Chwarae Teg?

Wythnos ddiwethaf gwelsom Gymru ar frig eu grŵp yn Ewro 2016, cyn ennill 1-0 yn erbyn Gogledd Iwerddon i gyrraedd rownd yr wyth olaf. 

Fyddai dweud bod y Cymry wrth eu boddau ddim cweit yn cyfleu’r dathlu a’r ymfalchïo sy’n digwydd ledled y wlad ar hyn o bryd. 

Mae dros ddeugain mlynedd ers i Gymru wneud cystal mewn twrnamaint pêl-droed rhyngwladol ac mae twymyn y bêl gron wedi cydio yn y genedl. Tîm arall sy’n dathlu yw Gwlad yr Iâ; maent hefyd wedi cyrraedd y rownd nesaf ac wedi sicrhau eu lle yn y chwarteri wrth guro Lloegr neithiwr.

Mae poblogaeth Gwlad yr Iâ tua’r un faint â phoblogaeth Caerdydd, ychydig yn llai na 350,000 o bobl. Mae hyn wir yn amlygu eu gorchest, yn enwedig pan fyddwch yn eu cymharu â gwlad fel yr Almaen ddywedwn ni, sydd â phoblogaeth o tua 80 miliwn ac wedi cyrraedd rownd derfynol yr Euros chwe gwaith. Ynghanol yr holl gyffro fedrai ddim peidio â myfyrio ar degwch twrnameintiau chwaraeon rhyngwladol. Bydd Gemau Olympaidd Rio 2016 yn dechrau mewn llai na saith wythnos. Pa mor deg yw’r Gemau Olympaidd? cyhoeddodd pwyllgor y Gemau Olympaidd y byddai tîm o 10 o ffoaduriaid yn cael ei gofnodi fel tîm swyddogol yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf erioed. Gobaith y pwyllgor yw y bydd y tîm yn symbol o obaith i’r holl ffoaduriaid ledled y byd, ac y bydd hefyd yn dod â sylw byd-eang i raddfa’r argyfwng
ffoaduriaid. A oes angen newid mwy o reolau er mwyn sicrhau tegwch a chydraddoldeb tybed?

Mae Chwarae Teg? yn adnodd ysgol newydd ar gyfer pobl ifanc rhwng 9-14 mlwydd oed, sydd yn helpu pobl ifanc i feddwl yn feirniadol am y ffactorau hyn a all effeithio ar siawns gwlad o ennill medal neu gymryd rhan yn y Gemau  Olympaidd. Gall dysgwyr hefyd ddysgu am safbwyntiau gwahanol bobl am y Gemau Olympaidd, a chael gwybod mwy am y ddinas sy’n cynnal y gemau eleni, Rio de Janiero, lle mae anghydraddoldeb yn fater arwyddocaol. 

Mae cynlluniau sesiwn ar gael ar gyfer gwersi Saesneg, Cymraeg, Daearyddiaeth, Mathemateg ac Addysg Gorfforol, ac mae’r adnodd ar gael yn y Gymraeg ac yn “>Raglen Dysgu Byd-eang Cymru am ein cefnogi wrth gyfieithu’r adnodd hwn.

Os ydych chi’n athro neu athrawes, ac yn defnyddio’r adnodd hwn byddwn yn hoffi clywed eich adborth. Oedd yr adnodd yn ddefnyddiol? Sut oedd eich dysgwyr yn ymateb? Gallwch anfon e-bost ata i oxfamcymru@oxfam.org.uk. Diolch yn fawr.