OS MAWR CYMRU – GWAHODDIAD

Mae OS IF mawr Cymru yn eich gwahodd chi i’r OS Mawr.

Eleni diolch i’ch cymorth chi, llwyddodd yr ymgyrch Digon o Fwyd i Bawb OS mawr Cymru roi newyn ar yr agenda ryngwladol. Gwnaeth arweinwyr mwyaf pwerus y byd addewidion penodol i frwydro yn erbyn newyn a thlodi, megis: 
Ymateb yn gadarn yn erbyn y rhai sydd yn osgoi talu treth;
Buddsoddi £4.1bn ar gyfer maeth plant;
Cefnogi cyllido gwell wrth ymateb i newid hinsawdd;
Roedd gwleidyddion wedi cydnabod yr effaith andwyol mae bachu tir yn ei wneud mewn gwledydd tlawd;
Addewid y DU i wario 0.7% o’r gyllideb ar gymorth rhyngwladol.
Mae’r cyfan oll yn werth ei ddathlu! Dewch i ymuno gyda ni yn ein dathliad – yn Eglwys Sant Gwynllyw, Casnewydd, Ddydd Sul Hydref 27. 



Dydd Sul 27 Hydref 3-4 yh (gyda lluniaeth ysgafn wedyn).Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw, Casnewydd NP20 4EA.

Dathliad yw hwn sy’n edrych tuag at ddyfodol heb newyn, lle byddwn ni hefyd yn addo sicrhau bod Cymru’n chwarae ei rhan yn y frwydr. Gyda cherddoriaeth, arddangosfa a chyfraniadau gan ymgyrchwyr o bob ffydd neu ddim.

A wnewch chi ymuno ‘da ni?

Lila Haines

Cadeirydd / Chair, IF OS Cymru

Os hoffe chi ddod cofrestrwch yma: https://ifoscymru.eventbrite.co.uk/

Neu    RSVP  lhaines@oxfam.org.uk

IF Wales / OS Cymru, c/o Oxfam Cymru, 5-7 St Mary Street, Cardiff CF10 1AT