydd, er enghraifft ein harogldarth, eu gwneud yn Midsommer Norton ger Caerfaddon, a daw eraill o gwmnïau cydweithredol o weithwyr yn India  Bangladesh. Mae ein holl gynnyrch newydd yn nodi’r wlad wreiddiol, a gallwch weld rhagor o fanylion ar ein gwefan ynghylch o ble y maent yn dod a’r broses o sut y maent yn cyrraedd ein siopau.

7 – Beth sy’n digwydd i’r stoc nad yw’n ddigon da i’w werthu?

Bydd unrhyw ddillad neu ategolion y gallwn eu defnyddio yn cael eu hanfon i’n cyfleuster arbed gwastraff, lle cânt eu defnyddio ar gyfer siopau dros dro, eu gwerthu ar-lein neu eu hailgylchu. Does dim byd yn mynd i safleoedd tirlenwi. Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd i leihau gwastraff.

8 – Dywedwch wrthym am yr eitemau mwyaf diddorol/enwog sydd wedi cael eu gwerthu/ar fin ymddangos yn eich siop.

Yn ddiweddar, roeddem wedi gwerthu cyfres o lyfrau comics The Sandman gan Neil Gaiman am £180 yn ein siop ar-lein. Mae gennym gatalog anhygoel o dros 2,000 o lyfrau comics sy’n cael eu rhoi ar-lein yn ein Siop Ar-lein yn Heol yr Eglwys Newydd; mae rhai yn hynod o brin ac anarferol. Mae un gwirfoddolwr ymroddedig, Graham, wedi eu rhoi mewn trefn dros gyfnod o fisoedd, ac rydym yn dechrau eu gwerthu, felly cofiwch edrych ar ein siop ar-lein o bryd i’w gilydd.

Cadwch olwg am ein dillad dylunydd newydd sbon gan frandiau ffasiwn sy’n cefnogi Oxfam, yn ogystal â dillad hyfryd o dras ar gyfer menywod.

9 – Sut y mae Oxfam yn defnyddio’r incwm o’r siopau?

Mae’r tîm yng Nghymru yn codi cannoedd o filoedd o bunnoedd ar gyfer Oxfam. Mae’r incwm o’n siopau bron yn gwbl anghyfyngedig, sy’n golygu y gall Oxfam ddefnyddio’r arian lle mae ei angen fwyaf. Ar adeg o newid yn yr hinsawdd a nifer cynyddol o drychinebau naturiol, mae’r cyllid hwn yn hanfodol ar gyfer ein gwaith cymorth brys sy’n achub bywydau. Mae sicrhau ffrwd incwm gyson gan ein siopau flwyddyn ar ôl blwyddyn yn golygu y gall Oxfam gynllunio ar gyfer y dyfodol a bod yn fwy effeithiol o ran ein gwaith. Yn syml, mae siopau Oxfam wrth galon y ffordd y mae Oxfam yn brwydro i roi diwedd ar dlodi ledled y byd.

10 – I’r rheiny sy’n dymuno gwirfoddoli eu hamser – beth a ddylid ei wneud?

Os hoffech fod yn rhan o’r byd rhyfeddol, hwyliog a heriol hwn, rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr. A oes gennych bwnc arbenigol? A ydych yn ffotograffydd gwych? A ydych wrth eich bodd yn ymwneud â phobl? Ai person rhifau ydych chi? A ydych yn hoff o gynnal digwyddiadau? Os oes unrhyw un o’r uchod yn wir, neu os ydych am helpu mewn unrhyw ffordd y gallwch, cysylltwch â’ch siop leol trwy’r cyfleuster chwilio am siop ar ein gwefan. Rydym yn darparu’r holl hyfforddiant angenrheidiol, mae yna lu o ffyrdd y gallwch gymryd rhan, a dylid darparu geirda ar gais.

Diolch i’r hyfryd Jess am roi cipolwg go iawn i ni ar fyd ein siopau Oxfam … tybed pwy y byddwn yn ei gyfarfod nesaf?

Heulwen Davies, Oxfam Cymru