Plant Bolivia yn arwain y Byd.

Llun – llifogydd 2008 effeithiodd sawl ardal yn Bolivia.

Mae Lila Haines o Oxfam Cymru yn Ne America ar hyn o bryd yn dilyn gwaith yr elusen.

Er bod arweinwyr y byd unwaith eto wedi methu â gweithredu o ddifrif ar newid hinsawdd yn eu huwchgynhadledd yn Warsaw, yma yn Bolivia mae plant ysgol yn gwneud eu rhan i helpu i osgoi trychinebau sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd.

Ddydd Gwener, ymunais â disgyblion a staff ysgol Pablo Zarate Villca, yn ninas El Paso sy’n uchel yn yr Andes, ar gyfer rhybudd llifogydd ffug i roi cynnig ar eu sgiliau lleihau risg o drychineb.

Mae Viviana Villegas sy’n ddeuddeg oed yn Brigadista, un o bymtheg o blant yn yr ysgol wedi’u hyfforddi i dywys eu cyd- ddisgyblion o’r ysgol mewn achos o lifogydd.

” Pan glywn y larwm rydym ni’r Brigadistas yn gwisgo’n siacedi, yn mynd i’n safleoedd priodol ac yn dechrau rheoli taith y myfyrwyr o’r ystafelloedd dosbarth. Byddwn yn cau’r drysau a gwneud popeth yr ydym wedi eu hymarfer, gan sicrhau eu bod yn ymddwyn yn iawn ac yn eu harwain nhw i fyny i dir uwch. “


(Llifogydd 2008 yn Bolivia)

Llifogydd yw’r brif risg yn El Alto, lle ym mis Tachwedd cafwyd glaw eithriadol o drwm a ddifethodd ddeg ar hugain o dai.

I lawr y mynydd tuag at La Paz mae, gadawyd llain noeth o dir lle y bu cartrefi cyn y tirlithriad anferth. Yn ffodus i rai pobl ddigartref, y noson cyn y drychineb roedd Oxfam newydd godi cartrefi argyfwng i’w defnyddio mewn digwyddiad o’r fath. Mae’r awdurdodau lleol yn derbyn yr angen i godi mwy o dai fel hyn, gan fod y perygl o drychinebau oherwydd newid hinsawdd yn edrych yn fwy tebygol yn y dyfodol.

Mae Mynydd Illimani a’i gopa dan eira yn disgleirio uwchben El Paso a phrifddinas Bolivia, La Paz. Mae’r dyfroedd wedi bod yn ffynhonnell bywyd fan hyn ers miloedd o flynyddoedd. Ond yn awr mae’r rhewlifoedd yn toddi ar raddfa na welwyd o’r blaen, gyda chanlyniadau difrifol iawn i amaethyddiaeth a bywyd cefn gwlad.

Mae’r trefi hefyd yn teimlo’r effeithiau, gan fod patrymau arferol glawogydd a dŵr yn newid ac mae’r mewnfudo cynyddol yn ychwanegu at y pwysau, yn ôl Juan Javier Cusi Choque, peiriannydd gyda 15 mlynedd o brofiad fel gwirfoddolwr chwilio ac achub, ac sydd yn awr yn gyfarwyddwr rhaglen i wella parodrwydd risg ac ymateb mewn sefyllfaoedd o’r fath.

” Rydym yn gweithio i godi ymwybyddiaeth, fel bod pobl yn caru eu dinas a newid eu hymddygiad, ” meddai Juan Javier. Dyw perswadio pobl i newid eu ffordd o feddwl a pharatoi ar gyfer hinsawdd sy’n gwaethygu ddim yn dasg hawdd, mae’n cyfaddef, a dyna pam y mae angen dechrau’n ifanc.

Ac mae hon yn her fyd-eang hefyd: cael arweinwyr y byd i newid eu meddylfryd. Gallent ddysgu llawer oddi wrth blant  El Alto – y Copa. Lle addas efallai ar gyfer yr uwchgynhadledd nesaf er mwyn canolbwyntio meddyliau ar realiti newid hinsawdd.