Celf yn Adlewyrchu Realiti – Blog arbennig gan Catrin Greaves

Wedi iddi gymryd rhan mewn gweithdy* yn archwilio materion yn ymwneud â dinasyddiaeth fyd-eang a ffoaduriaid, mae Catrin Greaves, addysgwraig gydag Artes Mundi, yn ystyried rôl celfyddyd o ran archwilio materion cymhleth byd-eang. 

Orielau celf. Peidiwch â meddwl mai llefydd llychlyd ydynt lle daw academyddion lu ynghyd i gynnal trafodaethau uchel-ael annealladwy; gallant fod yn fforymau bywiog i drafod materion cyfoes. Nid oes yn rhaid i bob darn o waith celf fod yn bortread crand sy’n mawrygu dyn mewn teits a wig sydd yn ei fedd ers canrifoedd. Gall fod sawl diben i waith celf. Gall ymwneud â chelf ein dysgu a’n difyrru, yn ogystal â’n cynorthwyo i fyfyrio am ddigwyddiadau byd-eang mewn modd sy’n fwy personol ac emosiynol na phenawdau bras y papurau newydd.  

Mae ein hartistiaid cyfoes yn gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau cyffrous, gan fynd i’r afael â materion sy’n amrywio o rym gwleidyddol a chynhyrchu bwyd i fudo a globaleiddio. Mae Artes Mundi, sefydliad o Gaerdydd sy’n fwyaf adnabyddus am yr arddangosfa a’r wobr gelf y mae’n eu cynnal bob dwy flynedd, yn enghraifft gyffrous sy’n rhoi llwyfan i waith celf rhyngwladol a all ein cynorthwyo i feddwl am faterion sy’n effeithio ar y byd heddiw. Mae arddangosfa Artes Mundi i’w gweld ar hyn o bryd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac yng Nghanolfan
Gelfyddydau’r Chapter, Caerdydd. Mae Artes Mundi hefyd yn cynnal rhaglen ddysgu fywiog sy’n cynnwys gweithdai a theithiau dan arweiniad tîm o Dywyswyr Byw. Mae’r arddangosfa yn rhoi’r pwyslais ar waith sy’n archwilio’r ‘cyflwr dynol’: gwaith sy’n archwilio’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn fod dynol mewn byd cyfoes.

Mae’r arddangosfa yn rhoi llwyfan i waith gan artistiaid o bedwar ban byd gan gynnwys Libanus, Angola ac Algeria. Mae gwaith John Akomfrah, a aned yn Ghana, yn sefyll allan oherwydd ei fod yn ein hatgoffa mewn modd cignoeth o dynged miloedd o ffoaduriaid sydd wedi cael eu gorfodi i ffoi yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae Akomfrah yn arddangos, am y tro cyntaf, Auto da Fe, gosodwaith fideo sy’n canolbwyntio ar wyth cyfnod mewn hanes pan gafodd grwpiau gwahanol eu gorfodi i ffoi rhag erledigaeth grefyddol. Gan ddefnyddio dillad o’r cyfnod, trac sain emosiynol ac
actorion sydd wedi bod yn ffoaduriaid eu hunain, mae Akomfrah yn llwyddo i gyfleu’r ymdeimlad o berygl a dadleoli y mae miloedd wedi’i deimlo dros flynyddoedd lawer. Mae Akomfrah yn ein hatgoffa, pan edrychwn ar y ddaear gron, mai’r môr, nid y tir, sy’n tra-arglwyddiaethu. Does dim ffiniau yn y môr. Ond mae’r môr hefyd yn peri ofn a pherygl, ac mae’n rhwystr y mae’n rhaid ei oresgyn wrth ymgyrraedd at fywyd newydd.

Bu cyd-weithwyr o Artes Mundi ar ddiwrnod hyfforddi gydag Oxfam, gan ddysgu am addysgu dinasyddiaeth fyd-eang ac ymwneud â materion cyfoes drwy gyfrwng addysg. Mae myfyrio ar weithiau celf megis Auto da Fe yn ein helpu i ddeall agwedd ddynol argyfyngau presennol, gan roi inni ffyrdd o gwestiynu’r storïau a adroddir wrthym gan y cyfryngau a’u harchwilio’n feirniadol. Gall artistiaid dynnu ein sylw at gyd-destunau ehangach sy’n ein helpu i ddeall yr hyn yr ydym yn ei weld yn digwydd yn y byd heddiw, ac mae’r actorion yn cynrychioli ffoaduriaid, ond drwyddynt
gallwn weld ochr ddynol y stori.

* Cafodd y gweithdy hwn ei ddarparu mewn partneriaeth gan Oxfam Cymru, Canolfan y Dechnoleg Amgen a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Raglen Addysg Ryngwladol y Cyngor Prydeinig yng Nghymru.