Arfau oedd prif drafodaeth Pwyllgor Cenedlaethol y Cenhedloedd Unedig yr wythnos diwethaf yn Efrog Newydd. Roedd cytundeb hefyd ymhlith y Cyngor Diogelwch i ddatrys sefyllfa arfau cemegol Syria.
Mae’r pwyllgor wedi gosod dyddiad targed ar gyfer cynnal trafodaethau heddwch yng nghanol mis Tachwedd. Er hyn i gyd mae’r brwydro’n parhau, gyda 5000 o bobl y mis yn colli eu bywydau â miloedd mwy o bobl Syria yn gadael eu cartrefi.
Dywedodd Liqaa sydd yn ffoadur o Syria wrth ymuno gyda Oxfam mewn ymgyrch o blaid gweld trafodaethau heddwch;”Mae ein plant yn crio ac eisiau heddwch, rydyn ni wedi cael digon o’r dagrau ar gwaed. Rydyn ni angen diwedd i’r dioddef. Dyma fy mreuddwyd i.”
Yng Nghymru dros yr haf fe arwyddodd 2,700 o bobl y ddeiseb sydd yn galw ar yr Ysgrifennydd Tramor William Hague i wthio ymhellach o blaid trafodaethau heddwch ac rydyn ni’n galw arnoch chi nawr i helpu unwaith eto mewn un ymdrech olaf fawr. Os gwelwch yn dda arwyddwch y ddeiseb, gofynnwch i ffrindiau i wneud yr un peth.
Mae’n rhaid i’r llywodraeth gadw gwthio o blaid trafodaethau heddwch, bydd unrhyw oedi pellach yn niweidiol i bobl Syria.