Datganiad Oxfam Cymru

Rachel Cable, Pennaeth Oxfam Cymru:

“Yr ydym yn pryderu ar ôl clywed adroddiadau bod aelod o dîm Oxfam yn siop Oxfam yn Y Gelli Gandryll wedi gwneud sylw annerbyniol am yr iaith Gymraeg.

“Hoffem ymddiheuro yn fawr am unrhyw ofid a achoswyd. Nid yw’r sylw honedig yn adlewyrchu gwerthoedd Oxfam ac rydym yn cymryd honiadau o’r math hwn o ddifrif. Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod cynhwysiant ac amrywiaeth wrth galon ein gwaith lle bynnag yr ydym yn gweithio yn y byd, gan gynnwys yma yng Nghymru.

“Rydyn ni nawr yn edrych ar y mater hwn gyda’r brys mwyaf.”

DIWEDD