Mae’n ymddangos y bydd y cytundeb cydweithredu rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru, sydd wedi bod yn cipio’r penawdau yr wythnos hon, yn dominyddu’r agenda wleidyddol ac agenda’r cyfryngau am gryn amser eto. Ond beth y mae’n ei olygu i bobl sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru, a thu hwnt? Mae Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru, yn mynd y tu ôl i’r penawdau.
Fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae’r fargen rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn helaeth ei rhethreg ond prin yw’r manylion. Ond ynddi, mae yna rai ymrwymiadau i’w croesawu a allai, o’u cyflawni, helpu i ddechrau gostwng cyfradd tlodi uchel Cymru, sy’n gyndyn i newid, a dechrau mynd i’r afael â’n problem hollbresennol o ran anghydraddoldeb rhwng y rhywiau.
1. Datganoli budd-daliadau lles
Efallai mai un o’r polisïau mwyaf trawiadol a restrir yn y cytundeb cydweithredu yw’r bwriad i gefnogi’r broses o ddatganoli gweinyddiaeth lles, ac i archwilio’r seilwaith angenrheidiol sy’n ofynnol i baratoi ar gyfer hynny.
O ystyried bod cyfradd tlodi Cymru wedi aros yn ystyfnig o uchel am y 15 mlynedd ddiwethaf, yn sicr mae angen diwygio. Ar hyn o bryd, mae gormod o bobl yn cwympo trwy’r tyllau llydan agored mewn rhwyd nawdd cymdeithasol nad yw’n amddiffyn pob un ohonom rhag anghyfiawnder tlodi.
Amser a ddengys sut beth fydd y system newydd a sut y bydd yn cael ei darparu, ond os yw Gweinidogion o ddifrif ynghylch cau’r bylchau hynny yn y rhwyd, yna mae’n rhaid mynd ati i gynllunio a darparu mewn cydweithrediad â phobl sydd â phrofiad uniongyrchol o fyw mewn tlodi.
Gallai datganoli budd-daliadau lles hefyd roi cyfle euraidd i’r Llywodraeth lenwi’r bylchau yn agenda gwrth-dlodi Cymru: sydd ar hyn o bryd heb un brif strategaeth gwrth-dlodi a rôl Weinidogol sy’n benodol gyfrifol am leihau tlodi.
2. Yr ymrwymiadau ynghylch plant
Ar hyn o bryd, mae gan Gymru’r gyfradd tlodi plant waethaf o holl genhedloedd y DU, ac mae 31% o blant yn byw o dan y llinell dlodi. Dyna pam mae’r addewid y bydd gan bob plentyn ysgol gynradd hawl i brydau ysgol am ddim – rhywbeth y mae Cynghrair Gwrth-dlodi Cymru wedi galw amdano ers amser maith – mor bwysig. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae yna filoedd o blant yng Nghymru sy’n gaeth mewn tlodi sy’n colli allan ar bryd iach, maethlon yn ystod y diwrnod ysgol. Ac rydym yn gwybod bod yr holl ymchwil yn dangos bod prydau ysgol am ddim yn arwain at fwy na boliau llawn yn unig: maent hefyd yn gwella ymgysylltiad a’r gallu i ganolbwyntio yn yr ysgol.
Addewid allweddol arall yw ehangu’r cynnig gofal plant am ddim fel bod gan bob plentyn dwy oed hawl i 12.5 awr o ofal am ddim. Rydym yn gwybod bod gofal plant hyblyg, hygyrch yn hanfodol i fynd i’r afael â thlodi: mae’n cefnogi datblygiad plant ac, yn hollbwysig, yn helpu rhieni i roi hwb i’w hincwm trwy gynyddu eu siawns o allu cyrchu gwaith, addysg neu hyfforddiant.
Ond hyd yn hyn, nid yw cynnig gofal plant am ddim Cymru wedi bod yn ddigon da: mae gormod o rieni, yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig, gan gynnwys ffoaduriaid a’r rhai sy’n ceisio lloches, yn colli allan oherwydd yr holl reolau a gofynion beichus ac anesboniadwy. Byddai ymestyn gofal plant am ddim i bob plentyn dwy oed yn gam enfawr ymlaen os bydd yn digwydd. Fel rhan o’r adolygiad hwn, byddai Gweinidogion yn ddoeth i weithredu ynghylch y cyflog isel a’r amodau gwaith gwael a wynebir yn aml gan weithwyr gofal plant eu hunain.
3. Symud ymlaen i greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol
Addewid arall yn y cytundeb yw sefydlu grŵp arbenigol i gynghori ar y broses o greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, gan gynnwys addewid i “weithio tuag at” gydraddoldeb o ran “taliadau a chydnabyddiaeth” i weithwyr iechyd a gofal. Yn amlwg, mae sector gofal Cymru wedi cael ei anwybyddu ac mae ei weithwyr wedi cael eu tanbrisio am lawer rhy hir, felly mae yna groeso i ymdrechion i dynnu sylw at ofal, ond dim ond os byddant yn cyflawni newid ystyrlon i’r rhai sy’n rhoi ac yn cael gofal ledled y wlad. Dim ond os yw barn a lleisiau’r bobl hynny wrth wraidd y penderfyniadau a wneir am eu bywydau a’u dyfodol y bydd newid o’r fath yn cael ei gyflawni.
Ein gofalwyr – yn gyflogedig ac yn ddi-dâl – yw’r injan gudd sy’n gyrru economi Cymru, y glud anweledig sy’n dal ein cymdeithas at ei gilydd. Ac eto mae gofalwyr ledled Cymru hefyd yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi; ac nid yw’n gyd-ddigwyddiad eu bod hefyd yn fwy tebygol o fod yn fenywod. Buddsoddi yn seilwaith gofal Cymru a chydnabod bod pob math o ofal yn waith, p’un a yw rhywun yn cael ei dalu ai peidio, yw’r peth iawn i’w wneud, ond bydd hefyd yn helpu i feithrin gwlad fwy teg, gyfartal a gofalgar lle nad oes neb yn wynebu tlodi o ganlyniad i ofalu.
4. Archwilio’r posibilrwydd o ddod yn genedl sero-net erbyn 2035
Rydym i gyd wedi clywed y rhybuddion clir gan wyddonwyr mai dim ond naw mlynedd sydd gennym i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd sy’n mynd rhagddo ar garlam, ac sy’n achosi llifogydd ar garreg ein drws a sychder a seiclonau dinistriol ledled y byd.
Ac er gwaethaf y ffaith mai nhw sydd wedi gwneud leiaf i achosi’r argyfwng hinsawdd, gwyddom mai’r bobl dlotaf – lle bynnag y maent yn byw – sy’n cael eu taro galetaf. Mae’n hollol afresymol gadael i gymunedau tlawd yma yng Nghymru a ledled y byd dalu’r pris am yr argyfwng hinsawdd y mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ein bod yn ei wynebu, yn enwedig pan fo’r 1 y cant cyfoethocaf o bobl yn y DU yn cynhyrchu 11 gwaith yn fwy o allyriadau carbon na rhywun yn hanner tlotaf y boblogaeth.
Os ydym am osgoi effeithiau gwaethaf y chwalfa yn yr hinsawdd, yna mae’n amlwg bod angen toriadau cyflymach a thecach i allyriadau. Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud ei gorau glas i ddod yn genedl sero-net cyn gynted â phosibl. Mae oedi yn costio bywydau.
5. A gair olaf ar ddiwygio’r Senedd …
Yn 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i arwain ‘llywodraeth ffeministaidd’ ac ers hynny, mae Oxfam Cymru a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru wedi bod yn olrhain cynnydd tuag at y nod hwn trwy’r Cerdyn Sgorio Ffeministaidd. Un o’r meysydd lle y mae gwleidyddion Cymru wedi bod yn methu yw cynrychiolaeth, felly mae’n galonogol clywed bod cynlluniau ar y gweill i gyflwyno cwotâu rhywedd sy’n rhwymo mewn cyfraith. Ond mae’r manylion ynghylch pa fenywod a fydd yn cael eu cynrychioli yn bwysig hefyd: hyd yma gwelwyd dim ond un Aelod benywaidd o’r Senedd o gefndir lleiafrifol ethnig.
Ac wrth gwrs, er bod croeso iddynt, rhaid i newidiadau o’r fath fod yn fan cychwyn yn unig o ran uchelgais Llywodraeth Cymru i wneud mwy ynghylch cynrychiolaeth gyfartal: rhaid iddi hefyd wneud popeth yn ei gallu i wthio am fwy o gydraddoldeb ar lefel llywodraeth leol. Datgelodd ein Cerdyn Sgorio Ffeministaidd diweddaraf fod cyfran y menywod sy’n ymgeisio ac yn cael eu hethol i lywodraeth leol yn parhau i fod yn syfrdanol o isel: dim ond 28% o gynghorwyr lleol, pedwar o’r 22 o arweinwyr cynghorau (18%), a 27% o aelodau cabinet y cynghorau a oedd yn fenywod. Yn ôl y gyfradd newid hyd yma, mae’n annhebygol y bydd yna gydbwysedd rhwng y rhywiau yng nghynghorau Cymru cyn 2073. Rhaid i arweinwyr gwleidyddol Cymru fynd ymhellach, yn gyflymach.
Addewidion, addewidion
Er bod yr awyrgylch sydd ohoni yn galonogol, yn sicr mae llawer o waith i’w wneud i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb yng Nghymru a thu hwnt. Y gwir brawf o effeithiolrwydd cytundeb Llafur Cymru a Phlaid Cymru fydd cyflawni polisïau beiddgar, nid rhethreg ac addewidion beiddgar.