Yn ôl ym mis Ionawr, lansiodd Oxfam Cymru ein dogfen Unioni’r Glorian: Glaslun i Gymru ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru yn dilyn etholiad y Cynulliad ar 5 Mai. Gwyliwch y fideo fer hon i gael crynodeb o’r hyn sydd yn ein Glaslun i Gymru.
Bellach mae’r pleidiau wedi cyhoeddi eu syniadau polisi ar gyfer Cymru. Felly, tybed beth allai hyn ei olygu o ran tlodi ac anghydraddoldeb economaidd yng Nghymru, ac oes rhai o alwadau polisi ein Glaslun wedi eu cynnwys yn unrhyw un o’r maniffestos?
Yn gyntaf ac yn galonogol, mae’n ymddangos bod digon o gytundeb ynghylch yr angen i fynd i’r afael â chyflog isel yng Nghymru, sy’n adleisio ein galwad i Gymru i ddod yn Genedl Cyflog Byw. Mae’r Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru i gyd yn cyfeirio at y Cyflog Byw (sef £ 9.40 yr awr yn Llundain a £8.25 y tu allan i Lundain, yn seiliedig
ar gostau byw) a phwysigrwydd defnyddio caffael i godi cyflogau isel yn y sector cyhoeddus. Mae’r Ceidwadwyr yn awyddus i sicrhau bod y Cyflog Byw Cenedlaethol newydd yn cael ei roi ar waith yn iawn.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi addo defnyddio dull sy’n seiliedig ar asedau (asset-based approach) mewn rhaglenni i fynd i’r afael â thlodi. Mae’r dull hwn yn golygu edrych ar yr hyn sydd gan bobl yn eu bywydau yn barod, y pethau y gallant adeiladu arnynt, yn hytrach na chanolbwyntio ar beth sydd ddim
ganddynt . Defnyddiwyd y dull hwn gan Oxfam Cymru yn ein Prosiect Bywoliaethau sydd wedi helpu dros 1,000 o bobl ledled Cymru. Mae’r Ceidwadwyr hefyd am alluogi cymunedau i ddefnyddio’r sgiliau sydd ganddynt i fynd i’r afael â thlodi.
Mae gofal plant yn broblem fawr i deuluoedd, a gall diffyg gofal addas, neu ofal anfforddiadwy rwydo nifer o ferched mewn tlodi. Roedd hyn yn bwynt a godwyd gan lawer o bobl yn ein digwyddiad a gynhaliwyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni. Rydym yn falch iawn o weld bod consensws
cyffredinol yng Nghymru ei bod yn bryd i ni fynd i’r afael â materion gofal plant yn uniongyrchol. Mae’r Blaid Werdd yn awyddus i greu gwasanaeth gofal ac addysg cynnar rhad ac am ddim i bawb, tra bod Plaid Cymru yn awgrymu y dylid sicrhau bod lleoedd llawn-amser am ddim mewn meithrinfa i bob plentyn tair oed erbyn diwedd tymor y Cynulliad. Mae Llafur am gynyddu darpariaeth gwasanaethau yn ystod gwyliau’r ysgol, yn benodol trwy glybiau cinio, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael pryd o fwyd iach, tra byddai’r Ceidwadwyr yn treblu yr oriau o ofal plant am ddim a
ddarperir ar gyfer plant 3-4 oed, ac mae’r Democratiaid Rhyddfrydol am gyflwyno gofal plant ar gyfer plant o dan dair oed.
Mae UKIP eisiau symud nifer o gyfrifoldebau o Fae Caerdydd i gynghorau lleol yng Nghymru. Byddai hyn yn galluogi gwleidyddion lleol i gael mwy o ddweud ar wasanaethau lleol a allai gael eu defnyddio i fynd i’r afael â thlodi ar lefel leol.
Un arall o’r galwadau yn ein Glaslun i Gymru oedd i Llywodraeth nesaf Cymru ymrwymo i gyllideb seilwaith i wneud gwaith tŷ cyfan i draean o holl stoc dai bresennol Cymru erbyn 2020, felly rydym yn gyffrous iawn i weld bod cytundeb cyffredinol ar yr angen i wneud gwaith tŷ cyfan er mwyn taclo tlodi tanwydd – a lleihau ein hallyriadau carbon ar yr un pryd. Mae’r Ceidwadwyr yn
bwriadu cynnal adolygiadau blynyddol o allyriadau carbon yng Nghymru, er mwyn galluogi gwell monitro yn erbyn targedau y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol, a byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cyflwyno cyllideb garbon. Mae’r Blaid Werdd yn awyddus i gwrdd â’r galw am drydan Cymru gyfan o ffynonellau adnewyddadwy yng Nghymru erbyn 2030, a Phlaid Cymru yn anelu at wneud yr un peth erbyn 2035. Mae Llafur yn anelu i Gymru fod yn garbon niwtral erbyn 2020.
Mae adran gyfan yn ein Glaslun i Gymru yn edrych ar sut y gall Cymru wneud mwy i gynnig croeso cynnes i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Yn awr, â’r byd yn wynebu’r argyfwng ffoaduriaid mwyaf ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, rydym yn falch iawn o weld bod yna ymrwymiadau gan y
Ceidwadwyr, y Blaid Werdd, Llafur, Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru i wneud mwy i gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.
Cipolwg byr yw hwn o rai o’r polisïau a gyflwynwyd – gallwch gael gwybod mwy ar wefannau’r pleidiau unigol. Mae’n gyfnod cyffrous i Gymru wrth i ni edrych ymlaen at yr etholiad ar 5 Mai, a beth bynnag yw cyfansoddiad Llywodraeth nesaf Cymru, rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw i barhau i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb economaidd yng Nghymru a
thramor.