Fe luniodd plant balch faneri lliwgar i ddathlu llwyddiant eu mamau wrth iddyn nhw gwblhau chwe mis ar raglen unigryw Mynediad at Waith Oxfam Cymru mewn seremoni wobrwyo arbennig yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd.
Fe gwblhaodd y merched – pob un ohonyn nhw’n rhieni sengl o gymunedau BME (Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig) yng Nghasnewydd a Chaerdydd – leoliadau gwaith, mynychu dosbarthiadau ESOL, pasio arholiadau sgiliau adwerthu ac ennill interniaethau. Aeth dwy ohonyn nhw’n syth i swyddi cyflogedig.
Cymeradwyodd gwestai o’r Ganolfan Byd Gwaith a sefydliadau partner eraill wrth i Julian Rosser, pennaeth Oxfam Cymru, gyflwyno’r tystysgrifau. Ond, daeth y gymeradwyaeth uchaf gan y bechgyn a’r merched, ac roedd y baneri a’r cardiau yn mynegi eu teimladau’n eglur.
Dywedodd Saima Abbas, 37 oed, un sydd wedi ‘graddio’ o’r prosiect Mynediad, sydd ar hyn o bryd yn dderbynnydd gwirfoddol gyda Oxfam Cymru, ac sy’n bwriadu dechrau ei busnes ei hun, “Mae Mynediad wedi newid fy mywyd yn llwyr ac y mae wedi agor drysau newydd. Rydw i wedi gwneud ffrindiau oes hefyd!”
Dywedodd Antonina Mendola, arweinydd y prosiect:
“Mae’r merched hyn i gyd eisiau gweithio, ond maen nhw’n wynebu sawl rhwystr, yn cynnwys iaith, diffyg hunan hyder, a phrinder y swyddi sy’n ddigon hyblyg i’r rhai sy’n gofalu am blant. Amcan ein prosiect, sy’n rhan o raglen Oxfam ar Dlodi yn y Deyrnas Unedig, yw paratoi mamau sengl BME ar gyfer y farchnad lafur. Mae’r 24cyfranogwr wedi gweithio’n galed ac wedi dangos ymroddiad a brwdfrydedd, ac mae eu llwyddiant yn dweud y cyfan,”
Yn awr, mae Oxfam Cymru yn manteisio ar y llwyddiant hwn wrth lansio Mynediad at Waith a Mentergarwch, wedi’u lunio’n benodol ar gyfer mamau sengl o gymunedau ledled Caerdydd.
I wybod rhagor am y prosiect hwn, cysylltwch â AMendola@oxfam.org.uk
Os hoffech wybodaeth am raglen Oxfam ar dlodi yn y Deyrnas Unedig, ewch i: https://www.oxfam.org.uk/what-we-do/countries-we-work-in/uk