Yn ystod tymor y gwanwyn eleni, wrth i etholiadau Cynulliad Cymru ddynesu, gall pobl ifanc Cymru gymryd rhan yn ein cystadleuaeth ffotograffiaeth newydd sbon sy’n cael ei lansio heddiw.
Mae cystadleuaeth ‘Creu Cymru Deg’, yn gwahodd pobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed i dynnu llun ac ysgrifennu capsiwn sy’n ddim mwy na 100 gair i rannu eu syniadau am yr hyn maen nhw am ei weld yng Nghymru’r dyfodol; sut beth yw Cymru deg yn eu barn nhw.
Bydd Cymru deg yn golygu nifer o wahanol bethau i wahanol bobl felly mae’r gystadleuaeth hon yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu ac archwilio’n greadigol y materion sy’n cael effaith ar fywyd yng Nghymru heddiw.
Mae’r gystadleuaeth wedi ei rhannu i dri chategori
- Gwaith teg a da i bobl yng Nghymru
- Bargen deg o ran yr hinsawdd i Gymru a’r byd
- Cymru groesawgar i bobl sy’n ceisio lloches
Dyma gyfle gwych i archwilio gyrfaoedd a’r byd gwaith, dysgu mwy am newid hinsawdd neu drafod sefyllfa ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gan feddwl sut i ddal syniad mewn un llun.
Edrych am syniadau?
I ddechrau arni beth am edrych ar ein hadnoddau addysg newydd.
Mae gennym ni adnodd newydd sbon sy’n trafod beth yw gwaith da, adnodd am Ysgolion Noddfa, ac adnodd arbennig am Newid Hinsawdd.
A pheidiwch â phoeni os nad oes gennych chi unrhyw brofiad o dynnu lluniau a’r cwbl rydych chi wedi ei dynnu ydy ‘hunlun’! Mae Glenn Edwards, ffotograffydd proffesiynol a chyn enillydd cystadleuaeth Ffotograffydd y Wasg Gorau’r DU wedi llunio deg awgrym defnyddiol i wella eich lluniau.
Felly beth sydd angen i chi ei wneud?
Dylai athrawon lenwi’r ffurflen gofrestru a’i dychwelyd gyda thri llun gorau eich grŵp blwyddyn ar gyfer pob categori at educationcymru@oxfam.org.uk unrhyw dro rhwng 25 Ebrill 2016 a 5pm ar 9 Mai 2016.
Beirniaid
Bydd y lluniau yn cael eu beirniadu gan banel o dri, gan gynnwys y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol newydd, Sophie Howe, Polly Seton o Raglen Dysgu Fyd-eang Cymru, a Glenn Edwards, cyn enillydd cystadleuaeth Ffotograffydd y Wasg Gorau’r DU.
Gwobr y gystadleuaeth
Bydd pob llun, ynghyd a’r capsiynau, yn cael eu harddangos ar oriel ar-lein a gaiff ei rhannu gan Oxfam. Bydd ysgolion neu golegau’r enillwyr hefyd yn derbyn gweithdy am ddim gan Oxfam Cymru a bydd yr enillwyr yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad arbennig yr haf hwn, fydd yn cynnwys arddangosfa o’r lluniau, gweithdai i bobl ifanc a chyfle iddynt gwrdd ag Aelodau Cynulliad newydd eu hethol er mwyn iddynt glywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc Cymru.
Felly ewch ati i annog pobl ifanc i ddarllen, archwilio, trafod a thynnu lluniau’r tymor hwn.
Pob lwc!