Prosiectau Oxfam yng Nghymru

Amdanom ni

Oxfam Cymru yw llais holl waith Oxfam yng Nghymru – ein nod yw i ddod a thlodi a dioddefaint i ben yma yng Nghymru, ar hyd a lled Prydain ac yn rhyngwladol.

Tim Oxfam Cymru

Mae swyddfa Oxfam Cymru wedi ei lleoli yng Nghaerdydd, ewch i’n tudalen staff i gwrdd ag aelodau’r tim yng Nghymru.

Ein Gwaith yng Nghymru

Tlodi yng Nghymru

Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 1 ymhob 4 person sy’n byw yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol, mae’r ffigyrau wedi parhau ar yr un math o raddfa ers tua degawd.

Mae’n ymddangos bod 29% o blant Cymru yn byw mewn tlodi – mae dwy rhan o dair o’r plant yma yn byw mewn cartefi ble mae oleiaf un person yn gweithio.

Mae 25% o’n swyddi yn talu llai na’r cyflog byw.

Mae 1 ymhob 6 person sy’n cael eu hafnon i fanciau bwyd yn unigolion sydd yn gweithio.

Brwydro am Gydraddoldeb yng Nghymru

Mae merched yn ganolog i’n holl waith yn Oxfam, ac wrth wraidd y frwydr i daclo tlodi yng Nghymru, mae taclo anghydraddoldeb rhywiol.

Yn 2019, aeth Oxfam Cymru ati i gynhyrchu’r Cerdyn Sgorio Ffeministaidd cyntaf a hynny mewn partneriaeth gyda Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Mae’r cerdyn sgorio yn marcio perfformiad Llywodraeth Cymru mewn chwe’ maes polisi sydd yn hollbwysig i ferched yng Nghymru, ac mae’n gosod y sail wrth inni asesu datblygiad Llywodraeth Cymru wrth iddynt ddatblygu’n lywodraeth ffeministaidd.

Brwydro am Gyfiawnder Bwyd a Hinsawdd yng Nghymru

Mae cynydd sylweddol yn y niferoedd sy’n defnyddio banciau bwyd yng Nghymru, mae Oxfam Cymru wedi gweithio gyda nifer o bartneriaid ar yr agenda sy’n datgan bod gan bawb yr hawl i gael mynediad i fwyd. Bu Oxfam Cymru’n rhan allweddol o ddatblygu’r SWPA yng Nghymru a’i hadroddiad ar dlodi bwyd; ‘Food Poverty in South Wales, A Call to Action’. Mae’r adroddiad hwn yn datgelu darlun brawychus o ran tlodi bwyd yng Nghymru ac wedi sbarduno gweithgaredd ar hyd a lled Cymru. Yn ogystal, mae’r adroddiad wed gwneud nifer o awgrymiadau i Lywodraeth Cymru, ac rydym yn gweithio i symud rhain ymlaen.

Mae Oxfam Cymru yn rhan o Stop Climate Chaos Cymru, sy’n gyfuniad o grwpiau sifil o bob rhan o’r gymdeithas sy’n gwiethio ar y cyd i daclo newid hinsawdd. Mae Oxfam Cymru yn helpu i gydlynnu’r ymgyrchoedd a’r gweithgareddau, er engraifft gweithgareddau i gyd fynd a’r ‘UK Earth Strike’ yn 2019.

Addysg ar Ddinasyddiaeth Byd-Eang

Mae Oxfam Cymru yn ymgyrchu i hybu dinasyddiaeth fyd-eang o fewn ein systemau addysg, rydym yn darparu adnoddau, hyfforddiant a chefnogaeth i athrawon, er mwyn hwyluso’r broses o addysgu’r maes yn yr ystafell ddosbarth, ac rydym yn cydweithio gyda phobl ifanc mewn ysgolion trwy ein rhaglenni dinasyddiaeth. Mae Oxfam Cymru yn hwyluso addysg gynhwysol wrth ddarparu adnoddau addysg dwyieithog ar Hwb, platfform addysgu digidol Llywodraeth Cymru.

Rydym yn cydweithio gyda CBAC, i ddatblygu adnoddau i’r Fagloriaeth Gymraeg, er engraifft ein adnodd Gwaith Boddhaol i Ferched.

Cyfrifoldeb Rhyngwladol

Mae Oxfam Cymru yn gwiethio gyda nifer o bartneriaid I sicrhau bod Cymru’n cyflawni ein cyfrifoldebau rhyngwladol. Oxfam Cymru sy’n cadeirio grwp WOAG‘Wales Overseas Agencies Group’ ac rydym yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid i sicrhau bod ein cyfrifoldeb rhyngwladol wrth galon ein gwaith.

Rydym yn aelod blaenllaw o’r grwp Welsh Refugee Coalition, ac rydym wedi bod yn gyrru’r agenda  ‘Nation of Sanctuary’ yng Nghymru – gan sicrhau bod Cymru’n cynnig croeso cynnes i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys dathlu cyfraniad ffoaduriaid a chesiwyr lloches i Gymru, megis trwy ein digwyddiad blynyddol ‘Lloches yn y Senedd/ Sanctuary in the Senedd’.

Taclo Tlodi yng Nghymru

Oxfam Cymru sy’n gyfrifol am waith ysgirfenyddol y grwp traws bleidiol ar dlodi o fewn Llywodraeth Cymru, ac rydym yn chwarae rhan allweddol ar dlodi domestig. Yn 2019/ 2020 mae’r grwp wedi cynnal nifer o drafodaethau llwyddiannus ar dlodi yn y Senedd, ac rydym wedi cwrdd a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

Rydym yn cefnogi ymgyrchoedd ac yn delio gyda nifer o ymholiadau ar dlodi yng Nghymru. Yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Phwyllgor Cymunedau ar ddatganoli diogelwch cymdeithasol yng Nghymru, bu Oxfam Cymru yn darparu tystiolaeth, yn ogystal a darparu engraifft o berson sy’n dibynnu ar gredid cynhwysol, er mwyn clywed profiad go iawn yn ystod sesiwn tystiolaeth ar lafar yn y Senedd.

Am wybodaeth bellach mae croeso i chi gysylltu a ni.