Mae ymchwil yn dangos bod yn well gan bobl ddarllen llyfrau go iawn o hyd – Oxfam

Mae mwy na dwy ran o dair o bobl yn dal i ddewis llyfr clawr meddal neu glawr caled, er gwaethaf gallu darllen straeon ar lechi, ffonau, Kindles a gwrando ar lyfrau llafar, yn ôl arolwg o 2,000 o oedolion ledled y DU a gomisiynwyd gan Oxfam.

Mae bron hanner y rheini (46 y cant) yn hoffi gallu troi’r tudalennau eu hunain, ac mae’n well gan 42 y cant deimlo’r llyfrau yn eu dwylo.

Cyfaddefodd chwarter hefyd eu bod wrth eu bodd ag arogl llyfr, mae 32 y cant yn teimlo eu bod yn ymgolli mwy mewn stori llyfr corfforol, ac mae 16 y cant yn cael eu hatgoffa o lyfrgelloedd.

Ar ôl i silffoedd llyfrau ddod yn gefndir poblogaidd ar gyfer galwadau fideo yn ystod y cyfyngiadau symud, cyfaddefodd 35 y cant hefyd ei bod yn well ganddynt lyfrau corfforol oherwydd y gallant eu hychwanegu at silff lyfrau.

Canfu’r ymchwil, er gwaethaf y chwyldro digidol, mai dim ond 16 y cant oedd yn ffafrio darllen e-lyfr, a bod llai na chwech y cant yn troi at lyfrau llafar.

Datgelodd fod yr oedolyn cyffredin ar hyn o bryd yn berchen ar 49 o lyfrau clawr meddal neu glawr caled ac yn darllen am oddeutu tair awr yr wythnos.

Dangosodd yr arolwg hefyd mai llyfrau yw’r eitemau y mae pobl yn fwyaf tebygol o’u prynu’n ail-law, ac mai llyfrau yw’r categori eitemau ail-law sy’n tyfu fwyaf yn Oxfam.

Mae mwy na saith o bob 10 (71 y cant) yn prynu llyfrau ail-law oherwydd eu bod yn rhatach, ac mae 52 y cant yn hoffi’r ffaith bod hynny’n fwy ecogyfeillgar.

Mae eraill yn hoffi darllen llyfrau ail-law oherwydd yr arogl (18 y cant), y gwead (18 y cant), a’r ffaith y gallech ddod o hyd i lythyr neu nodyn y tu mewn (15 y cant).

Ac mae 45 y cant yn hoffi meddwl o le y mae llyfrau ail-law wedi dod.

Dywedodd Joan Randle, Rheolwr Siop Llyfrau a Cherddoriaeth Oxfam Aberystwyth: “Mae’r pandemig wedi cadarnhau cariad parhaus Cymru at lyfrau corfforol: mae pobl wedi bod yn cael llawer o gysur wrth ddarllen, ac rydym i gyd wedi gweld silffoedd llyfrau pawb, sydd wedi’u rhoi at ei gilydd yn ofalus, yng nghefndir y galwadau Zoom.

“Yma yn Aberystwyth, mae ein siop yn drysorfa go iawn – gallwch ddod o hyd i ystod enfawr o lyfrau ffeithiol yn ogystal â phopeth o nofelau argraffiad cyntaf i lyfrau casgladwy prin i ddetholiad helaeth o lyfrau Cymraeg.

“Mae siopau Oxfam yn fwy na siopau llyfrau yn unig: maent yn ganolfannau cymunedol ac rydym yn hynod ddiolchgar am ein llu o gefnogwyr ffyddlon sy’n rhoi, yn siopa ac yn gwirfoddoli yma.

“Wrth gwrs, y rhan orau am brynu llyfrau ail-law gan Oxfam yw’r ffaith eich bod yn gwneud eich rhan i frwydro yn erbyn tlodi ac i wneud y byd yn lle tecach i bawb. Boed i gariad Cymru at lyfrau corfforol barhau!”

Cyfaddefodd bron hanner (45 y cant) y rhai a holwyd eu bod wedi darllen mwy o lyfrau nag arfer ers dechrau’r cyfyngiadau symud, a bydd 84 y cant o’r rhai sy’n mynd ar wyliau’r haf hwn yn mynd â llyfr gyda nhw.

Ar ôl yr ymchwydd mewn darllen, dywedodd tri chwarter y rhai a holwyd eu bod yn ystyried rhoi eu llyfrau ar ôl eu darllen, a dywedodd 72 y cant arall eu bod yn aml yn prynu llyfr ail-law eu hunain.

Canfu’r astudiaeth hefyd fod bron chwech o bob deg (58 y cant) o ddarllenwyr yn honni bod llyfr da yn eu helpu i ymlacio, a bod 46 y cant yn defnyddio llyfr i ddianc o’r byd go iawn.

Ond mae mwy na thri o bob 10 yn darllen llyfrau i ddysgu rhywbeth newydd ac mae 39 y cant yn gwneud hynny i deimlo’n hapus.

Dywedodd Derrick Noakes, Rheolwr Siop Hwlffordd Oxfam: “Nid yw’n syndod o gwbl clywed bod yr adroddiadau am farwolaeth llyfrau corfforol wedi eu gorliwio’n fawr; mae gennym gwsmeriaid di-ri sydd wrth eu bodd yn dod i mewn ac yn edrych ar ein silffoedd. I lawer o bobl, mae’r pandemig wedi arwain at adfywiad gwirioneddol mewn darllen; does dim byd tebyg i gysur a dihangfa llyfr da.

“Wrth gwrs, nid dim ond y dewis rhatach, mwy ecogyfeillgar yw prynu llyfrau ail-law gan Oxfam, ond mae hefyd yn ein helpu i godi arian i ddarparu dŵr glân a sebon a allai achub bywydau pobl mewn cymunedau ledled y byd sy’n wynebu bygythiad COVID-19. A’r rhan orau yw; ar ôl i chi ei ddarllen, gallwch bob amser roi’r llyfr yn ôl i ni er mwyn i rywun arall ei fwynhau!”

Canfu’r ymchwil, a gynhaliwyd gan OnePoll, fod 49 y cant o oedolion yn aml yn prynu eitemau ail-law, a llyfrau, ceir, dillad, CDs a DVDs sydd ar frig y rhestr.

Mae ychydig dros hanner o bobl Prydain yn cytuno bod prynu eitemau ail-law yr un mor dda â phrynu eitemau newydd, ac mae 59 y cant yn dweud bod hynny’n fwy apelgar nawr nag yr arferai fod.

/DIWEDD

I gael rhagor o wybodaeth a threfnu cyfweliadau, cysylltwch â: Rebecca Lozza, Cynghorydd Cyfryngau a Chyfathrebu Oxfam, Yr Alban a Chymru: rlozza1@oxfam.org.uk/07917738450

Nodiadau i Olygyddion

  • Oxfam yw gwerthwr llyfrau ail-law mwyaf Ewrop.
  • Mae gan Oxfam fwy na 500 o siopau stryd fawr ag adran lyfrau, gan gynnwys 120 o siopau llyfrau arbenigol.
  • Mae gan Oxfam gyfanswm o 18 o siopau yng Nghymru, sydd i’w gweld yn: Y Fenni, Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Aberteifi, Caerfyrddin, Cas-gwent, Hwlffordd, Y Gelli Gandryll, Llandrindod, Yr Wyddgrug, Trefynwy, Penarth, Port Talbot, Porthmadog ac Abertawe.
  • Mae Siop Ar-lein Oxfam yn cynnwys miloedd o lyfrau, o straeon antur i lyfrau hanes, llyfrau casgladwy i ffuglen droseddol. I siopa am lyfrau yn y siop ar-lein, ewch i oxfam.org.uk/books