Mae Kate Anderson newydd raddio o Brifysgol Caerdydd ac mae hi wedi bod yn gwirfoddoli am ddau ddiwrnod yr wythnos fel Cynorthwyydd Cefnogi Codi Arian yn swyddfa Caerdydd. Dyma hi’n sôn beth fu hi’n ei wneud
Mae rhywbeth newydd yn digwydd bob dydd ym myd codi arian. Yn ystod fy nghyfnod gydag Oxfam rwyf wedi helpu i godi cannoedd o bunnoedd i argyfwng Syria; wedi cynllunio a helpu i drefnu digwyddiadau ledled Cymru; wedi helpu i hyrwyddo ymgyrch godi arian a gododd filoedd o bunnoedd; a hyd yn oed wedi codi arian fy hunan, drwy fwyta mymryn bach o fwyd rhad a digon diflas fel rhan o’r ymgyrch ‘Live Below the Line’.
Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn hyrwyddo ein ‘Megaraid’ blynyddol yn Llundain i RAGs mewn prifysgolion ledled Cymru. Mae’n ddigwyddiad cyffrous sy’n cael ei gynnal bob mis Tachwedd, lle mae cannoedd o fyfyrwyr yn dod at ei gilydd i feddwl am syniadau creadigol ac arloesol i godi’r swm mwyaf o arian i Oxfam. Mae’n profi bod codi arian nid yn unig yn darparu arian sydd ei angen ar Oxfam i gynnal ei waith, ond mae hefyd yn cynnig ffyrdd o gymdeithasu, cwrdd â phobl o’r un anian â chi, gwella eich hyder – ac uwchlaw popeth, cael hwyl!
Ym mis Gorffennaf, fe wnes i drefnu “Noson gydag Oxfam” yng Nghas-gwent, a gafodd adborth cadarnhaol iawn gan y gwesteion, gyda nifer ohonyn nhw’n gefnogwyr tymor hir Oxfam. Fe wnaeth y wirfoddolwraig Adele Carter siarad am ei hymweliad diweddar â phrosiectau sy’n cael eu cyllido gan Oxfam yn Nicaragua. Rhoddodd ei ffotograffau a’i phrofiadau (heb anghofio ei siocled!) syniad amhrisiadwy i ni o sut mae Oxfam yn helpu’r rhai sydd fwyaf mewn angen, a sut maen nhw’n goresgyn y problemau anorfod sy’n codi wrth weithio mewn sefyllfaoedd sy’n
sensitif o safbwynt gwleidyddol.
Dangosodd ei storïau lle mae’r arian y mae Oxfam yn ei godi yn mynd mewn gwirionedd, y prosiectau a gyllidir sy’n newid bywydau, a’r mamau, tadau, plant, neiniau a theidiau – ac uwchlaw popeth, y cymunedau – sy’n elwa. Mae clywed am y canlyniadau hyn yn atgyfnerthu fy ymdrechion a’m penderfyniad i ddal ati i helpu Oxfam i helpu pobl eraill.
Gall codi arian fod yn ddigwyddiad mawr neu’n gasgliad mewn jar jamiau. Yn y cyfnod anodd hwn, rydym yn gwerthfawrogi beth bynnag allwch chi ei roi i helpu – pa un ai amser i werthu tocynnau raffl, ysgwyd bwced casglu arian neu drefnu digwyddiad wnewch chi. Rydym hefyd yn gobeithio y gwnewch chi fwynhau’r profiad!