Dros y misoedd diwethaf rydw i wedi cael yr anrhydedd i weithio gyda Oxfam, a’n partneriaid yng Nghlymblaid Ffoaduriaid Cymru i gefnogi ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.
Pan ddechreuom ni ofyn i’r Pwyllgor i flaenoriaethu ymchwiliad i ymateb Cymru ar gyfer yr argyfwng ffoaduriaid, roedd y nifer o bobl oedd wedi cael eu dadleoli yn orfodol yn 65.3 miliwn. Mae hyn wedi cynyddu i 300,000 o bobl ers i’r adroddiad gael ei gyhoeddi. Erbyn i chi orffen darllen y blog hwn, bydd 20 yn fwy o bobl wedi gorfod dianc hefo’u teuluoedd a rhedeg, gan adael popeth yr oeddent yn eu caru, a phopeth oedd yn gyfarwydd iddynt ar ôl, er mwyn dod o hyd i rywle saff a chyfle i gael bywyd newydd.
Mae canran fach iawn o’r bobl hyn wedi cyrraedd Cymru. Nid oes gan Lywodraeth Cymru bwerau datganoledig dros y niferoedd o bobl sydd wedi eu dadleoli sy’n cael eu croesawu i’n cymunedau, ond mae gennym ni’r gallu i ddylanwadu ar faterion fel iechyd, tai, addysg a gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r ymchwiliad hwn wedi amlygu’r diffygion yn y gefnogaeth iechyd meddwl i bobl sydd wedi profi trawma emosiynol, ac wedi dod a nifer o luniau o dai i geiswyr lloches i’r amlwg – ‘tai’ na fyddai’r un ohonom eisiau byw ynddynt, ac wedi amlygu rhwystrau
sylweddol i integreiddio, gan gynnwys darparu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Gwahanol (ESOL).
Mae manylder ymchwiliad y Pwyllgor, a pharodrwydd yr aelodau i wrando ar leisiau pobl wedi’i dadleoli yng Nghymru wedi gwneud argraff fawr arnaf. Mae adroddiad yr ymchwiliad yn brawf o waith caled y Pwyllgor, a’r rhai sydd wedi rhoi eu hamser a’u harbenigedd i gyfrannu tuag ato. Dros y blynyddoedd, rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i ddod i adnabod pobl o’r gymuned ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Rydym ni’n lwcus iawn i fedru cynnig ein cyfeillgarwch i bobl sydd mor
ysbrydoledig a gonest. Am y tro cyntaf mewn nifer o flynyddoedd o weithio yn y maes polisi, rydw i’n teimlo fod pethau yn newid er gwell. Mae Clymblaid Ffoaduriaid Cymru a’i aelodau yn rym na ellir ei ddiystyru, a bydd y Glymblaid yn sicrhau bydd yr argymhellion o’r ymchwiliad yn cael eu gwireddu.
Roeddwn i’n falch iawn pan wnaeth ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad dderbyn neu dderbyn trwy egwyddor 18 allan o’r 19 argymhellion a gaeth eu cyflwyno. Ffactor galonogol arall yw bod newid positif yn digwydd yn barod o ganlyniad i’r ymchwiliad. Er enghraifft, mae camau’n cael eu cymryd i wella tai i geiswyr lloches ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adolygu Cynllun Cyflawni ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches, sydd yn nodi sut y bydd y newidiadau polisi yn cael eu
gweithredu. Efallai mai’r pwynt mwyaf calonogol o hyn oll yw’r penderfyniad unfrydol gan y Pwyllgor a Llywodraeth Cymru y dylai Cymru gymryd camau i fod yn Genedl o Noddfa. I lawer, mae’r daith i gael Cymru yn Genedl o Noddfa wedi bod yn daith hir, ond os lwyddwn ni wneud hyn, oni byddai’n brawf ardderchog o’n rôl ni fel cenedl gyfrifol yn fyd-eang?
I ganran fach iawn o bobl wedi’i dadleoli, ac sydd wedi cyrraedd Cymru – rydym yn eich croesawu, rydym yn eich cefnogi, ac rydym yn dathlu’r hyn yr ydych yn ei gynnig i’n cymunedau, ac yn edrych ymlaen at rannu’r dyfodol gyda chi.