Mae Anna McVicker, Swyddog Bywoliaethau Oxfam Cymru yng Nglan yr Afon, Caerdydd, yn ysgrifennu:
Trefnais daith i Ynys y Bari gyda menywod sy’n cymryd rhan yn ein prosiect yng Nghanolfan Datblygu Cymunedol De Glan yr Afon. Roedd yn cyd-fynd â dathliadau Eid ac yn gyfle i’r plant ddod i adnabod ei gilydd. Roedd y profiad yn un newydd i rai, a oedd erioed wedi bod i lan y môr yng Nghymru o’r blaen neu deithio ar drên.
Daethom ynghyd gyda thomen o fwyd picnic, bwcedi a rhawiau a dillad nofio, yn benderfynol o beidio â throi yn ôl oherwydd y tywydd gwlyb Cymreig!
Yn wir, ni amharodd y tywydd arnom o gwbl ac roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol. Wrth i bawb sgwrsio a chwerthin, gwnaethpwyd cysylltiadau a ffrindiau newydd, yn enwedig dwy wraig a sylweddolodd fod ganddynt gymaint yn gyffredin. Cafwyd sawl stori a chyfnewidwyd rhifau ffôn.
Ciliodd y glaw am rhyw ddwy awr hyd yn oed a nofiodd y plant yn y môr! Rhannwyd y picnic a sglodion ymysg pawb ohonom, a mwynhau profiad unigryw Ynys y Bari o hwyl teulu, cerddoriaeth fyddarol a thywod yng nghanol popeth.
Mae taith i’r traeth yn seibiant ardderchog o fywyd beunyddiol, yn enwedig os nad ydych yn gadael eich cymdogaeth yn aml. Mae gwneud pethau newydd a chyfarfod pobl newydd yn hwb i’ch hyder ac yn rhoi cymorth i chi roi persbectif cwbl newydd ar eich problemau – a dyna yw holl bwrpas prosiect Bywoliaethau Oxfam.
Cefnogir y prosiect Bywoliaethau gan Sefydliad Unilever a Chronfa Loteri Fawr Cymru.