OXFAM CYMRU YN DECHRAU 2020 GYDA BUDDUGOLIAETH FAWR YN LLYWODRAETH CYMRU

Mae 2020 yn dechrau i Oxfam Cymru gyda Buddugoliaeth Fawr yn Llywodraeth Cymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio Dull Bywoliaethau Cynaliadwy Oxfam i wella’r broses o ddarparu budd-daliadau datganoledig i bobl Cymru.

Yn dilyn ymchwiliad gan y Cynulliad i wella’r system budd-daliadau ar gyfer Cymru, mae Oxfam Cymru wrth ei fodd gyda’r newyddion bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ei argymhelliad i ddefnyddio Dull Bywoliaethau Cynaliadwy Oxfam i ddarparu’r holl fudd-daliadau datganoledig a ddarperir ar hyn o bryd yng Nghymru.

Roedd Rachel Cable, Pennaeth Oxfam Cymru, yn croesawu’r newyddion:

“Rwyf wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod gwerth Dull Bywoliaethau Cynaliadwy Oxfam fel ffordd o newid bywydau pobl sy’n profi tlodi ac anfantais. Mae Oxfam yn defnyddio’r dull hwn ledled y byd. Mae’n gam hynod o gadarnhaol fod Llywodraeth Cymru wedi manteisio ar y cyfle hwn i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r bobl y mae arnynt ei angen fwyaf. Mae Oxfam Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i helpu pobl i adeiladu llwybr cynaliadwy allan o dlodi”.

Cyhoeddwyd y Dull Bywoliaethau Cynaliadwy: Pecyn Cymorth i Gymru gyntaf yn 2013, ac mae’n ddull o ddadansoddi a newid bywydau pobl sy’n byw mewn tlodi a dan anfantais. Mae’r pecyn cymorth yn defnyddio dull cyfannol o ddeall anghenion a galluoedd yr unigolyn er mwyn helpu unigolion sy’n profi tlodi i wella eu bywydau yn yr hirdymor.

Mae Oxfam Cymru wedi bod yn defnyddio’r Dull Bywoliaethau Cynaliadwy mewn sawl prosiect partner yng Nghymru. Pan ddaeth Emertha Uwanyirigira a’i phlant ifanc i Gymru gyntaf, nid oeddent yn adnabod unrhyw un ac nid oedd ganddynt fynediad at gymorth. Roedd Oxfam wedi rhoi’r Dull Bywoliaethau Cynaliadwy wrth wraidd y prosiect Sgiliau am Oes, ac esboniodd Emertha sut y newidiodd ei bywyd:

“Roedd bod yn newydd yn y Deyrnas Unedig a bod heb deulu yn heriol i mi. Dangosodd prosiect Sgiliau am Oes Oxfam i mi sut i ddod i gysylltiad â’r bobl iawn. Cefais y cyfle i ddysgu sgiliau defnyddiol, rhoddodd eglurder i mi a helpodd fi i benderfynu ar y llwybr gyrfa cywir. Cefais fy ngrymuso trwy gyfrwng y prosiect, a gobeithio y bydd y datblygiad hwn yn grymuso eraill yng Nghymru”.

DIWEDD

I drefnu cyfweliadau â’r cyfryngau neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Heulwen Davies, Swyddog Cyfryngau a Chyfathrebu Oxfam Cymru yn hdavies1@oxfam.org.uk/07817591930

Gallwch weld y Dull Bywoliaethau Cynaliadwy: Pecyn Cymorth i Gymru yn

https://oxfamilibrary.openrepository.com/bitstream/handle/10546/297233/sustainable-livelihoods-approach-toolkit-wales-010713-cy.pdf?sequence=9&isAllowed=y

Gwerthusiad o brosiect Sgiliau am Oes Oxfam Cymru https://oxfamilibrary.openrepository.com/bitstream/handle/10546/620487/er-skills-for-life-oxfam-cymru-070618-final-evaluation-en.pdf?sequence=1&isAllowed=y

I weld ymateb llawn Llywodraeth Cymru, ewch i http://www.senedd.cynulliad.cymru/documents/s96617/Gohebiaeth%20gan%20y%20Dirprwy%20Weinidog%20Tai%20a%20Llywodraeth%20Leol%20ynghylch%20yr%20ymateb%20i%20adroddiad%20y%20Pwyllgor%20a.pdf