Mae cymunedau yng Nghymru yn wynebu heriau sylweddol. Mae’r cynnydd o ran tlodi mewn gwaith yn dangos nad gwaith, o reidrwydd, yw’r ffordd orau allan o dlodi.
Mae anghydraddoldeb ar gynnydd, gyda’r 16% cyfoethocaf yng Nghymru yn meddu ar gymaint o gyfoeth â’r gweddill gyda’i gilydd. Mae newid yn yr hinsawdd yn gwneud pethau’n fwyfwy anodd i gymunedau yng Nghymru ac o gwmpas y byd. Mae sychder a llifogydd yn digwydd yn fwy aml, ac mae’r tymhorau tyfu yn dod yn fwy anodd eu rhagweld.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod dyletswydd ar gynghorau i gymryd safbwynt hirdymor wrth wneud penderfyniadau, yn ogystal â chanolbwyntio ar y presennol. P’un a ydy hynny’n golygu trechu tlodi, anghydraddoldeb, a newid yn yr hinsawdd, neu greu cyfleoedd gwaith teilwng, mae safbwynt hirdymor yn hanfodol. Nid yw’r heriau hyn yn bodoli ar eu pen eu hunain, a dyna pam y mae’n bwysig bod cynghorau yn ystyried y rhyng-gysylltedd rhwng y materion hyn, ynghyd â beth yw’r cysylltiadau rhwng adrannau.
Mae angen mwy o dryloywder o ran sut y mae penderfyniadau’n cael eu gwneud. Sut y gall cynghorau sicrhau bod cymunedau lleol yn cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau? Sut y gall cynghorau ennyn diddordeb pobl ifanc a’r rheiny y mae materion megis anghydraddoldeb a diffyg gwaith teilwng yn effeithio arnynt? Bydd clywed gan ystod amrywiol o leisiau yn cryfhau’r broses o wneud penderfyniadau.
Mae datblygiad y cwricwlwm newydd ar gyfer ysgolion yn gyfle i roi dinasyddiaeth fyd-eang wrth galon addysg. Trwy ddysgu am faterion lleol a byd-eang, a chreu cyfleoedd i bobl ifanc godi eu lleisiau a gweithredu fel dinasyddion moesegol, gwybodus, byddwn yn gallu helpu cenedlaethau’r dyfodol i chwarae eu rhan yn y broses o greu Cymru fwy cyfartal sydd â chymunedau cydlynus. Darganfu ymchwil gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth fod cynnydd wedi bod yn nifer yr adroddiadau am ddigwyddiadau hiliol mewn ysgolion yng Nghymru, ac mae gennym gyfle i weithredu ‘nawr i greu amgylcheddau
dysgu sy’n hybu empathi a pharch, ac sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth.