BRWYDRO YN ERBYN NEWYN BYD

Elusennau yng Nghymru yn dod ynghyd yng Nghasnewydd i barhau ymgyrch yn erbyn newyn.

Yr wythnos hon daeth Oxfam Cymru, Cafod, Achub y Plant, Cyswllt Cymunedau Cymru Affrica, Cymorth Cristnogol Cymru a’r Eglwys yng Nghymru a llawer mwy at ei gilydd yn Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw, Casnewydd i frwydro ymlaen yn erbyn newyn byd-eang.

Mae’r Ymgyrch yn falch o weld sawl llwyddiant eleni, Lila Haines Swyddog Polisi ac Eiriolaeth Oxfam Cymru oedd yn cadeirio y digwyddiad; 

“Fe gafodd Ymgyrch Digon o Fwyd i Bawb OS sawl llwyddiant eleni ar lefel fyd-eang, gwelwyd canlyniadau o ddifri ym maes plant, ar gyfer ffermwyr tlawd, a gwledydd yr effeithiwyd arnynt gan arferion atal talu trethi. Nawr rydyn ni angen parhau i osod pwysau ar arweinwyr y byd i gadw eu haddewidion. 

Rydw i hefyd yn galw ar bobl Cymru i’n helpu ni i berswadio arweinwyr byd i ymateb i newyn ac i alw ar Lywodraeth Cymru i chwarae ei rhan yma gartref. Y weithred fwyaf buddiol i’w chymeryd nawr yw torri allyriadau carbon sydd yn arwain at waeth newid hinsawdd fydd yn y pen draw yn effeithio ar gynhyrchu bwyd mewn gwahanol leoliadu bregus ar draws y byd.” 

 

(Lila Haines Llywydd Ymgyrch OS Cymru yn gwneud addewid i barhau i daclo newyn byd.)

Mae Ymgyrch OS Cymru yn gasliad o 23 elusen a mudiadau gwirfoddol sydd wedi ymgyrchu yn genedlaethol dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn taclo newyn byd.    

Ymhlith y gynulleidfa roedd sawl wyneb cyfarwydd gyda’r Parchedig R Alun Evans yn gwneud addewid personol i gefnogi Ymgyrch OS yn ogystal â Gill Griffiths Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr a Roger Williams AS 

“Mae’r Ymgyrch yn galw unwaith eto ar Lywodraeth Cymru i  gryfhau ei haddewidion trwy ymrwymo i wella cyflwr pobl dlotaf y byd.Mae digon o fwyd i bawb, ond does gan bawb ddim digon o fwyd. Mae’n annheg, anghyfiawn ac yn rhywbeth y gellir ei atal,”ychwanega Lila Haines.

Côr Lleisiau Zimbabwe

Lluniau gan Glenn Edwards