DATHLU DIWRNOD ANABLEDD A DWY WLAD YN DOD YNGHYD

Gallwn ddysgu oddi wrth ein cymdogion yn Affrica ac edrych y tu hwnt i anabledd. 

Dyma yw neges arddangosfa Anabledd yng Nghymru ac Affrica a gynhelir ym Mae Caerdydd ar y 3ydd o Ragfyr, i ddathlu diwrnod rhyngwladol pobl ag anabledd. 

“Bwriad yr arddangosfa hon yw estyn dwylo dynoliaeth,” meddai trefnydd yr arddangosfa Paul Lindoewood sydd â pharlys yr ymennydd a nam cyfathrebu, ac mae mewn cadair olwyn. 

“Wrth gwrs mae digon o bethau’n wahanol rhyngddon ni yma yng Nghymru ac allan yn Kenya ond beth sydd yn hyfryd yw bod cymaint gyda ni’n gyffredin hefyd. 

“Mae Affrica yn agos at fy nghalon, roeddwn yn byw yn Kenya am naw mlynedd. Pan symudo ni fel teulu i Gymru, roedd fy ngwraig a minnau yn awyddus i wneud rhywbeth ystyrlon fyddai’n cysylltu Cymru ac Africa ond hefyd yn gosod anabledd ar frig yr agenda.”

“Mae’n rhyfedd i ddweud ond rwy’n teimlo’n fwy anabl yn aml yng Nghymru nag ydw i yn Kenya .Y gwahaniaeth yw eu bod nhw’n siarad yn blaen ac maen nhw’n hollol agored, dyna sut y maen nhw yn eich derbyn chi. ” 

Cafodd DWA (Anabledd yng Nghymru ac Affrica) ei sefydlu gan Paul Lindoewood yn 2010 a hon yw eu harddangosfa gyntaf.

“Byddwn yn arddangos lluniau yn dangos bywydau pobl anabl yng Nghymru ac yn Affrica. Rhoddais gamerâu tafladwy i bobl mewn tri lle yn Affrica a gofyn iddynt dynnu lluniau am sefyllfaoedd bywyd o ddydd i ddydd, ym maes addysg, amser hamdden a byd gwaith a hefyd ddangos i ni y rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu. Gwnaethom yr un peth yma yng Nghymru. Dw i am i bobl i weld gymaint sydd gennym yn gyffredin â’n gilydd.”

Bydd yr arddangosfa ffotograffig unigryw yn cael ei lansio am 1.20 pm ar 3 Rhagfyr 2013 yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd.