Oxfam Cymru yn apelio am ragor o wirfoddolwyr wrth i’r siopau baratoi ar gyfer toreth o roddion

Mae Oxfam wedi cyhoeddi apêl frys am wirfoddolwyr i helpu siopau’r stryd fawr i ddelio â thoreth o roddion y disgwylir eu cael wrth iddo baratoi i ailagor ei 18 o siopau yng Nghymru ar ddydd Llun 12 Ebrill.

Mae Oxfam yn brin o gannoedd o wirfoddolwyr yng Nghymru, wrth i rai o’r gwirfoddolwyr presennol fethu dychwelyd ar hyn o bryd am eu bod yn gwarchod eu hunain.

Mae timau’r siopau yn ymbaratoi ar gyfer nifer sylweddol o roddion yn dilyn gwaith tacluso ar ôl y cyfyngiadau symud, yn ogystal â phobl yn ceisio cael gwared ar roddion Nadolig diangen. Mae angen rhagor o wirfoddolwyr i helpu i roi trefn ar y rhoddion a’u gwerthu, a hynny er mwyn codi cymaint o arian â phosibl ar gyfer gwaith hanfodol Oxfam ledled y byd.

Dywedodd Tom Richardson, Pennaeth Manwerthu Dros Dro Oxfam: “Mae’r arian a godir gan y staff a’r gwirfoddolwyr ymroddedig yn siopau Oxfam yng Nghymru yn helpu i ymladd tlodi ac anghyfiawnder ledled y byd; gan ddarparu hanfodion sy’n achub bywyd i bobl, er enghraifft dŵr glân a sebon, yn ogystal â’r gobaith am well dyfodol.

“Gwyddom, oddi ar y cyfyngiadau symud diwethaf, y bydd pobl wedi manteisio ar y cyfle i glirio, ac rydym yn rhagweld y byddwn yn cael toreth o roddion. Wrth i ni baratoi i fynd ‘nôl i fusnes fel arfer mewn ffordd sy’n ddiogel o ran COVID, rydym yn annog pobl o bob cefndir sydd am fyw mewn byd tecach, mwy cynaliadwy i ystyried rhoi un o’r rhoddion gorau posibl: eu hamser.”

Gofynnir i wirfoddolwyr neilltuo cyn lleied ag ychydig oriau yr wythnos o’u hamser, a gallant ymgymryd ag amrywiaeth o rolau hanfodol, o weini cwsmeriaid i roi trefn ar roddion a threfnu arddangosfeydd yn y ffenestri. Mae pob siop fel arfer yn dibynnu ar dîm o 30 o wirfoddolwyr ymroddedig, ynghyd ag un neu ddau aelod o staff, ac mae angen dros 500 o wirfoddolwyr ledled y wlad.

Mae Oxfam yn apelio nid yn unig am wirfoddolwyr, ond hefyd am roddion o ansawdd de, i gynnwys dillad, llyfrau, cerddoriaeth a bric-a-brac.

Dywedodd Tom Richardson: “Mae pobl o bob cwr o Gymru bob amser wedi bod yn hael o ran eu cefnogaeth i siopau Oxfam, boed hynny trwy siopa, rhoddi neu wirfoddoli, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu pobl trwy ein drysau mewn modd diogel unwaith eto. O ystyried swm y rhoddion yr ydym yn disgwyl eu cael, rydym yn rhagweld y bydd ein siopau yn ffynhonnell gudd o drysorau ar gyfer siopwyr deallus, cynaliadwy.”

Mae amddiffyn staff, gwirfoddolwyr a chwsmeriaid rhag COVID-19 yn dal i fod yn flaenoriaeth i Oxfam, ac mae timau’r siopau yn parhau i weithredu protocol llym, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol, sicrhau bod hylif diheintio dwylo ar gael yn rhwydd, masgiau a menig ar gyfer y staff, sgriniau wrth y tiliau, glanhau’n rheolaidd ac yn aml, cadw’r ystafelloedd newid ynghau, ac annog taliadau digyffwrdd.

Cyn i’r siopau yng Nghymru ailagor, gwahoddir pobl i gofrestru eu diddordeb mewn gwirfoddoli  ar-lein.

/DIWEDD

I gael rhagor o wybodaeth a threfnu cyfweliadau, cysylltwch â: Rebecca Lozza, Cynghorydd Cyfryngau a Chyfathrebu Oxfam, Yr Alban a Chymru: rlozza1@oxfam.org.uk / 07917738450  

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae gan Oxfam rwydwaith o dros 500 o siopau ar y stryd fawr ar hyd a lled Prydain, gan gynnwys 18 yng Nghymru. Gellir dod o hyd i siopau Oxfam yng Nghymru yn: Y Fenni, Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Aberteifi, Caerfyrddin, Cas-gwent, Hwlffordd, Y Gelli Gandryll, Llandrindod, Yr Wyddgrug, Trefynwy, Penarth, Port Talbot, Porthmadog ac Abertawe.
  • Pan fydd y siopau yng Nghymru wedi ailagor, byddant yn derbyn amrywiaeth eang o eitemau rhoddedig, gan gynnwys dillad ac ategolion, llyfrau, recordiau, CDs, DVDs a nwyddau cartref,

Pum Awgrym gan Oxfam ynghylch Sut i Roi:

  • Pethau glân. Lle bo hynny’n bosibl, golchwch ddillad a thecstilau mewn peiriant golchi, a glanhewch arwynebau solid.
  • Meddyliwch am y math o eitemau y gallwn eu gwerthu. Gofynnwch i chi eich hun, “A fyddai rhywun yr wyf yn ei adnabod yn prynu hwn?” Os “Byddai” yw’r ateb, yna byddem yn falch o’i gael.
  • Ffoniwch ymlaen llaw pan fyddwch yn barod i roddi, a hynny er mwyn gwirio’r amser gorau ar gyfer eich siop leol.
  • Gwasgarwch eich rhoddion, yn hytrach na dod â phopeth ar unwaith. Rydym yn gwerthfawrogi nad oes gan bawb lawer o le i storio, a byddem wrth ein bodd yn helpu i glirio eich llanast o’ch cartref ar yr adeg gywir; a chofiwch ddod â’ch rhoddion mewn bagiau neu focsys na fyddwch am eu cael yn ôl.
  • Cofiwch gynnwys Rhodd Cymorth gyda’r eitemau yr ydych yn eu rhoi; mae’r cynllun hwn yn caniatáu i elusennau hawlio 25% yn ychwanegol wrth werthu eich rhoddion. Wrth i chi roi tag Rhodd Cymorth ar eich bag, byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi faint o arian y mae eich eitemau wedi’i godi ar gyfer ein gwaith, sy’n cynnwys cefnogi pobl ifanc sy’n wynebu’r coronafeirws ledled y byd.