Bydd Oxfam Cymru yn cynnal dau weithdy yn Ysgol Friars ym Mis Mawrth i helpu athrawon i daclo’r mater argyfwng ffoaduriaid mewn gwersi dosbarth.
Yn dilyn llwyddiant gweithdai tebyg yn Ne Cymru’r tymor diwethaf, bydd dau weithdy yn cael ei gynnal i ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth athrawon o faterion sydd yn ymwneud a ffoaduriaid, ceiswyr lloches ag ymfudo yn gyffredinol.
Mae’r hyfforddiant wedi’i ddylunio i fod o gymorth i athrawon i addysgu dysgwyr ifanc, gyda chyfle i feddwl yn feirniadol ac yn drugarog am faterion allweddol yn ein byd ni heddiw, yn ogystal â dysgu sgiliau allweddol megis rhifedd a llythrennedd yr un pryd.
Meddai Vicky Leech, Ymgynghorydd Addysg ac Ieuenctid Oxfam Cymru:
“Mae’n gyfle gwych i ddysgu sgiliau newydd, ac i ddysgu sut i gynnwys materion anodd eu trafod mewn gwersi pob dydd i ddysgwyr, mewn dull rhyngweithiol. Rydym yn byw mewn byd hynod o ansefydlog a rhanedig, ac mae’r angen am athrawon angerddol a thosturiol i annog dysgwyr i fod y dinasyddion byd-eang yn fwy nag erioed. Mae cwricwlwm newydd yn cael ei ddatblygu ar gyfer Cymru, ac mae helpu dysgwyr i fod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus yn rhan ganolog ohono. Mi wnaiff y gweithdai hyn helpu athrawon a
dysgwyr i fod yn wir ddinasyddion byd-eang.”
Dywedodd Neil Worthington, athro o Ysgol Friars, sydd yn cynnal y gweithdai:
“Rydw i’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y gweithdai. Gobeithio y bydd y profiad yn un heriol, gan roi syniad gwell i mi o sut i gynnwys pynciau cymhleth ag anodd i mewn i wersi pob dydd.”
Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal yn Ysgol Friars ar y 7fed a’r 13eg o Fawrth, rhwng 3.30-5pm, a fe fedrwch fwcio eich lle trwy gysylltu gyda Vicky Leech ar educationcymru@oxfam.org.uk
DIWEDD