Oxfam Cymru yn ymateb i ymchwiliad Pwyllgor i ofal plant yng Nghymru

Heddiw, mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol Senedd Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy’n archwilio’r rhwystrau y gall darpariaeth gofal plant ei achosi i rieni, yn enwedig menywod, o ran ymuno â’r farchnad lafur a symud ymlaen ynddi.

Yn ei adroddiad, ‘Gwarchod y dyfodol: y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio’, mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu a gwella ei chynllun gofal plant â chymhorthdal sydd ar gael ar hyn o bryd i rai rhieni ledled Cymru.

O dan gytundeb cydweithredu Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, mae’r Cynnig Gofal Plant cyfredol i gael ei ehangu, ond mae’r Pwyllgor yn nodi y bydd ehangu’r cynnig cyfredol heb fynd i’r afael â’r materion hyn yn gwneud dim mwy nag arwain at broblemau pellach.

Rhoddodd Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru, dystiolaeth i’r Ymchwiliad, gan alw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ac ehangu’r Cynnig Gofal Plant cyfredol ar fyrder er mwyn helpu i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ledled y wlad.

Yn ei hymateb i’r adroddiad, croesawodd Sarah Rees alwad y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r bwlch rhwng diwedd absenoldeb mamolaeth/rhiant a dechrau gofal plant â chymhorthdal.

Dywedodd Sarah Rees: “Mae’r adroddiad hwn yn rhoi sylw sydd i’w groesawu i’r bylchau enfawr sy’n bodoli yn y cymorth yng nghynllun gofal plant Llywodraeth Cymru. Fel y mae ar hyn o bryd, mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn ddiffygiol yn achos llawer gormod o rieni: yn enwedig y rhai sydd eisoes yn byw mewn tlodi. Yn hytrach na chyflwyno cynllun sylfaenol ddiffygiol ymhellach, rhaid i Lafur Cymru a Phlaid Cymru achub ar y cyfle i lunio Cymru decach, fwy cyfartal trwy ailwampio’r Cynnig Gofal Plant yn llwyr fel ei fod ar gael i bob rhiant, ac yn gynt.”

/DIWEDD

I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â: Rebecca Lozza, Cynghorydd y Cyfryngau a Chyfathrebu Oxfam, Yr Alban a Chymru: rlozza1@oxfam.org.uk / 07917738450