Llongyfarchiadau, Marilyn

Ym mis Medi,, daeth cydweithwyr a ffrindiau Marilyn Coward ynghyd i ddathlu ei 30 mlynedd yn gwirfoddoli ag Oxfam Cymru. Gwnaed teisen arbennig i nodi’r achlysur, ac fe gyflwynodd Julian Rosser, Pennaeth Oxfam Cymru, dystysgrif a bathodyn iddi, a neges gan Ben Phillips, Cyfarwyddwr Ymgyrchoedd a Pholisïau’r elusen.

Daeth Marilyn yn wirfoddolwr gweinyddol yn Whitchurch Road yn 1983 ac fe ddaliodd ati yn y rôl hon (gyda seibiau tra bu mewn swydd) nes iddi gael ei recriwtio i’r adran addysg yn 1991- bu’n gweithio yn yr adran honno ers hynny.

Yn ferch o Gaerdydd, mae Marilyn yn briod, ac mae ganddi ddau fab sy’n oedolion ac sydd â’u teuluoedd eu hunain. Pan nad yw’n gwneud ei gorchwyl arferol ar ddydd Mercher yn Oxfam, mae hi’n mwynhau ymarfer yoga a mynd i’r gampfa. Hefyd mae hi wrth ei bodd yn teithio i wledydd tramor gyda’i gŵr.   

Dywedodd Marilyn: “Mae’r blynyddoedd wedi hedfan, ac rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael cyfarfod llawer o bobl ddiddorol o gefndiroedd gwahanol. Rydw i’n ddiolchgar iawn i bawb yn Oxfam Cymru – staff, gwirfoddolwyr y gorffennol a’r presennol, a phawb sy’n gysylltiedig â’r elusen am wneud y profiad hwn mor bleserus.”