Tlodi yng Nghymru

Nid oes a wnelo tlodi yng Nghymru â sychder, rhyfel na newyn – fel y gall fod mewn gwledydd datblygol – ond mae’n llawn mor real.

I ddarllen y dudalen hon yn Saesneg

Mae bron un o bob pedwar o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi sy’n golygu eu bod yn cael llai na 60% o’r cyflog cyfartalog. Mae hynny’n cyfrif am tua 700,000 o’n cyd-ddinasyddion. Nid yw’r lefel honno o dlodi cymharol wedi newid mewn degawd.

Projectau Oxfam yng Nghymru

Y broblem

Gall tlodi olygu bod heb arian yn eich poced, neu fod eich plant yn mynd i’r ysgol neu i’w gwelyau eisiau bwyd. Gall olygu methu â fforddio cot aeaf neu wresogi’ch cartref. Ond gall hefyd olygu byw am flynyddoedd heb waith na gobaith, wedi’ch amddifadu rhag cyfleoedd a’r gallu i newid. Yn ogystal mae gan bobl mewn cymunedau tlawd iechyd gwaeth a disgwyliad oes byrrach.

Dyna pam mae Oxfam wrthi’n gweithio yng Nghymru i oresgyn tlodi, ac i ddweud y gwir amdano, yn awr ac yn y tymor hir.

Mae anghydbwysedd rhwng dynion a menywod yn dal yn amlwg mewn sawl agwedd ar fywyd yng Nghymru. Menywod sy’n meddu ar 80% o’r holl swyddi rhan-amser yng Nghymru, ac mae’r mwyafrif llethol ohonynt mewn galwedigaethau cyflog isel. Os ydym am fynd i’r afael â thlodi yng Nghymru, mae’n rhaid inni fynd i’r afael hefyd ag anghydbwysedd rhwng dynion a menywod.

Ond hefyd mae angen i Gymru fod yn gyfrifol yn fyd-eang. Mae ein hallyriadau carbon yn sylweddol uwch na’r hyn y dylent fod ar gyfer cenedl o’n maint ni. Yn ogystal, yn wyneb yr argyfwng ffoaduriaid byd-eang, mae’n hanfodol bod Cymru yn gwneud ei rhan trwy roi croeso cynnes i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr heriau hyn, ynghyd â’n hatebion arfaethedig eraill, trwy ddarllen Glaslun i Gymru neu drwy wylio’r fideo byr hwn.

Yr hyn rydym yn ei wneud

  • Rydym yn ymgyrchu. Rydym yn codi materion ac yn cael pobl i gysylltu â’r rheini mewn grym er mwyn dylanwadu ar eu penderfyniadau.
  • Rydym yn ymchwilio. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ymchwilio i bolisïau sy’n gallu mynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb economaidd gartref a thramor.
  • Rydym yn codi ein llais: Rydym yn rhoi cyfle i bobl sy’n dioddef tlodi siarad â phobl mewn grym a lleisio eu barn.
  • Rydym yn gweithio: mae ein rhaglen waith yn mynd i’r afael â thlodi yng Nghymru yn uniongyrchol. Rhagor o wybodaeth am Raglen Dlodi Oxfam yn y DU.