Archfarchnadoedd yn gwasgu miliynau o’r ffermwyr a’r gweithwyr tlotaf yn eu cadwyn gyflenwi

Archfarchnadoedd yn gwasgu miliynau o’r ffermwyr a’r gweithwyr tlotaf yn eu cadwyn gyflenwi

Mae miliynau o bobl sy’n cynhyrchu bwyd ar gyfer archfarchnadoedd yn byw mewn tlodi ac yn dioddef amodau gwaith creulon, gyda nifer fawr heb ddigon i’w fwyta, yn ôl adroddiad byd-eang newydd ar gadwyni cyflenwi a gyhoeddwyd gan Oxfam heddiw

Mae Ripe for Change yn dangos sut mae archfarchnadoedd, gan gynnwys Tesco, Sainsbury’s, Morrisons, Asda, Aldi a Lidl, yn gynyddol leihau’r pris maen nhw’n dalu i’w cyflenwyr gyda llai a llai o’r pris a delir wrth y til yn cyrraedd y ffermwyr graddfa-fach a’r gweithwyr sy’n cynhyrchu’r bwyd. Mae hyn, ynghyd â gwanhad yn nylanwad ffermwyr ar raddfa fach a gweithwyr, yn arwain at ecsploetiaeth economaidd, dioddefaint, anghydraddoldeb a thlodi.

O’r cadwyni cyflenwi a ddadansoddwyd, doedd yr un yn caniatáu pobl i ennill digon o gyflog i dalu am safon byw sylfaenol, ac yn rhai achosion fel te India a ffa gwyrdd Kenya, roedd yn llai na hanner yr hyn sydd ei angen i fyw yn iawn. Mae merched yn wynebu anffafriaeth gyson, ac yn aml yn darparu’r rhan fwyaf o’r llafur ac yn derbyn y cyflog isaf.

Mae Oxfam, mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill, wedi gwneud arolwg o gannoedd o ffermwyr graddfa fach a gweithwyr yng nghadwyni cyflenwi archfarchnadoedd ar draws pum gwlad, gan ddarganfod bod nifer o bobl yn ei chael hi’n anodd bwydo eu hunain a’u teuluoedd. Roedd mwy na naw o bob deg o weithwyr grawnwin yn Ne Affrica a phroseswyr bwyd môr yng Ngwlad Thai – y mwyafrif ohonynt yn ferched – yn dweud nad oedd ganddynt ddigon i’w fwyta yn y mis blaenorol.

Meddai Rachel Cable, Pennaeth Oxfam Cymru: “Mae’n frawychus bod cymaint o’r ffermwyr a’r gweithwyr sy’n cynhyrchu’r bwyd sydd ar silffoedd ein harchfarchnadoedd yn mynd heb fwyd eu hunain. Mae ein prif archfarchnadoedd yn gwasgu’r pris maen nhw’n ei dalu i’w cyflenwyr, gan greu dioddefaint cudd ymysg y dynion a’r merched sy’n cyflenwi ein bwyd, ac yn eu gorfodi i fyw mewn tlodi.”

 Mae’r dadansoddiad yn dangos bod archfarchnadoedd y DU yn derbyn bron i ddeg gwaith gymaint o arian wrth y til na’r ffermwyr graddfa-fach a’r gweithwyr sy’n cynhyrchu deuddeg o eitemau bwyd cyffredin, gan gynnwys te, sudd oren a bananas. Cododd siâr archfarchnadoedd y DU o 41 y cant yn 1996 i bron i 53 y cant yn 2015, tra bod y gyfran a delir i ffermwyr graddfa fach a gweithwyr yn eu cadwyni cyflenwi wedi disgyn wrth chwarter i ddim ond 5.7 y cant, dros yr un cyfnod. 

Mae’r adroddiad yn cynnwys cerdyn sgorio, wedi ei selio ar asesiad o’r polisïau cyhoeddus a’r arferion sydd yn effeithio gweithwyr a ffermwyr – yn enwedig merched – yng nghadwyni cyflenwi bwyd rhai o’r archfarchnadoedd mwyaf yn y DU, yr Unol Daliaethau, yr Almaen a’r Iseldiroedd. Roedd yr archfarchnadoedd yn cael eu sgorio yn ôl cyfres o ddangosyddion wedi eu seilio ar safonau rhyngwladol cadarn sydd yn cael eu cydnabod yn eang fel arfer da. Mae’r dadansoddiad o chwech o arfarchnadoedd mwyaf y DU – Tesco, Sainsbury’s, Morrisons, Asda, Aldi a Lidl – yn dangos
bwlch syfrdanol rhwng eu polisïau presennol a’r hyn sydd angen ei wneud i sicrhau fod hawliau llafur a dynol yn cael eu parchu yn eu cadwyni cyflenwi. Mae’r sgôr cyffredinol yn amrywio o ddim ond un y cant i Aldi i 23 y cant i Tesco.

Mae Oxfam a Sustainable Seafood Alliance Indonesia wedi archwilio amodau gwaith mewn gorsaf prosesu corgimychiaid ag allforwyr yng Ngwlad Thai ag Indonesia, sydd yn cyflenwi rhai o’r archfarchnadoedd mwyaf yn y byd, gan gynnwys chwe archfarchnad o’r DU. Mae gweithwyr wedi disgrifio profion beichiogrwydd gorfodol, amodau gweithio anniogel, cyflogau tlodi, egwyl toiled a dŵr wedi’i reoli’n llym, a cham-drin geiriol.

Roedd *Melati yn gweithio mewn ffactori yn Indonesia ac yn gorfod tynnu croen 600 o gorgimychiaid mewn awr – un pob 60 eiliad – ac yn dweud nad ydi hi byth yn cyrraedd ei tharged. Mae hyn yn golygu ei bod wedi wynebu camdriniaeth geiriol ac wedi ofni na fydd ei chontract dau fis yn cael ei adnewyddu. Yn ychwanegol i’r targedau anghyraeddadwy, mae’r amodau yn y ffactroedd yn beryglus. Dywedodd Melati: “Rhoddwyd menig plastig i mi oherwydd nid oedd menig rwber ar ôl. Roedd fy nwylo’n llosgi ac roeddwn i allan o wynt. Yn y nos, roeddwn i dal ddim yn medru anadlu’n
iawn.”

Mae adroddiad Oxfam yn nodi lansiad Behind the Barcodes, ymgyrch fyd-eang newydd sy’n annog archfarchnadoedd a llywodraethau i fynd ati i daclo amodau gweithio creulon, cynyddu tryloywder ar ble y mae bwyd yn dod, taclo gerledigaeth yn erbyn merched, a sicrhau fod siâr o beth mae defnyddwyr yn ei wario ar fwyd yn cyrraedd y bobl sydd yn ei gynhyrchu.

Dywedodd Spencer: “Gall busnesau byd-eang helpu i godi miliynau o bobl allan o dlodi, ond mae’r diwydiant bwyd ar hyn o bryd yn gwobrwyo cyfoeth cyfranddalwyr dros waith miliynau o ferched a dynion gydag archfarchnadoedd yn anwybyddu’r dioddefaint sydd yn cael ei guddio tu ôl i’r gadwyn gyflenwi. Pan mae cwmnïau yn rhoi ymdrech wirioneddol i gefnogi gwaith gweddus maen nhw’n helpu i drawsnewid bywydau rhai o’r bobl dlotaf mewn rhai rhannau o’r byd.”

Diwedd

Am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliadau cysylltwch gyda Casia Wiliam, Swydd y Wasg yn Oxfam Cymru: cwiliam1@oxfam.org.uk / 07887 571687

Nodiadau i’r Golygydd:

Mae deunudd ffilm a lluniau o weithwyr bwyd môr ar gael yma

Nid *Melati yw ei henw iawn

Mae’r adroddiad llawn, Ripe for Change, ar gael yma ac mae’r crynodeb i’w gael yma

Mae briff sydd yn rhoi rhai o’r canlyniadau pwysicaf o’r adroddiad mewn i gyd destun DU – UK Supermarket Supply Chains, Ending the Suffering Behind our Food – ar gael yma

Mae methodoleg Ripe for Change ar gael yma