Y nifer uchaf erioed o lofnodion am gadw siopau elusennol Cymru

Mae deiseb ac arni 22,191 o enwau wedi’i chyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol i arbed siopau elusennol Cymru.

Mae’r ddeiseb, sydd â’r nifer fwyaf o lofnodion o’r sector manwerthu, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wrthod cynigion a fyddai’n cyfyngu ar y rhyddhad hanfodol rhag ardrethi busnes sydd ar gael i siopau elusennol Cymru.

Warren Alexander, prif weithredwr y Gymdeithas Manwerthu Elusennol, sef llais manwerthwyr elusennol Cymru, a gyflwynodd y ddeiseb ar y cyd ag ymgyrchwyr a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr mudiadau elusennol yng Nghymru, sef Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Tenovus, Oxfam Cymru, Sefydliad Paul Sartori a Chymdeithas Croes Goch Prydain ac Aelodau Cynulliad Alun Ffred Jones, Eluned Parrott, Mark Isherwood, Nick Ramsay, Mark Drakeford, Julie Morgan and Russell George.

Dywedodd Warren Alexander: “Rydyn ni wrth ein bodd ar gefnogaeth y cyhoedd, ac mae 22,191 o lofnodion yn nifer aruthrol ar gyfer deiseb gyhoeddus fel hon, gan bwysleisio’r gwrthwynebiad cryf o du’r sector elusennol a’r cyhoedd yng Nghymru, a’r gefnogaeth a’r anwyldeb at eu siopau elusennol sydd gan bobl Cymru.”

Fe wnaeth dros 250 o siopau elusen gymryd rhan, gan gynnwys y sefydliadau canlynol: British Heart Foundation, Arthritis Research, Barnardo’s Cancer Research UK, Bobath Children’s Therapy Centre Wales, British Red Cross, Cancer Research Wales, Cats Protection, Kidney Research, Marie Curie Cancer Care, Oxfam, Paul Sartori Foundation, PDSA, Save the Children UK, Scope, Tenouvus, Ty Hafan and YMCA.

Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno i William Powell, cadeirydd Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol ar risiau’r Senedd ddydd Mercher 9 Ionawr.  Mae’r ddeiseb yn dweud: “Mae siopau elusennol yn gwneud cyfraniad hanfodol at godi arian i ystod aruthrol o achosion da yng Nghymru. Mae 100 y cant o’u helw yn mynd i elusennau, gan godi dros £12 miliwn bob blwyddyn yng Nghymru.

Bydd cynigion sy’n gostwng y rhyddhad rhag ardrethi busnes i siopau elusennol yng Nghymru yn lleihau’r incwm hwn, ac yn peri bod siopau elusennol yn cau, gan adael mwy o siopau gwag ar y stryd fawr yng Nghymru a bygwth 700 o swyddi amser-llawn a 9,000 o gyfleoedd i wirfoddoli sy’n cael eu cynnig gan siopau elusennol Cymru. Bydd yn lleihau’n sylweddol ar y gwasanaethau y mae’r elusennau’n gallu eu darparu yng nghymunedau Cymru.

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wrthod cynigion a fydd yn cyfyngu ar y rhyddhad rhag ardrethi sy’n hanfodol i siopau elusennol Cymru.”