Pryderon ynghylch yr amgylchedd yn gyrru pobl Prydain i brynu’n ail-law y Nadolig hwn, yn ôl ymchwil gan Oxfam

Mae miliynau o bobl ecoymwybodol am gael Nadolig ‘ail-law’ eleni – gyda 31 y cant yn bwriadu prynu anrhegion ail-law er mwyn bod yn fwy ecogyfeillgar.

Datgelodd astudiaeth ledled y DU o 2,000 o oedolion sy’n dathlu’r Nadolig fod 62 y cant yn ystyried bod yr argyfwng hinsawdd presennol yn ffactor pwysig wrth brynu eitemau ail-law.

Mae bron chwarter (24 y cant) yn newid eu harferion prynu y Nadolig hwn er mwyn osgoi gwastraff, gyda 23 y cant am brynu rhoddion ail-law a allai fel arall fynd i safle tirlenwi pe na baent yn cael eu hailgylchu gan siop elusen.

Ac yn gyffredinol mae dros hanner (52 y cant) yn teimlo’n ‘hapusach’ yn prynu anrhegion Nadolig ail-law na rhai newydd sbon.

Pan ofynnwyd iddynt am eu hagweddau tuag at gael anrheg Nadolig ail-law, mae 42 y cant yn fwy agored i hynny ‘nawr nag mewn blynyddoedd blaenorol.

Canfu’r astudiaeth, a gomisiynwyd gan Oxfam, fod rhoddion ail-law yn llawer mwy derbyniol ‘nawr – gyda 31 y cant yn teimlo eu bod yn gwneud y peth iawn dros yr amgylchedd ac 17 y cant yn ‘teimlo’n dda’ am lawer hirach nag wrth brynu rhywbeth newydd yn anrheg Nadolig.

Dywedodd Lawrence Lomas, Rheolwr Ardal Fasnachu Oxfam ar gyfer Cymru: “Mae’n galonogol clywed bod cynifer o bobl ledled y DU, gan gynnwys yma yng Nghymru, yn bwriadu gwneud dewisiadau mwy cynaliadwy y Nadolig hwn.

“Mae’n amhosib anwybyddu’r argyfwng hinsawdd sy’n ein hwynebu ni i gyd, ac mae siopwyr doeth ledled Cymru yn ymwybodol iawn o’r pwysau y mae gwastraff gormodol sy’n deillio o ffyrdd o fyw untro yn ei roi ar yr amgylchedd.

“Nid oes unrhyw reswm o gwbl pam y dylai anrhegion Nadolig gostio’r ddaear. Gallwch ddod o hyd i bob math o drysorau ail law yn siopau Oxfam: o lyfrau ‘gwerthwr gorau’ sydd fel newydd, i ffrogiau ail-law gan ddylunwyr.

“Ac wrth gwrs, trwy siopa a rhoi gyda ni, byddwch nid yn unig yn helpu i frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd, ond bydd yr arian yr ydych yn helpu i’w godi yn cynnal pobl sy’n wynebu tlodi ledled y byd. Pa anrheg well y gallech ei rhoi eleni?” Mae gan Oxfam 20 o siopau ar y stryd fawr ledled Cymru, yn gwerthu llyfrau, cerddoriaeth, dillad a bric-a-brac.

Prynodd yr awdur Mark Haddon, sy’n fwyaf adnabyddus am ysgrifennu The Curious Incident of the Dog in the Night-Time, y llyfrau The Theatrical Notebooks of Samuel Beckett: Krapp’s Last Tape a The Theatrical Notebooks of Samuel Beckett: End Game i’w bartner.

Dwedodd: “Dydy hi byth yn mynd dros ben llestri, felly mae’n anodd prynu anrhegion iddi ar y gorau. Y Nadolig hwn – yn enwedig ar ôl COP26 – mae yna ychydig o bwys ar y ddau ohonom wrth feddwl am brynu rhagor o bethau newydd diangen, felly prynu rhywbeth ail-law yw’r cyfaddawd perffaith.”

O edrych ar eu rhestrau dymuniadau Nadolig, byddai 36 y cant yn hapus i brynu llyfrau ail-law yn anrheg i rywun, yn ogystal â DVDs (21 y cant), teganau (20 y cant) a gemwaith (19 y cant).

Datgelodd yr arolwg mai llyfrau wedi’u llofnodi, llyfrau prin a chasgladwy, argraffiadau cyntaf a llyfrau ffuglen yw’r mathau mwyaf poblogaidd o lyfrau y byddai pobl yn ystyried eu prynu yn anrheg Nadolig ail-law.

Oxfam yw’r gadwyn fwyaf o siopau llyfrau ail-law yn Ewrop, gyda miloedd o deitlau ar gael i bori trwyddynt yn Siop Ar-lein Oxfam.

Wrth chwilio am anrhegion Nadolig ail-law, dywedodd 71 y cant y byddent yn ymweld â siop elusen i ddod o hyd i’r anrheg y mae arnynt ei heisiau. A byddai 43 y cant yn ystyried prynu anrheg Coblyn Cudd o’r un lle.

Yn y cyfamser, mae dros draean (35 y cant) o oedolion yn debygol o brynu anrhegion Nadolig sy’n ail-law i’w plant eleni.

Pan ofynnwyd iddynt pam, dywedodd 58 y cant na fyddai gwahaniaeth gan y plant a oedd anrheg yn newydd neu’n hen, a dywedodd 54 y cant fod dillad ail-law yn well gan fod plant yn tyfu allan o bopeth mor gyflym beth bynnag.

Mae tri o bob 10 oedolyn yn awyddus i gael rhywbeth ail-law yn anrheg Nadolig i’w plant er mwn gwneud iddynt feddwl mwy am yr amgylchedd.

/DIWEDD

I gael rhagor o wybodaeth a threfnu cyfweliadau, cysylltwch â:  Rebecca Lozza, Cynghorydd Cyfryngau a Chyfathrebu Oxfam, Yr Alban a Chymru: rlozza1@oxfam.org.uk / 07917738450   

Nodiadau i olygyddion

· Mae gan Oxfam fwy na 500 o siopau ar y stryd fawr sydd ag adran lyfrau, gan gynnwys 120 o siopau llyfrau arbenigol, yn ogystal â Siop Ar-lein Oxfam. · I ddod o hyd i’ch siop Oxfam agosaf, ewch i https://www.oxfam.org.uk/shops/