Disgyblion yn ysbrydoli mewn cynhadledd yn Abertawe

Heddiw, bu disgyblion ar draws Cymru yn cymryd ran mewn cynhadledd arbennig yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe gan ganolbwyntio ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Ymunodd disgyblion o bedair ysgol o Gymru mewn cynhadledd oedd yn llawn gweithdai bywiog a sgyrsiau gafaelgar. Roedd y digwyddiad yn nodi diwedd CreuNewid, prosiect sy’n cael ei arwain gan Oxfam Cymru i helpu dysgwyr ifanc i fod yn ddinasyddion cyfrifol yng Nghymru a’r byd.

Prif ddigwyddiad y dydd i’r disgyblion oedd cael cyfle i glywed hanes emosiynol Gulwali Passarlay, ffoadur wnaeth ffoi o Afghanistan i’r DU yn ddim ond 10 oed, ac sydd nawr yn awdur ac ymgyrchwr. Mae bellach wedi cofnodi ei stori ddirdynol ar ffurf hunangofiant, The Lightless Sky, sydd wedi gwerthu miloedd o gopïau mewn sawl iaith.

Roedd y diwrnod hefyd yn cynnwys gweithdai gyda Cymru Dros Heddwch, Pobl ifanc, Cymry a Mudwyr (Young, Migrant and Welsh), ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, sef Amgueddfa Noddfa gyntaf yn y DU.

Cyn y gynhadledd, roedd y disgyblion wedi bod yn brysur yn dysgu am yr argyfwng ffoaduriaid mewn cyfres o weithdai gydag Oxfam Cymru, gan ddysgu am fywydau caled ffoaduriaid ar draws y byd a’r heriau cyson maent yn eu hwynebu wrth chwilio am loches a heddwch. Cafodd y disgyblion gyfle i gyfarfod ceiswyr lloches sydd yn byw yng Nghymru,a chlywed am eu profiadau, cyn mynd ati i gydweithio er mwyn creu cynlluniau gweithredu positif i greu newid er gwell, ac addysgu eu cyfoedion.

Dywedodd Alysha, disgybl blwyddyn 7 o Ysgol Glan-y-Môr;

“Fe wnaethom ni drefnu noson i ddisgyblion yr ysgol gysgu yn yr ysgol i ddangos sut amodau y mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gorfod ei ddioddef wrth ddianc am loches. Fe gawsom ni ganiatâd gan y Prifathro, ac wedyn mi drefnon ni noson sleepover yn neuadd yr ysgol, ble’r oedd pawb yn cysgu mewn llinellau o sachau cysgu, fel sy’n digwydd mewn gwersylloedd ffoaduriaid. Fe wnaethom ni hefyd godi arian trwy wneud hyn. Mae o wedi bod yn brofiad da.”

Dywedodd Ronnie, disgybl blwyddyn 7 o Goleg Cymunedol y Dderwen;

“Cyn cychwyn ar y prosiect roeddwn i’n un o’r bobl oedd yn meddwl na ddylai ffoaduriaid a cheiswyr lloches ddod i’r wlad yma. Ar ôl prosiect CreuNewid, rydw i wedi dysgu nad oes bai ar ffoaduriaid, a’u bod yn dod yma gan nad oes ganddynt ddewis, nid oherwydd eu bod nhw eisiau, ac maen nhw eisiau bywyd gwell. Niod oes ganddynt ddim arian i fyw, ac mae bywydau ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn hynod o galed.

Dywedodd Rachel Cable, Pennaeth Oxfam Cymru:

“Mae CreuNewid wedi bod yn ffordd wych i annog pobl ifanc i feddwl yn feirniadol am rai o faternion mawr ein dydd. Yn aml iawn, gall yr argyfwng ffoaduriaid fod yn destun heriol i’w ddysgu ac i’w ddeall, ond gan gymryd rhan mewn gweithdai a mynychu’r gynhadledd heddiw mae’r disgyblion wedi mynd i’r afael â’r pwnc mewn modd sensitif, a gyda llond trol o frwdfrydedd.

“Mae’n bleser gweld pawb yn rhannu eu syniadau a’u hangerdd heddiw. Mae’n ieuenctid yng Nghymru wir yn gosod esiampl i bawb ar sut i fod yn ddinasyddion trugarog, ac yn gyfrifol yn fyd-eang. Mae digwyddiadau fel hyn yn dangos gwir ymrwymiad Cymru i fod yn Genedl Noddfa”.

DIWEDD

Nodiadau i’r golygydd:

  • Mae prosiect CreuNewid yn cynnwys pedair ysgol; Ysgol Bro Idris yn Nolgellau, Ysgol Glan-y-Môr ym Mhorth Tywyn, Coleg Cymunedol y Dderwen ym Mhen-y-bont, a St Joseph’s Roman Catholic High School yng Nghasnewydd
  • Fe gymerodd 69 o ddisgyblion, o flynyddoedd 7 – 12, ynghyd â wyth o athrawon ran yn y prosiect
  • Cafodd CreuNewid ei weithredu trwy bartneriaeth rhwng Oxfam Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy Raglen Addysg Ryngwladol British Council Cymru
  • Ar draws y byd, mae 68.5 miliwn o bobl wedi gorfod ffoi o’u cartrefi. Mae hynny’n cyfateb i boblogaeth Cymru 22 gwaith drosodd. Mae un person yn cael ei orfodi i ffoi pob dwy eiliad, ac mae hanner poblogaeth ffoaduriaid y byd yn blant.
  • Fe gyflwynodd Abertawe Dinas Noddfa Wobr Noddfa i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, gan olygu ei fod yn Amgueddfa Noddfa gyntaf y DU. Mae’r Amgueddfa wedi ennill y teitl oherwydd ei gwaith yn croesawu ffoaduriaid i Abertawe.