Bydd newyn a diffyg maeth mewn plentyndod yn rhwydo bron i biliwn o bobl ifanc mewn tlodi erbyn 2025. Dyna pam rydym yn ran o ‘Digon o Fwyd i Bawb OS’ – y mudiad mwyaf o’i
bath yn y DU ers ‘Rhown Derfyn ar Dlodi’ yn 2005 – a lansiodd heddiw yng Nghaerdydd ac ar draws y DU.
Mewn byd ble mae digon o fwyd i bawb, mae’r grŵp yn rhybuddio fod y gwarth o blant yn tyfu i fyny dan lwgu hefyd yn gosod baich economaidd enfawr ar y gwledydd sy’n datblygu, gan gostio £78 biliwn dros y 15 mlynedd nesaf.
Yn yr adroddiad cyntaf a gyhoeddir heddiw gan ymgyrch OS ceir rhybudd clir o’r gost ddynol ac economaidd sydd ynghlwm wrth newyn, a hynny mewn byd ble mae digon o fwyd i bawb.
Mae camau breision wedi eu cymryd er mwyn lleihau effeithiau tlodi gyda 14,000 yn llai o blant yn marw pob dydd o’i gymharu ag yn 1990. Ond mae newyn yn bygwth gwyrdroi’r gwaith da sydd eisoes wedi ei gyflawni. Mae ffermwyr gweithgar, yn enwedig merched a’u plant, a phobl gyffredin a bregus ym mhobman yn wynebu’r prisiau bwyd uchaf a welwyd mewn cenhedlaeth. Yn y Deyrnas Unedig, ac yma yng Nghymru, mae niferoedd y bobl sydd angen defnyddio
banciau bwyd wedi cynyddu’n aruthrol. Mae effaith newid hinsawdd yn gwneud pethau hyd yn oed yn waeth.
Mae’r ymgyrch, a lansiwyd heddiw yng Nghymru yng Nghastell Caerdydd, yn galw ar y Prif Weinidog David Cameron i ddefnyddio Uwch-gynhadledd yr G8 yn Enniskillen fis Mehefin i fynd at wraidd yr argyfwng bwyd a newyn yn y gwledydd tlotaf.
Mae’r Grŵp OS Cymru hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru ac ar bobl Cymru i chwarae eu rhan â galwadau yn cynnwys : cefnogaeth ar gyfer rhaglen Cymru dros Affrica; Cyflwyno Mesur Datblygu Cynaliadwy a fydd yn ymrwymo Cymru yn y frwydr i daclo newid hinsawdd;
pwyso i gael gwared ar fandad de facto biodanwydd yr UE, sy’n codi prisiau bwyd, yn achosi colli tir ac yn niweidio’r amgylchedd ac i adnewyddu ei ymrwymiad i Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang.
Cefnogwyd lawns yr ymgyrch hefyd gan actorion fel Bill Nighy, Keeley Hawes a Bonnie Wright, y cerddor Baaba Maal a’r athletwr o Gymru, Colin Jackson. Mae’r cogydd enwog Bryn Williams hefyd yn cefnogi’r ymgyrch.
Meddai Bryn Williams: “A minnau wedi fy magu yn Sir Ddinbych yn rhan o deulu estynedig o ffermwyr mae defnyddio cynnyrch lleol sydd wedi ei dyfu yma yng Nghymru wedi bod yn bwysig iawn i mi erioed. Eto, mae newyn byd-eang yn dedfrydu miliynau o blant i farwolaeth oherwydd na all eu teuluoedd dyfu neu fforddio bwyd fel llysiau, llaeth a chig. Rydym yn byw mewn byd ble mae yna ddigon o fwyd i bob un ohonom, felly beth am weithio hefo’n gilydd i fynd at wraidd y broblem yma. Beth am wneud yn siŵr fod y rhai sy’n bwy yng ngwledydd tlotaf
y byd yn cael y gefnogaeth, yr adnoddau, y sgiliau a’r tir sydd ei angen arnynt i allu bwydo eu hunain. Gallwch wneud hynny drwy ymuno a chefnogi’r ymgyrch ‘OS’ yng Nghymru.”
Ychwanegodd yr athletwr adnabyddus o Gaerdydd, Colin Jackson: “Mae’n anghyfiawn fod bron i biliwn o bobl yn mynd i gysgu bob nos ar stumog wag. Mae camau breision wedi eu cymryd i leihau effaith tlodi a lleihau marwolaethau ymysg plant ond mae rhwystrau enfawr i’w taclo wrth drafod newyn. Mewn byd ble mae digon o fwyd i bawb, mae hyn yn warth. OS wnawn ni gydweithio gallwn newid hyn ac rwy’n galw ar bobl Cymru i ymuno gyda mi yn y ras yn erbyn newydd drwy
gefnogi’r ymgyrch yma.”
Gan edrych ymlaen at lansio’r ymgyrch yng Nghymru, meddai Lila Haines, Cadeirydd y Grŵp OS Cymru: “Ry’n ni’n edrych ymlaen at lansio’r ymgyrch heddiw yng Nghastell Caerdydd a bydd cyfle i’r cyhoedd ddangos eu cefnogaeth drwy arwyddo pedair llythyren chwyddadwy enfawr ar siâp OS ac IF. Byddwn hefyd yn datgan neges yr ymgyrch yn glir ar siâp graffiti glân ar y palmant yng Nghaerdydd gan ddechrau ar ôl-troed y daith ‘OS’ ar draws Cymru, o
Gaerdydd i Gaergybi a’r porth i’r Iwerddon, dros y misoedd nesaf yma yn arwain at Uwch-gynhadledd yr G8 yng Ngogledd Iwerddon.
“OS bydd pobl yn ymuno gyda ni yn yr ymgyrch yn eu miloedd yna bydd yn rhaid i arweinwyr y byd weithredu. Ry’n ni wir yn gobeithio y bydd pobl Cymru yn lleisio eu barn yn glir ac yn cefnogi’r ymgyrch OS dros y misoedd i ddod.”
Am fwy o wybodaeth ewch i www.enoughfoodif.org <https://www.enoughfoodif.org>.