Dathlu Prosiect Bywoliaethau Oxfam Cymru

“Roeddwn i’n methu symud, ond rŵan does ‘na ddim stop arna i. Nawr mae gen i ddyfodol, oherwydd y prosiect Bywoliaethau.” Diane Bennett, un o Fentor Cymheiriaid ein Prosiect Adeiladu Bywoliaethau a Chryfhau Cymunedau yng Nghymru.

Mae prosiect tair blynedd Oxfam Cymru, Adeiladu Bywoliaethau a Chryfhau Cymunedau yng Nghymru wedi helpu dros 1,100 o bobl yng Nghymru, fel Diane, i ail-afael yn eu bywydau a chodi ar eu traed unwaith eto.

Dyluniwyd y prosiect Bywoliaethau i gefnogi pobl oedd yn ei chael hi’n anodd helpu eu hunain. A dros y tair blynedd ddiwethaf rydym wedi cefnogi gwraig weddw oedd yn isel ei hyder ac yn unig, dyn ifanc oedd yn methu fforddio talu am docyn bws i gyrraedd ei waith a mam newydd oedd yn dioddef o iselder. 

Mae’r prosiect, a noddwyd gan Y Gronfa Loteri Fawr ac Unilever, yn defnyddio dull o’r enw SLA, sef the Sustainable Livelihoods Approach – sy’n helpu pobl i gydnabod y cryfderau a’r asedau sydd ganddynt yn barod, er mwyn mynd i’r afael a gwraidd y broblem, y peth hwnnw sy’n eu hatal rhag cyrraedd eu llawn botensial.

Ledled Cymru, mewn partneriaeth â naw sefydliad gwych, mae Oxfam Cymru wedi llwyddo i helpu:

  • 636 o bobl i fagu hyder a sgiliau newydd;
  • 648 o bobl i ymwneud mewn digwyddiadau yn eu cymuned;
  • 91 o bobl i gael lleoliadau gwirfoddol; a
  • 90 o bobl i ffeindio swydd.

Gan ddefnyddio’r SLA, mae’r Prosiect Bywoliaethau hefyd wedi bod yn llwyddiant ariannol, gan greu elw o £4.39 am bob £1 sydd wedi ei gwario ledled Cymru.

Mae’r rhifau’n dweud y cwbl, ac yn dangos yn glir bod y dull dwys, sensitive hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl.

Mae Oxfam Cymru wedi creu ffilm fer i’ch helpu chi i ddysgu mwy am yr SLA – the Sustainable Livelihoods Approach – ac i glywed yn uniongyrchol gan bobl sydd ar eu hennill oherwydd y prosiect.

Gall prosiectau fel hyn wneud gwahaniaeth. Gan gysidro bod lefelau tlodi heb newid yng Nghymru ers degawd a bod un ym mhob pedwar teulu yn byw mewn tlodi cymharol, mae angen i Lywodraeth nesaf Cymru sicrhau newid hirdymor. Rydym ni’n credu bod modd iddynt wneud hynny wrth ddefnyddio’r dull SLA – the Sustainable Livelihoods Approach – yn eu holl wasanaethau a pholisïau sy’n gweithio i helpu pobl ddianc rhag tlodi. Mae’n bosib i ni helpu miloedd o bobl ledled Cymru wrth wneud hyn.


I glywed sut rydym ni’n meddwl y gellid gwneud hyn a mwy i gefnogi pobl sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru cymerwch gip ar ein Gall prosiectau fel hyn wneud gwahaniaeth. Gan gysidro bod lefelau tlodi heb newid yng Nghymru ers degawd a bod un ym mhob pedwar teulu yn byw mewn tlodi cymharol, mae angen i Lywodraeth nesaf Cymru sicrhau newid hirdymor. Rydym ni’n credu bod modd iddynt wneud hynny wrth ddefnyddio’r dull SLA – the Sustainable Livelihoods Approach – yn eu holl wasanaethau a pholisïau sy’n gweithio i helpu pobl ddianc rhag tlodi. Mae’n bosib i ni helpu miloedd o bobl ledled Cymru wrth wneud hyn.

Gall prosiectau fel hyn wneud gwahaniaeth. Gan gysidro bod lefelau tlodi heb newid yng Nghymru ers degawd a bod un ym mhob pedwar teulu yn byw mewn tlodi cymharol, mae angen i Lywodraeth nesaf Cymru sicrhau newid hirdymor. Rydym ni’n credu bod modd iddynt wneud hynny wrth ddefnyddio’r dull SLA – the Sustainable Livelihoods Approach – yn eu holl wasanaethau a pholisïau sy’n gweithio i helpu pobl ddianc rhag tlodi. Mae’n bosib i ni helpu miloedd o bobl ledled Cymru wrth wneud hyn.