Pwyso a mesur ar Ddiwrnod Bwyd y Byd

Pwyso a mesur ar Ddiwrnod Bwyd y Byd

Heddiw yw Diwrnod Bwyd y Byd. Y thema ar gyfer 2019 yw deietau iach ar gyfer byd dim newyn. Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, tra bo dros 800 miliwn o bobl yn fyd-eang yn dioddef o newyn, mae dros 670 miliwn o oedolion a 120 miliwn o ferched a bechgyn (5–19) yn ordew, a dros 40 miliwn o blant dan bump oed dros eu pwysau.

Yma yng Nghymru yn 2018-19, darparwyd 113,373 o gyflenwadau bwyd brys, gwerth tridiau yr un, gan fanciau bwyd yn rhwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell i bobl a oedd mewn argyfwng. Roedd 40,793 o’r rhain wedi eu rhoi i blant. Daeth adroddiad gan Gynghrair Tlodi Bwyd De Cymru â thystiolaeth ynghyd ynghylch graddfa ac effaith tlodi bwyd, gan roi darlun llwm o’r sefyllfa, sefyllfa lle mae pobl debyg i chi a minnau yn ceisio eu gorau glas i roi pryd maethlon ar y bwrdd.

I 160,000 o blant ar aelwydydd yng Nghymru, mae deiet iach yn fwyfwy anfforddiadwy, ac mae plant oed derbyn yn llawer mwy tebygol o fod yn ordew na’r cyfartaledd yng Nghymru os ydynt yn byw mewn ardaloedd o amddifadedd uwch. Mae cyflawni Dim Newyn erbyn 2030 yn golygu mwy na chael bwyd i bobl sy’n newynu; mae’n golygu sicrhau bod y bwyd yn rhoi maeth i’r bobl hynny, a hefyd yn meithrin y blaned ar yr un pryd.

Mae adroddiad Tu ôl i’r Codau Bar diweddaraf Oxfam yn tystio bod yr argyfwng yn ein cadwyni cyflenwi bwyd byd-eang yn rhemp gyda thrais ar hawliau dynol, hawliau llafur a hawliau menywod, lle mae llafur gorfodol a dioddefaint cudd yn gynhwysion diangen mewn cynhyrchion sy’n amrywio o de a choco i ffrwythau a llysiau, cig a bwyd môr. Norm yw tlodi mewn gwaith yn y cadwyni cyflenwi hyn, nid eithriad, ac mae gwahaniaethu ar sail rhywedd wedi ei blethu i’r gwead.

Wrth i archfarchnadoedd rasio i gyflenwi’r bwyd rhataf, mae llai a llai o’r arian y mae defnyddwyr yn ei dalu wrth y tiliau yn cyrraedd ffermwyr, pysgotwyr a gweithwyr sy’n gweithio’n galed ar ben arall y llinell. Ar yr un pryd, mae busnesau ac aelwydydd y Deyrnas Unedig yn taflu 10.2 miliwn tunnell gywilyddus o fwyd wedi iddo fynd heibio gât y fferm, mae dros 30% o’n hallyriadau nwyon tŷ gwydr yn codi o’r system fwyd, ac arferion ffermio a physgota dwys yw prif ysgogwyr colli bioamrywiaeth. Mae archfarchnadoedd yma yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig yn helpu i normaleiddio newyn trwy gael mannau casglu ar gyfer banciau bwyd yn eu siopau (tra bydd y diffyg ‘gwaith teg’ yn rhai o’r archfarchnadoedd hyn yn debygol o yrru eu gweithwyr i geisio cymorth bwyd brys) ac yn normaleiddio gwastraff trwy ailddosbarthu bwyd dros ben i elusennau.

Mae bwyd rhad yn dod am bris – costau dynol ac amgylcheddol annerbyniol o uchel yr ydym yn parhau i fod yn hapus anwybodus yn eu cylch wrth i ni bori trwy silffoedd yr archfarchnadoedd a meddwl beth i’w gael i de. Ond, yn rhan o Ddiwrnod Bwyd y Byd, mae’n hanfodol ein bod yn pwyso a mesur lle’r ydym arni:

  • A ydym yn hapus bod hawliau i waith ac amodau byw teilwng yn cael eu gwrthod yn systematig i’r gweithwyr hynny sy’n helpu i gyflenwi’r archfarchnadoedd yr ydym yn siopa ynddynt?
  • A ydym yn pryderu mai dim ond 5% o’i hanghenion o ran ffrwythau a llysiau y mae Cymru yn ei gynhyrchu, tra bo bron i 20% o ffrwythau a llysiau’r Deyrnas Unedig yn dod o wledydd sydd mewn perygl oherwydd ymddatodiad yr hinsawdd?
  • Pan nad oes gan Gymru brinder bwyd, a yw’n dderbyniol bod yn rhaid i bobl fynd i fanciau bwyd neu wneud heb fwyd?
  • A yw hi’n iawn nad oes gan deuluoedd ar incwm isel ddigon o arian i brynu’r bwyd a argymhellir gan y llywodraeth ar gyfer deiet iach, a’u bod yn fwy tebygol o ddioddef o glefydau sy’n gysylltiedig â deiet, er enghraifft canser, diabetes, gordewdra a chlefyd coronaidd y galon?

Mae’r wythnos hon yn gyfle i ni alw am newid radical i fynd i’r afael â’r argyfyngau lluosog sy’n ein hwynebu, ac mae ffocws penderfynol, holistaidd ar fwyd yn hanfodol. Rhaid i ni roi’r gorau yma yng Nghymru i dincro ar ymylon polisi ac arferion bwyd. Yr wythnos hon: bydd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei Chynllun Gweithredu ar Fwyd a Diod yn dod i ben; bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfarfod i drafod camau gweithredu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsoddol ac ecolegol; bydd Grŵp Polisi Bwyd Cymru, sy’n datblygu, yn cwrdd â swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i leisio ei bryderon; bydd yna alwad i weithredu ar Dim Newyn ar Ddiwrnod Bwyd y Byd; a bydd Cymru’n cynnal cynhadledd y Trefi Masnach Deg Rhyngwladol ar gyfer 2019. ‘Nawr yw’r amser ar gyfer newid. Eleni, mae #DiwrnodBwydyByd yn galw am weithredu ledled sectorau i sicrhau bod deietau iach a chynaliadwy yn fforddiadwy ac yn hygyrch i bawb.

Fel yr argymhellir gan Sustain, ‘Yr hyn y mae angen i ni ei wneud ‘nawr yw torchi ein llewys, ar y cyd, a dechrau arni’.

Gan Hayley Richards, Oxfam Cymru