Ar Ddydd Iau 25 Gorffennaf am 6pm yn y Deml Heddwch, Caerdydd clywch pam Caru Syria.
Ar Ddydd iau 25 Gorffennaf am 6pm yn y Deml Heddwch, Caerdydd cawn gyfle i glywed straeon o lygad y ffynnon am yr ymdrechion ysbrydoledig sy’n digwydd o amgylch Syria er mwyn cefnogi’r 1.8 miliwn o ffoaduriaid sydd wedi’u heffeithio gan yr argyfwng. Bydd Dr Sameh Otri, Cadeirydd Welsh Solidarity for Syria, yn siarad am ei brofiadau personol o helpu pobl ar y ffin rhwng Twrci a Syria. Drwy Welsh Solidarity for Syria mae Dr Otri wedi mynd a deunyddiau addysg a chelf, ambiwlansys a nwyddau meddygol i wersylloedd er mwyn gweithio gyda phlant, athrawon a
rhieni.
Bydd Camilla Jelbart Mosse, Rheolwr Ymgyrch byd-eang Oxfam ar gyfer Syria yn siarad. Yn gynt eleni treuliodd Camilla amser yn ngwersyll ffoaduriaid Za’atari yn yr Iorddonen lle mae Oxfam yn darparu dŵr a chyfleusterau glanweithdra gan gynnwys cawodydd, toiledau, a blociau golchi dillad. Bydd Camilla yn rhannu gor-olwg o ymateb Oxfam i’r argyfwng dyngarol yn ogystal a’i chasgliadau personol o’r straeon a glywodd drwy gwrdd â ffoaduriaid.
Ymunwch â ni a Caru Syria.