Mae Siop Oxfam ar Stryd y Castell, Abertawe yn galw am lyfrau iaith Gymraeg a cherddoriaeth Gymraeg yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Meddai Phil Broadhurst, rheolwr y siop: “Rydym angen llyfrau Cymraeg, ac yn benodol llyfrau Cymraeg i blant. Does gennym ni byth ddigon o lyfrau lluniau i blant bach na ffuglen ar gyfer pobl ifanc i gwrdd â’r gofyn. Mae nifer fawr o siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yn dod i’r siop yn aml i edrych am lyfrau.
“Rydym ni hefyd yn awyddus i gael rhagor o lyfrau ffuglen cyfoes i oedolion, a gweithiau ffeithiol hefyd. Mae gan y rhan fwyaf o siopau elusen nifer fawr o hen lyfrau Cymraeg am bregethwyr, ond rydym ni am i’n hadran llyfrau Cymraeg adlewyrchu’r ffaith bod y Gymraeg yn iaith fyw sy’n ffynnu, felly rydym yn awyddus i gael llenyddiaeth Gymraeg diweddar ar ein silffoedd.
“Rydym hefyd wedi gwneud lot o arian dros y blynyddoedd wrth werthu finyl cwlt Cymraeg, fel rhai ar label Sain. Gall recordiau gan artistiaid megis Meic Stevens ac Edwards H Dafis godi llawer o arian i helpu gwaith Oxfam i gefnogi pobl anghenus yng Nghymru a ledled y byd.”
Meddai Casia Wiliam, Swyddog y Wasg a Chyfathrebu i Oxfam Cymru sydd hefyd wedi cyhoeddi llyfrau yn y Gymraeg:
“Mae’n wych gweld siopau Oxfam yn awyddus i lenwi eu silffoedd a llenyddiaeth, gyfoes Gymraeg. Rwy’n siŵr bod gan nifer fawr o Gymry Cymraeg resi a rhesi o lyfrau Cymraeg ar eu silffoedd llyfrau adref yn hel llwch. Mi wn i ei bod hi’n anodd ffarwelio â nhw weithiau, ond oni fyddai’n braf cerdded mewn i siop Oxfam a gweld llwyth o lyfrau Cymraeg diweddar?
“Mi fyddai bendant yn mynd ati i dyrchu ac yn mynd a thipyn o lyfrau draw i fy siop Oxfam leol er mwyn gwneud lle ar y silff i’r holl weithiau gwych sydd wedi dod o’r brig yn yr Eisteddfod eleni.”
Gellir mynd ac unrhyw roddion i’r siop lyfrau, ffilm a cherddoriaeth arbenigol ar Stryd y Castell, Abertawe, sy’n agored saith diwrnod yr wythnos, 9.30-5 Llun – Sadwrn, ac 11-4 ar ddyddiau Sul.
DIWEDD
Yn y llun mae Margaret Garel a Matilda Gregory, Gwirfoddolwyr Siop Oxfam yn Abertawe