Yn Cyflwyno Heulwen a Mis Medi Ail-Law!

Ar ddechrau’r mis cawsom gyfle i groesawu Heulwen Davies, ein Swyddog Cyfathrebu a’r Cyfryngau newydd yn Oxfam Cymru. Mae Heulwen yn ymuno â’r criw wedi iddi ddilyn gyrfa gyffrous yn y byd cyfryngau, marchnata a digwyddiadau cyhoeddus yng Nghymru. Mae hi hefyd yn adnabyddus am ei gwaith fel sylfaenydd y cylchgrawn www.mamcymru.wales ac fel awdures gyda gwasg Y Lolfa. Mae Heulwen yn angerddol am helpu pobl, yn arbennig merched a theuluoedd, ac mae hi eisioes wedi cychwyn defnyddio’i sgiliau i lansio ein ymgyrch ddiweddaraf, Mis Medi Ail-Law.

“Dwi’n gyffrous iawn am fy swydd newydd yma yn Oxfam. Dyma’r tro cyntaf i fi weithio yn y trydydd sector. Rwy’n gyffrous i ddefnyddio fy sgiliau a fy nghysylltiadau er mwyn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael y cyfle i glywed am waith gwych Oxfam yng Nghymru ac yn fyd eang. Mae cael y cyfle i wneud gwahaniaeth i fywydau’r rhai sydd angen ein cymorth yng Nghymru a’r byd yn fraint, dwi’n barod amdani!

Fel un sy’n gwirioni ar ddillad a ffasiwn, roeddwn i’n gyffrous i ddysgu mai ymgyrch am ddillad ail law fyddai’r ymgyrch gyntaf y buaswn i’n gweithio arni, sef #SecondHandSeptember neu’r term Cymraeg dwi wedi bathu ydy #MisMediAilLaw. Mae wedi bod yn agoriad llygad. Mae ymchwil Oxfam wedi darganfod bod pobl Prydain yn prynnu dwy dunnell o ddillad newydd bob MUNUD ac mae’r allyriad carbon sy’n cael eu cynhyrchu o ganlyniad i rhain, gyfwerth â gyrru car o amgylch y byd chwe’ gwaith! Ar ben hynny, mae 11 miliwn dilledyn yn cael eu taflu i safle tirlenwi ym Mhrydain bob wythnos. A ninnau mewn argyfwng hinsawdd, mae’n gyfrifoldeb arnon ni i gyd i newid ein ffyrdd er lles yr amgylchedd.

Nod yr ymgyrch #MisMediAilLaw yw herio pawb i beidio prynnu dillad newydd am 30 diwrnod, er mwyn helpu’r blaned, lleihau’r gwastraff ac er mwyn profi i’r diwydiant nad yden ni’n cefnogi’r ffasiwn cyflym yma. Rydw i eisioes wedi ymrwymo i wneud hyn. Pan ryden ni’n siopa, mae’n well prynnu dillad ail law a chefnogi siopau fel Oxfam gan wybod bod ni’n ailgylchu hen ddillad ac yn cyfrannu arian at achos da. Mae gwario £10 yn Oxfam yn ein galluogi ni i brynnu dŵr i 10 person, mae hynna’n fwy o reswm i gefnogi dydy. Dwi wastad wedi prynnu’n ail law, ac mewn cyfweliad am yr ymgyrch ar raglen Heno, S4C ges i gyfle i arddangos rhai o fy nillad ail law, gan gynnwys un o fy hoff ffrogiau ac esgidiau o Oxfam (cyfanswm o £8.80!).

Os a phan ryden ni’n prynnu ffasiwn newydd, mae’n well i’r boced a’r amgylchedd ein bod ni’n gwario ychdyig yn fwy am ddillad o safon, dillad sydd yn mynd i fod yn ein cwpwrdd am flynyddoedd ac o ganlyniad, dillad sy’n cael eu cynhyrchu mewn ffatrioedd ble mae’r gweithwyr yn cael eu talu’n deg ac yn cael eu gwerthfawrogi.

Mae fideo Lan yn Vietnam yn portreadu bywyd i nifer o’r merched sy’n gweithio mewn ffatrioedd ac sy’n cynhyrchu ein dillad ni. Dyma’r fideo wnaeth fy ysbrydoli i ymgeisio am y swydd hon gydag Oxfam, mae’n dorcalonnus; https://www.youtube.com/watch?v=3_tOD3SpoB0 Fel Mam, dydw i       ddim eisiau byw mewn byd ble mae merched yn cael eu trin fel hyn, a’r cyfan er mwyn bwydo ein obsesiwn ni mewn ffasiwn cyflym.

Mae rhai o enwau mawr y byd ffasiwn fel Vivienne Westwood a selebs fel Sara Cox wedi cefnogi ein ymgyrch, ac roeddwn yn falch o weld bod nifer o Gymry yn rhannu eu profiadau ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd. Un gymraes sy’n cymryd rhan yw Branwen Mair Llewelyn, Rheolwr Cyfathrebu Llenyddiaeth Cymru a ges i gyfweliad gyda hi i ddysgu mwy.

Branwen

Gynta’i gyd Brawen, Pam bod ti’n cymryd rhan yn ymgyrch #MisMediAilLaw?

Oherwydd dwi’n prynnu gormod o ddillad a dwi’n obsessed efo chiwlio am y dilledyn nesaf o hyd, er fy mod i’n gwybod bod ffasiwn cyflym yn broblem. Mae ‘na gyfrifoldeb arnon ni i gyd i newid ein diwylliant a’r diwydiant er lles yr amgylchedd a’r bobl yn y ffatrioedd, ac mae ymgyrch Oxfam wedi sbarduno i fi neud hyn.

Pam ein bod ni mor obsessed efo ffasiwn ym Mhrydain?

Oherwydd y diwydiant. Mae’r diwydiant wastad yn edrych ymlaen at y tymor a’r trends newydd sydd i ddod ac yn gwneud inni feddwl bod yn rhaid inni fuddsoddi o hyd. Mae fy ‘inbox’ a’n safleoedd cyfryngau cymdeithasol i’n llawn o gynigion arbennig a’r trends diweddaraf, mae’n ddiwydiant sy’n targedu ni o bob cyfeiriad.

Beth wyt ti wedi dysgu?

Ers dechrau’r mis rydw i wedi gwario llai, mae hynny’n gret! Dwi wedi dysgu bod yn well i fi edrych yn fy nghwpwrdd dillad a gweld be sydd angen yn hytrach na beth rydw i eisiau, ac wedyn gwneud rhestr cyn mynd allan i siopa. Dwi wastad wedi mwynhau darganfod ffyrdd o ail greu delwedd neu edrychaid newydd efo’r hyn sydd yn fy nghwpwrdd, a’r mis yma rydw i wedi mwynhau bod yn fwy creadigol efo’r hyn sydd gen i. Yr her rwan ydy parhau i wneud hyn.

Dwi’n deallt dy fod yn mwynhau siopa yn Oxfam hefyd?

Ydw! Rydw i’n mwynhau siopa yn y siopau elusen amrywiol ac hefyd yn eich boutique yng Nghaerdydd, rydw i wedi cael nifer o fargeinion fel sgert o Whistles am £10 yn lle £200! Beth sy’n gret am siopa yn Oxfam ydy’r ffaith fy mod i’n gwybod bod yr arian dwi’n gwario yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl, mae hynny’n deimlad braf iawn. Dwi hefyd yn hoffi’r ffaith nad oes neb arall yn gwisgo’r un fath a chi a fyddwch chi byth yn gwybod beth wnewch chi ddarganfod!

Diolch i Branwen am rannu ei phrofiad a gobeithio bod ei phrofiad hi a stori Lan wedi eich sbarduno chi i newid eich ffordd o siopa. Mae’r rhai sy’n cynhyrchu’r dillad yn cael eu ecsploitio ac yn byw mewn tlodi, nifer yn ferched a mamau sydd ddim yn cael gweld eu plant. Mae’r diwydiant ffasiwn cyflym yn achosi niwed dirdynnol i’r blaned, ac er ein bod ni’n meddwl ein bod ni’n cael bargen, y gwirionedd ydy nad yden ni ddim, mae’r safon gan amlaf yn isel iawn ac o ganlyniad ryden ni’n prynnu ac yn taflu mwy o ddillad. Fel mae fy annwyl ŵr yn dweud bob amser; ‘Buy Cheap, Buy Twice’.

Gan Heulwen Davies, Oxfam Cymru