Oxjam Caerdydd 2019 – Mathilda Manley-Lewis sy’n trafod yr Ŵyl unigryw hon yng Nghaerdydd ar Hydref 27!
Mae Mis Hydref yn golygu uchafbwynt blynyddol yma yn Oxfam Cymru – mae Oxjam Caerdydd ar y gorwel. Eleni, mae’n cael ei gynnal ar y 27ain o Hydref felly nodwch y dyddiad yn eich dyddiadur! Beth yw Oxjam? Sut allwch chi gymryd rhan? Y ferch gyda’r atebion I gyd yw Rheolwraig newydd yr Ŵyl, Mathilda Manley – Lewis, felly dyma drefnu cyfweliad I ddarganfod y cyfan!
Gynta’I gyd Mathilda, dwed wrth ein darllenwyr beth yw Oxjam?
Yn syml iawn, mae Oxjam yn gyfres o ddigwyddiadau mewn lleoliadau amrywiol ar hyd a lled Prydain yn ystod mis Hydref, hon yw’r Ŵyl mwyaf o’I math yn y wlad hon! Nid gŵyl gerddoriaeth gyffredin yw hi, mae’r cyfan yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr ac mae’r holl arian ryden ni’n casglu yn ystod y digwyddiad yn mynd I Oxfam, er mwyn helpu I daclo tlodi ym Mhrydain a gweddill y byd. Rhywbeth arall sy’n unigryw am y digwyddiad yw’r ffaith ein bod ni’n rhoi platform I befformwyr newydd, gan flaenoriaethau artistiaid lleol. Ryden ni hefyd yn cefnogi canolfannau a lleoliadau annibynnol wrth lwyfannu’r cyfan.
Dechreuodd Oxjam yn 2006, ac erbyn hyn mae 60,000 o gerddorion wedi perfformio I gynulledifa o dros 1.2 miliwn o bobl. Mae pob Oxjam yn unigryw, ac yng Nghaerdydd eleni bydd y cyfan yn digwydd mewn lleoliadau ar Stryd Womanby, lleoliad sy’n hwb I gerddoriaeth yn ein prif ddinas.
Rwyt ti’n Rheoli Oxjam am y tro cyntaf eleni – Sut a pham wnes di ymgymryd a’r rôl?
Wedi cwblhau fy ngradd mewn cerddoriaeth yng Nghaerdydd, roeddwn I’n awyddus I gael profiad ym maes rheoli’r celfyddydau. Pan welais I’r hysbyseb am y swydd, o’n I’n gwybod byddai’n berffaith I fi. Fy ngwaith I yw recriwtio criw o wirfoddolwyr I farchnata, codi arian a fy nghynorthwyo I gynllunio a chyflwyno’r cyfan. Mae Oxjam yn dibynnu ar wirfoddolwyr, ac felly roeddwn I’n fwy na hapus I wneud y gwaith yma yn wirfoddol, oherwydd mae’n cynnig profiad euraidd I fi o ran cyfrifoldeb, rheoli sawl peth ar yr un pryd ac ati. Mae’n anodd cael cyfleoedd mor dda a hyn wrth ddechrau allan yn y byd gwaith felly rydw I wrth fy modd.
Oes cyfleoedd pellach I’n darllenwyr I wirfoddoli a chymryd rhan?
Oes! Rydw I’n awyddus I ddod o hyd I fwy o wirfoddolwyr! Mae cyfle I stiwardio, casglu arian a gwaith rheoli llwyfan ar y dydd ei hun. Os nad oes modd I chi fod yno, ryden ni’n awyddus I bobl ein helpu ni I ledu’r gair am y digwyddiad a rhannu cynnwys arlein @OxjamCardiff – mae gwerthu’r tocynnau yn hollbwysig. Mae pawb sy’n gwirfoddoli I’n helpu ni yno ar y dydd yn cael tocynnau yn rhad ac am ddim ac amser rhydd I fwynhau’r arlwy – ryden ni eisiau sicrhau bod pawb yn mwynhau!
Ble mae’r perfformiadau yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd?
Gyntaf oll, rydw I’n awydds I ddiolch I’r tri safle yng Nghaerdydd am ganiatau inni ddefnyddio’r safleoedd yn rhad ac am ddim. Mae hyn yn help mawr gan mai codi arian I Oxfam yw’r bwriad, ac mae eu caredigrwydd yn golygu y gallwn ni godi mwy o arian I helpu gwaith pwysig Oxfam wrth daclo tlodi yma yng Nghymru a gweddill y byd.
Mae Bootlegger yn safle newydd inni eleni ac mae nhw wedi mynd ati I greu coctel newydd ac ecscliwsif ar gyfer y digwyddiad – yr ‘Oxjam Cocktail’ a bydd 20% o’r gwerthiant yn mynd I’r elsuen felly ewch I’w blasu nhw! Yn Bootlegger bydd cerddoriaeth jazz, funk, roc a roll ac electro – swing – y safle delfrydol I’r rai sy’n hoffi dawnsio! Bydd yr arlwy yn cychwyn yno am 16:00 – 21:00. Mae Tiny Rebel yn ein cefnogi ni eto eleni, ac yno bydd cyfle I fwynhau cerddoriaeth indie, gwerin a bandiau roc rhwng 16:00 a 21:00. Mae The Moon yn ein cefnogi ni eto eleni hefyd, ac mae hwn yn le delfrydol I’r rhai sy’n mwynhau cerddoriaeth DJ’s, MC’s, UKG a DNB, bydd yr arlwy yn cychwyn yno am 20:00 – 01:00. Beth bynnag yw’ch chwant cerddorol bydd rhywbeth yma I bawb eleni!
Pwy sydd ar y ‘line up’ felly?
Mae dros 20 o berfformwyr yn cymryd rhan ar y dydd a’r cyfan yn perfformio’n rhad ac am ddim, ryden ni’n hynnod o ddiolchgar iddynt achos mae’n hollbwysig ein bod ni’n codi arian, ddim dim ond yn talu’n costau, ryden ni eisiau codi gymaint o arian a phosibl I Oxfam. Dros y blynyddoedd mae Oxjam wedi cyfrannu £2.8 miliwn at waith Oxfam, byddai hynny ddim yn bosibl heb gefnogaeth yr artistiaid.
Yng Nghaerdydd elen bydd bandiau sydd wedi perfformio yn Oxjam sawl tro, gan gynnwys The People The Poet, rhai artistiaid sy’n dychwelyd am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn megis DJ Lubi J, rhai bandiau oedd wedi cael blas arni llynedd ac yn awyddus I ddychwelyd eleni, fel Yasmine a The Euphoria. Ryden ni hefyd yn gyffrous iawn I groesawu artistiaid newydd fel Point of View, Risorius, Jack Mac’s Funk Pack a Blossom Caldarone I enwi ond rhai.
Mae’n bwysig nodi ein bod ni wedi ceisio sicrhau artistiaid sy’n canu yn y Gymraeg, ond nid yden ni wedi llwyddo ac mae’r rhaglen belach yn llawn. Os ydech chi’n artist Cymraeg neu’n adnabod rhywun hoffai gymryd rhan yn 2020, cysylltwch mor fuan a phosibl ar oxjamcardiff2019@gmail.com .
Y cwestiwn olaf a’r mwyaf pwysig Mathilda – Sut allwn ni brynnu tocynnau?!
Gallwch brynnu tocynnau ar safle WeGotTickets neu gallwch eu prynnu o Bootlegger, Hostel a Bar Nos Da ac hefyd yn siopau a Boutique Oxfam yng Nghaerdydd. Mae’r tocynnau’n fargen am £6 a cofiwch bod yr holl arian yn mynd I Oxfam.
Felly dyna ni, yr holl wybodaeth o OxjamHQ yng Nghaerdydd! Cofiwch rannu eich lluniau gyda ni ar @OxfamCymru – welwn ni chi yno!
Gan Heulwen Davies, Oxfam Cymru