Ysgrifennwyd y blog hwn gan Elis Morgan, disgybl Blwyddyn 12 o Ysgol Plas Mawr a fu yma gyda ni yn Oxfam Cymru am wythnos o brofiad gwaith.
Ofn, ansicrwydd a cholled. Dyma realiti dydd i ddydd 65 miliwn o ffoaduriaid sy’n cael eu gorfodi i adael eu mamwlad o ganlyniad i ryfel a thrais. Yn y fideo, mae Oxfam a phartneriaid wedi dod at ei gilydd â’r gantores fyd-enwog, Alicia Keys, er mwyn creu fideo am dri unigolyn sy’n gorfod ffoi o’u cartref. Yr unig wahaniaeth yw ei fod yn dod o safbwynt teulu Americanaidd. Mae’r stori yn cychwyn yn Los Angeles, ble mae rhyfela wedi gadael rhwyg yn y gymdeithas. Yn sydyn, mae ei bywydau yn newid yn gyflym. Heb rybudd, rhaid iddynt adael eu cartrefi.
Wrth wylio’r fideo yma, gofynnaf i chi ystyried, beth fyddech chi’n ei wneud yn eu sefyllfa? Mae erchyllterau fel hyn yn rhan o realiti dydd i ddydd llawer o bobl. Yr unig ffordd i’w osgoi yw ffoi. Rhaid cofio nad yw’r teuluoedd hyn yn ffoi o ddewis; does ganddynt ddim dewis arall ar ôl. Mae teuluoedd yn rhoi eu bywydau yn y fantol er mwyn ffeindio lloches, ac ein cyfrifoldeb ni yw eu diogelu.
Yn anffodus, fel y gwelwn yn y fideo, yn aml plant sy’n dioddef fwyaf yn yr argyfyngau hyn. Yn ôl yr UNHCR, mae dros hanner o’r holl ffoaduriaid o Syria yn 17 oed neu’n iau. Mae llawer ohonynt yn cael ei gwahanu o’u teuluoedd wrth ffoi, neu yn eu colli’n llwyr yng nghanol erchyllterau’r brwydro. Sut allant ddisgwyl i blant fel hyn ofalu am eu hunain mewn sefyllfa mor anodd?
Er cychwyn torcalonnus y fideo hwn, daw gobaith. Mae ymateb dyngarol yr heddlu Mecsicanaidd yn dangos ei fod yn bwysig i ni gyd gofio mai pobl yw’r rhain, pob un â stori unigryw, ac y dylai pawb gael eu trin â gofal a thosturi.
Mae’n hawdd iawn cael eich di-sensiteiddio o’r erchyllterau a’r ystadegau sy’n dominyddu’r wasg, felly mae’n bwysig ystyried yr unigolion. A chofio mai pobl yw’r rhain, yn union fel chi a fi.
Heddiw, ffoaduriaid fel y rhain yw’r bobl fwyaf bregus yn y byd, ac mae ganddom ni fel dinasyddion byd-eang gyfrifoldeb i’w helpu. Mae sefyll mewn undod gyda ffoaduriaid yn hawdd. Gallwch wneud hyn wrth ysgrifennu llythyr o groeso i deulu sydd newydd gyrraedd Cymru, i’w helpu nhw i setlo yma.
Neu gallwch godi arian ar gyfer ymgyrch brys Oxfam sy’n cefnogi ffoaduriaid. Ar hyn o bryd mae Oxfam yn helpu mwy na 1.5 miliwn o ffoaduriaid yn Jordan a Lebanon, ac mewn cymunedau yn Syria, gan ddarparu dŵr glân a bwyd. Dim ond gyda’ch cefnogaeth chi mae hyn yn bosib. Mae cefnogaeth Oxfam yn hanfodol ar gyfer achub bywydau ond hefyd yn rhoi cyfle am ddyfodol i ffoaduriaid. Mae rhaid i ni amddiffyn eu hawliau, a chodi llais dros y di-lais.