Cymru: Cenedl Noddfa – cefnogaeth, cyfeillgarwch a chroeso

Eleni, bydd gan Oxfam Cymru bresenoldeb yng Ngŵyl y Gelli i godi ymwybyddiaeth o’r argyfwng ffoaduriaid ac i ddangos y gefnogaeth sydd yn y wlad i Gymru ddod yn Genedl Noddfa.

Mae’r byd yng nghanol yr argyfwng ffoaduriaid mwyaf difrifol ers yr Ail Ryfel Byd. Mae mwy na 60 miliwn o bobl wedi cael eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi oherwydd gwrthdaro a thrais, a miliynau yn rhagor oherwydd trychinebau naturiol a thlodi. Mae’r rhain yn bobl fel chi a fi, a’u teuluoedd wedi eu chwalu, eu plant bach ar ben eu hunain.

 

Fel rhan o ymateb byd-eang, yma yng Nghymru gallwn greu diwylliant o groeso a lletygarwch ar gyfer pobl sy’n chwilio am loches. Mae rhai eisoes wedi bod wrthi mewn trefi a phentrefi ledled y wlad yn ymateb i’r argyfwng trwy gynnig cefnogaeth, cyfeillgarwch a chroeso.

 

Ochr yn ochr â sefydliadau eraill, Oxfam Cymru yn galw am Gymru i ddod yn Genedl Noddfa swyddogol, gwlad sy’n enwog ac yn adnabyddus am ei chroeso cynnes i deuluoedd mewn argyfwng.

 

Yng Ngŵyl y Gelli eleni gallwch ymuno gyda Oxfam Cymru i ddangos bod yn croeso yng Nghymru. Rydym wedi creu stondin luniau arbennig tu allan i’r Siop Lyfrau Oxfam, fydd yno trwy gydol yr ŵyl. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw camu i mewn i’r bryniau Cymreig yn y stondin luniau a rhoi gwên groesawgar! Yna, gofynnwch i ffrind gymryd eich llun a’i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #NationofSanctuary #CenedlNoddfa.

 

Gallwch hefyd wneud gwahaniaeth drwy ysgrifennu llythyr o groeso i deulu o ffoaduriaid sydd newydd gyrraedd Cymru. Ysgrifennwch nodyn neu lythyr ac yna ei bostio yn ein blwch post arbennig yn siop Oxfam yn Y Gelli (y dref, nid yr ŵyl), yna byddwn yn sicrhau bod eich llythyr yn cael ei gyflwyno i deulu sydd newydd gyrraedd Cymru, a byddwn hefyd yn ei ddefnyddio i arddangos y gefnogaeth sydd yma yng Nghymru.

 

Ym mis Medi, bydd arweinwyr byd yn cwrdd i drafod yr ymateb i’r argyfwng ffoaduriaid. Gallwch ymuno â ymgyrch Sefyll Fel Un Oxfam i annog Llywodraeth y DU i fod yn rhan o’r ateb. Ewch i Siop Lyfrau Oxfam yng Ngŵl y Gelli am ragor o wybodaeth.

 

Gyda’n gilydd, gallwn fod yn rhan o’r ateb, gan ddangos i’r byd ac i genedlaethau’r dyfodol bod pobl Cymru yn sefyll fel un gyda theuluoedd sy’n gorfod ffoi.