Tim Oxfam Cymru

  1. Sarah Rees

    Ymunodd Sarah ag Oxfam ddiwedd 2021, a daw ag angerdd a brwdfrydedd dros gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol i’w rôl yn arwain Oxfam Cymru. Yn flaenorol, roedd Sarah yn gweithio yn y trydydd sector fel ymgyrchydd ffeministaidd ar faterion yn cynnwys gweithio’n hyblyg, gofal plant a chynrychiolaeth menywod mewn bywyd cyhoeddus. Mae Sarah wedi ennill Diploma Graddedig yn y Gyfraith yn ddiweddar ac mae’n astudio Cwrs Ymarfer y Gyfraith yn rhan-amser.

    Yn y rôl hon, mae Sarah yn goruchwylio polisïau, eiriolaeth, ymgyrchoedd a chyfathrebiadau Oxfam yng Nghymru, ac mae’n gobeithio parhau â gwaith y tîm blaenorol ar y Cerdyn Sgorio Ffeministaidd a Toesen Cymru. Sarah yw Cyd-gadeirydd Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru, cynrychiolydd Cymru ar gyfer yr ymgyrch #ButNotMaternity, ac mae’n gynghorydd gwirfoddol ar gyfer yr elusen Women Seeking Sanctuary Advocacy Group.

    Mae Sarah yn gweithio’n rhan-amser ac yn gefnogwr i’r ymgyrch ‘wythnos 4 diwrnod’.

    Cyswllt: srees1@oxfam.org.uk

    Sarah Rees
  2. Judith Fox

    Rheolwr Cefnogaeth Busnes a Swyddfa

    Dechreuodd Judith ei gyrfa yn Oxfam yn mis Gorffennaf 2019. Mae ei gwaith yn cynnwys rheoli’r swyddfa, gwaith cyllid, rheoli systemau, adnoddau a stoc a gwaith adnoddau dynol Oxfam Cymru, yn ogystal a nifer o bethau eraill!

    Ebost Judith yw jfox3@oxfam.org.uk

  3. Rebecca Lozza

    Cynghorydd y Cyfryngau a Chyfathrebu, yr Alban a Chymru

    Rebecca yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer holl ymholiadau’r cyfryngau yng Nghymru. Mae’n gweithio’n agos gyda chyd-weithwyr yn Oxfam Cymru a ledled y byd i gynhyrchu cymaint o sylw cadarnhaol yn y cyfryngau â phosibl yng Nghymru i waith ac ymgyrchoedd Oxfam.

    Mae Rebecca hefyd yn gweithio’n rhan amser, o ddydd Llun i ddydd Iau.

    Cyswllt: rlozza1@oxfam.org.uk

    rebecca lozza
  4. Marilyn Coward

    Gwirfoddolwraig

    Dechreuodd Marilyn wirfoddoli yn Whitchurch Road ym 1983 a (gyda bylchau ar gyfer ei gwaith cyflogedig) parhaodd I wirfoddoli yno nes iddi gael ei recriwtio I’r adran addysg ym 1991 – ac mae ei gwaith yn y maes hynny yn parhau. Wedi ei magu yng Nghaerdydd, mae Marilyn yn briod ac mae ganddi ddau fab sydd bellach yn magu teuluoedd eu hunain. Pan nad yw hi’n gwirfoddoli yn Oxfam ar Ddydd Mercher, mae’n mwynhau ioga a mynd I’r gampfa. Ei hoff beth yw teithio dramor gyda’I gwr.

    Ebost Marilyn yw mcoward@oxfam.org.uk.

    MarilynCoward