Diolch i bawb yng Nghymru a gynhaliodd Oxfam Get Together i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched a chodi arian i drawsffurfio bywydau merched sy’n byw mewn tlodi o amgylch y byd. Fe wnaeth un a gynhaliodd Get Together, Sian Jones o’r Wyddgrug, ddweud “Fe wnaeth y syniad o gefnogi merched yn neilltuol roi nod benodol iawn i’n digwyddiad, a gwneud i ni deimlo’n rhan o gymuned fyd-eang, felly diolch i chi am y cyfle i godi arian tuag at ferched.”
Dyma rai o’r uchafbwyntiau……..
Fe wnaeth tri ffrind, sydd i gyd yn cynnal eu busnesau eu hunain, drefnu Get Together mewn canolfan ddringo dan do, a oedd yn lleoliad cyffrous iawn. Fe wnaethon nhw osod stondinau a gwahodd mamau gyda babanod ifanc i ymuno â nhw. Daeth Peppa Pinc yno, tra bu’r mamau yn mwynhau coffi am ddim a sesiynau blas ar ddringo waliau. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr, gan godi dros £200.
Cododd salon Sands Hairdressing £175 drwy gynnal Get Together i gydweithwyr a chleientiaid. Roedd yn ddigwyddiad meithrin tîm gwych, gyda staff yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth goginio a chynnig sesiynau tylino dwylo a breichiau yn gyfnewid am gyfraniad bychan. Dywedodd y perchennog, Sally Davies “Roeddwn yn meddwl y byddwn yn trefnu Get Together gan mai merched yw cyfran helaeth o’n cleientiaid. Roeddwn eisiau dangos cefnogaeth a gofal dros ferched ledled y byd – roedd hyn yn cyd-fynd ag ethos ein salon, ac roeddwn yn meddwl y byddai’n
hwyl”.
Fe wnaeth Judith, chwaraewr soddgrwth o’r radd flaenaf, arwain dosbarth cerddoriaeth i famau a babanod. Fe gafodd pawb ohonyn nhw lawer o hwyl a gwneud llawer o sŵn hyfryd!
Cynhaliodd Hannah Beadsworth Get Together yn y gampfa leol i ferched. Gyda gwobrau raffl wedi’u rhoi gan fusnesau lleol, arwerthiant teisennau a chystadleuaeth ‘dyfalwch faint o galorïau sydd yn y deisen’, cododd £458, sy’n swm rhyfeddol.