Cymru ar y trywydd iawn i ailsefydlu ein cyfran deg o ffoaduriaid

Mae Cymru ar y trywydd iawn i ailsefydlu ei gyfran deg o ffoaduriaid o Syria, yn ôl ffigyrau newydd a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref heddiw [24 Mai].

Rhwng mis Ionawr a Mawrth 2018, cafodd 75 o ffoaduriaid eu hailsefydlu yng Nghymru ar draws saith Awdurdod Lleol gwahanol, trwy Gynllun Adsefydlu Pobl o Syria sy’n Agored i Niwed.

Yn ôl amcangyfrifon gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru yn 2015, gall Cymru dderbyn dros 1,600 o ffoaduriaid. Hyd yn hyn, mae cyfanswm o 720 wedi cael eu croesawu ers i’r cynllun ddechrau yn 2015.

Dywedodd Kirsty Davies-Warner, Pennaeth Oxfam Cymru;

“Mae’r ffigyrau hyn yn hynod o galonogol, ac yn dangos fod Cymru yn parhau i fod yn barod i gymryd ein cyfran deg o ffoaduriaid.

“Mae pobl a grwpiau ar draws Cymru wedi dangos parodrwydd gwirioneddol i groesawu ffoaduriaid i’w cymunedau, ac mae Awdurdodau Lleol bob amser yn chwilio am ffyrdd o gefnogi ag ailsefydlu ffoaduriaid i’w hardaloedd. Rydw i’n gobeithio fod hyn yn arwydd fod Cymru yn cymryd y camau angenrheidiol i ddod yn Wlad o Noddfa.

“Er hyn, nid yw’r gwrthdaro yn Syria yn dangos unrhyw arwydd o ddod i ben, ac mae hi mor bwysig ag erioed ein bod ni yma’n Nghymru yn parhau i gynnig croeso cynnes i’r rhai sydd yn ffoi o drais a chaledi na allwn ni ei ddychmygu.”

DIWEDD

Nodiadau i’r Golygydd

  • Mae ffigyrau diweddaraf y swyddfa Gartref i’w cael trwy ddilyn y ddolen yma: https://www.gov.uk/government/publications/immigration-statistics-year-ending-march-2018/how-many-people-do-we-grant-asylum-or-protection-to   
  • Mae’r gwrthdaro yn Syria bellach yn ei wythfed flwyddyn. Mae 400,000 o bobl wedi colli eu bywydau, a dros hanner o boblogaeth y wlad wedi gorfod ffoi. Mae gwledydd cyfagos wedi cymryd 5.6 miliwn o ffoaduriaid, ond gyda’r ymladd yn parhau, mae hi mor bwysig ag erioed fod Cymru yn cadw ar y llwybr iawn trwy groesawu mwy.
  • Mae Oxfam yn canolbwyntio ar adsefydlu isadeiledd dŵr, ac wedi darparu dŵr glân i fwy na 1.5 miliwn o bobl mewn 10 ardal lywodraethol, ac yn gweithio ar hyrwyddo iechyd cyhoeddus, rheolaeth o wastraff solet a chefnogi bywoliaethau.