Libanus: Argraffiadau Cyntaf

Llun: Ffoaduriaid o Syria ger tref Baalbek yn Nyffryn Bekaa yn Libanus. Hawlfraint: Sam Tarling/Oxfam

Yng Nghymru rydym yn hoff o ddefnyddio’r gymhariaeth bod llefydd hyn a hyn o’i gymharu â “maint Cymru”. O ran poblogaeth, mae Libanus yn weddol debyg i Gymru, ond mae pethau wedi newid rhywfaint yn y blynyddoedd diwethaf yn dilyn y rhyfel cartref yn Syria. 

Mae gwlad â phoblogaeth o bedair miliwn nawr yn cartrefu 1.5 miliwn o ffoaduriaid. Mae un o bob pump o bobl – 20% – yn Libanus yn ffoadur. Y ffigur cyfatebol ar gyfer y DU yn 0.18%.

Rwyf wedi dod i Libanus yr wythnos hon i ddysgu mwy am sut mae’r wlad hon yn ymateb i’r argyfwng ffoaduriaid ac i glywed beth yw barn y bobl yma am yr ymateb rhyngwladol. Dros y dyddiau nesaf fe fyddaf yn gadael Beirut, ond heddiw cefais ddiwrnod difyr yma yn dod i ddysgu mwy a chlywed  nifer o safbwyntiau gwerthfawr.

Y prynhawn yma, cefais gyfle i gyfarfod â Zaid Abdul Samad, Swyddog Gweithredol y Rhwydwaith Cyrff Anllywodraethol Arabaidd ar gyfer Datblygu. Digon yw dweud ei fod yn feirniadol o genhedloedd Ewrop – gan nodi bod Ewrop i bob pwrpas wedi colli ei sedd wrth y bwrdd pan daw hi’n amser trafod atebion gwleidyddol i’r argyfwng. Ac yr oedd yn methu’n glir a dirnad sut y gallai’r DU ei chael hi’n anodd croesawu cyn lleied â 20,000 o ffoaduriaid o Syria tra bod gwlad mor fach a Lebanon
yn rhoi cartref i 1.5 miliwn. 

Ond mae pryderon eraill yn y rhanbarth – pryderon am genhedlaeth goll Syria, boed pobl yn gadael neu’n aros, pryderon am blant nad ydynt yn cael addysg lawn ac nad oes ganddynt y sgiliau i ailgodi eu cenedl. Mae pryderon  y bydd gweledigaeth ôl-wrthdaro yn rhoi straen ar bobl leol, yn hytrach na’u grymuso fel cymunedau i fwrw ati i wneud cynlluniau ar gyfer eu dyfodol.

Wrth i’r gwrthdaro barhau yn Syria, mae mwy o siawns o aflonyddwch o fewn Libanus. Mae’n anodd rhagweld beth allai ddigwydd yma, ond os bydd yr argyfwng yn Syria yn parhau, heb unrhyw arwydd o ateb gwleidyddol, a fydd y genedl dawel a sefydlog hon yn parhau i fod yn dawel ac yn sefydlog?

Yn gynharach heddiw, clywais gynrychiolydd o’r Undeb Ewropeaidd yn trafod yr ymateb Ewropeaidd i’r argyfwng. Fel y byddech yn disgwyl, yr oedd yn canmol llawer mwy am yr hyn y mae’r UE wedi’i wneud – ond roedd gan holwyr yma farn wahanol. Ac wrth i  wladwriaethau’r UE wario mwy ar ddiogelwch (ar y ffiniau ac o fewn eu gwledydd), arian cymorth tramor sy’n cael ei dorri. Oes modd i  Ewrop wneud ei hun yn berthnasol i ddatrysiad yr argyfwng hwn – gan amddiffyn hawliau dynol a democratiaeth mewn ffordd na all gwledydd eraill wneud?

Mae wedi bod yn ddiwrnod difyr tu hwnt sydd yn bendant wedi procio’r meddwl  – ac mae wedi bod yn arbennig o ddiddorol clywed barn cynrychiolwyr o rai o brif gyrff anllywodraethol Libanus. Rwy’n edrych ymlaen at y dyddiau nesaf.

************

Os ydych chi eisiau dangos cefnogaeth i ffoaduriaid ledled y byd, gan gynnwys yma yng Nghymru, ymunwch â ni yn Abertawe wythnos i ddydd Sadwrn (17 Medi) i Sefyll Fel Un gyda ffoaduriaid, ac i ddangos i’n arweinwyr ein bod am eu gweld yn gweithredu. Rhowch wybod eich bod yn dod i Abertawe yma: https://www.facebook.com/events/1162926417079874/