Tlodi yng Nghymru a’r Cynllun Gweithredu Trawsbleidiol

Tlodi yng Nghymru a’r Cynllun Gweithredu Trawsbleidiol.

Mae pen-blwydd cyntaf Grŵp Trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Dlodi y mis hwn. Flwyddyn ers ei sefydlu, mae’n foment bwysig i oedi a myfyrio ar pam y mae angen grŵp o’r fath yng Nghymru yn 2019. Mae’r ffigurau’n syfrdanol. Mae Cymru’n wynebu’r gyfradd uchaf yn y Deyrnas Unedig o ran tlodi cymharol, gyda bron un ymhob pedwar unigolyn yn byw mewn tlodi incwm cymharol.

Image: Newsha Tavakolian / Magnum Photos for Oxfam
  • Mae 25% o’r swyddi yn talu llai na’r Cyflog Byw. Mae dros hanner y bobl sy’n byw mewn tlodi mewn gwaith.
  • Yn 2017-18, Cymru oedd yr unig genedl yn y Deyrnas Unedig lle bu cynnydd mewn tlodi plant, gyda thua 29.3% o’r plant yn byw mewn tlodi
  • Yn 2017-18, darparwyd 98,350 o gyflenwadau bwyd brys, gwerth tridiau, gan fanciau bwyd yn Ymddiriedolaeth Trussell i bobl yng Nghymru a oedd mewn argyfwng. Roedd 35,403 o’r rhain yn blant.
  • Yn ôl yr Asiantaeth Safonau Bwyd, mae un rhan o bump o bobl Cymru yn poeni y bydd eu bwyd yn dod i ben, ac roedd bwyd 26% o’r bobl 16-34 oed a holwyd yng Nghymru wedi dod i ben yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
  • Mae’r Sefydliad Bwyd wedi dangos bod 160,000 o blant yng Nghymru yn byw mewn cartrefi lle mae deiet iach yn rhywbeth sy’n fwyfwy anfforddiadwy.
  • Yn 2018, roedd plant yn costio £124.85 yr wythnos ar gyfartaledd i’w teulu yn ystod gwyliau’r ysgol
  • Yng Nghymru, mae 39% o’r bobl anabl yn byw mewn tlodi.
  • Mae costau ychwanegol bod yn dlawd yn costio £490 y flwyddyn i gartrefi incwm isel cyffredin, ond, yn achos mwy nag un o bob deg o’r cartrefi hyn, mae’n costio o leiaf £780.23.
  • Erbyn 2021-22, amcangyfrifir y bydd 27% o boblogaeth Cymru yn byw mewn tlodi, ac y bydd 39% o’r plant yn byw mewn tlodi.

O ystyried y darlun llwm hwn, mae Oxfam Cymru yn galw ar i Lywodraeth Cymru greu strategaeth trosfwaol i drechu tlodi. Er mwyn arwain a chyflawni’r agenda gymhleth hon, cred Oxfam Cymru fod rôl weinidogol ar gyfer trechu tlodi yn hanfodol. Byddai’r rôl hon, a arferai fod yn rhan o fwrdd y cabinet, ond a ddiddymwyd, yn sicrhau atebolrwydd ac yn galluogi craffu ar gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru.

Yn ystod ei ymweliad â’r Deyrnas Unedig y llynedd, roedd yr Athro Philip Aston, Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol a hawliau dynol, wedi dod i’r casgliad bod ymagwedd Llywodraeth Cymru a’r Strategaeth newydd, Ffyniant i Bawb, wedi tynnu’r ffocws strategol a’r atebolrwydd Gweinidogol oddi ar leihau tlodi, a bod yna ddiffyg targedau a dangosyddion perfformiad i fesur cynnydd ac effaith. Canfu hefyd fod tlodi mewn gwaith wedi cynyddu yn ystod y degawd diwethaf, a bod swyddi cyflog isel, rhan-amser neu ansicr yn aml yn cael eu dal yn anghymesur gan fenywod, a hynny yn bennaf oherwydd anawsterau o ran cydbwyso gwaith a chyfrifoldebau gofalu.

Ar y cyfan, mae’r lefelau tlodi yng Nghymru wedi parhau’n ddigyfnewid ers degawd, ac yn rhan o gyfres o weithgareddau i fynd i’r afael â hyn, mae Oxfam Cymru yn gweithio gyda John Griffiths AC i drefnu’r Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi. Mae’r grŵp yn cynnwys Aelodau Cynulliad â diddordeb, ynghyd â sefydliadau o bob cwr o gymdeithas sifil, gan gynnwys y sector gwirfoddol, sefydliadau academaidd a sefydliadau preifat.

Image: Wales Online

Mae’r grŵp yn darparu fforwm defnyddiol i alluogi deialog â Llywodraeth Cymru ynghylch trechu tlodi. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r grŵp wedi hwyluso deialog â’r Prif Weinidog ynglŷn â strategaeth, arweinyddiaeth, gweledigaeth a chyllideb. Roedd y grŵp hefyd wedi cyflwyno Dadl Aelodau Unigol yn y Senedd ar ymagwedd Llywodraeth Cymru at drechu tlodi, a chafodd hon ei dewis gan y Pwyllgor Busnes. Pleidleisiodd Aelodau Cynulliad ledled y sbectrwm gwleidyddol yn ysgubol o blaid Llywodraeth Cymru yn newid ei hymagwedd. Pleidleisiodd yr aelodau y dylai Llywodraeth Cymru lunio strategaeth i drechu tlodi, ynghyd â chyllideb fanwl a chynllun gweithredu i’w rhoi ar waith; y dylai’r Prif Weinidog egluro’r meysydd cyfrifoldeb ar gyfer trechu tlodi ym mhob portffolio Gweinidogol, ac y dylai pob maes polisi fod yn barod i fynd i’r afael â thlodi.

Mae lefelau tlodi yng Nghymru yn parhau’n ystyfnig o uchel. Mae angen cymryd camau brys ’nawr.

Mae Oxfam Cymru yn argymell yn gryf y dylid ailgyflwyno portffolio Gweinidogol ar gyfer trechu tlodi, yn ogystal â chreu strategaeth glir, gan gynnwys cyllideb fanwl, a llinellau atebolrwydd uniongyrchol at bortffolios Gweinidogol penodol er mwyn sicrhau camau gweithredu ar unwaith.

Gallwch ein helpu i yrru’r newidiadau hyn yn eu blaen.

Os ydych yn rhan o sefydliad sy’n gweithio i drechu tlodi yng Nghymru, cysylltwch â ni yn Oxfam Cymru i ddarganfod sut y gallwch ymuno â’r mudiad ymgyrchol hwn trwy ein Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi neu ein cynghrair gwrthdlodi.

Os ydych yn unigolyn sydd am alw ar eich Aelod Cynulliad i wneud rhagor i drechu tlodi yng Nghymru, cysylltwch â ni yn Oxfam Cymru i ddarganfod sut y gallwn gefnogi eich galwad am newid.

Wnawn ni ddim byw â thlodi.

Claire Cunnliffe, Oxfam Cymru.