Cymru yn dangos undod mewn cyfnod o argyfwng

Os ydych yn gwrando ar y newyddion, neu yn darllen papur newydd yr eiliad hon, mae’n debyg iawn eich bod yn mynd i glywed am un argyfwng neu drychineb dyngarol.

Mae rhyfela a gwrthdaro mewn sawl rhan o’r Dwyrain Canol, newyn yn Nwyrain Affrica, argyfwng ffoaduriaid ym Môr y Canoldir ag canol Affrica, a thrychinebau naturiol yn peryglu bywydau dynion, merched a phlant mewn niferoedd anferthol. Rydym yn byw mewn byd ansefydlog, ac mae argyfyngau’n gyrru miliynau i ffwrdd o’u cartrefi, yn rhwygo teuluoedd a chymunedau yn ddarnau, ac yn atal pobl rhag cael mynediad at wasanaeth iechyd ag addysg y maent eu hangen. Mae gwrthdaro, afiechydon a phrinder bwyd yn cynyddu nifer y marwolaethau; ffigwr sydd yn uchel yn barod.

Merched a phlant sydd mewn mwyaf o beryg mewn argyfwng dyngarol. Mae trais rhywiol yn aml yn cael ei ddefnyddio fel tacteg rhyfel, tra bod afiechydon a newyn yn fwy tebygol o gael effaith ar blant. Mae hyn yn creu darlun llwm iawn. Mae’n anodd iawn i ni ddychmygu byw fel hyn, ond mae miliynau o bobl yn dioddef dan y fath amgylchiadau pob dydd.

Er bod hyn yn destun hynod o dorcalonnus, mae yna sefydliadau, cymunedau ag unigolion sydd yn gweithio’n ddiflino i fod o gymorth i’r rhai sydd yn byw mewn amodau fel hyn.  Dyna pam fod Diwrnod Dyngarol y Byd, sydd yn digwydd ar Awst 19 pob blwyddyn, wedi cael ei sefydlu, er mwyn codi ymwybyddiaeth am y miliynau sydd yn cael eu heffeithio gan argyfyngau dyngarol, ac i’r gweithwyr trydydd sector a llywodraethol sydd yn darparu cymorth iechyd a glendid trwy gydol y flwyddyn, pob blwyddyn.

Mae’r diwrnod hwn hefyd yn gyfle i ofyn beth yr ydym ni yn ei wneud yng Nghymru fel ymateb, ac os ydym ni’n gwneud digon?

Un ddadl sydd yn codi ei phen yn aml pan mae cymorth dyngarol yn cael ei drafod yw ein problemau ni ein hunain yng Nghymru. Mae ‘charity begins at home’ yn ddyfyniad sydd yn cael ei ddefnyddio’n aml, ac mae’n ddigon teg i ddweud ein bod ni hefo problemau a materion sydd angen cael eu hwynebu. Ond byddai’r frawddeg yn adlewyrchiad gwell o Gymru trwy ddweud ‘charity begins at home, but should not end there‘. Nid yw’n fater o ddewis un broblem benodol y dylid canolbwyntio arni. Mae’n rhaid i ni weithredu i fod yn genedl sydd yn
gyfrifol yn fyd-eang, ac estyn llaw allan i wledydd ar draws y byd sydd angen cymorth yn ddifrifol.

Mae yna rai enghreifftiau o Gymru yn ymddwyn mewn ffordd galonogol.

Cymerwch y Disasters Emergency Committee (DEC) fel esiampl. Mae’r DEC yn cyfuno 13 o elusennau dyngarol yn y DU at ei gilydd mewn cyfnod o argyfwng, er mwyn casglu arian i ariannu’r ymateb i argyfyngau. Efallai eich bod yn cofio apêl Yemen mis Rhagfyr y flwyddyn ddiwethaf, neu apêl Dwyrain Affrica ychydig o fisoedd yn ôl. Casglodd y cyhoedd yng Nghymru dros £1 miliwn ar gyfer yr apêl Dwyrain Affrica. Cafodd
yr arian ei ddefnyddio i dalu am nwyddau ag offer i weithwyr dyngarol ac iechyd yn yr ardal oedd mewn argyfwng. Roedd £25 yn ddigon i dalu am dros fis o gyflenwad bwyd i blentyn oedd yn llwgu, tra bod £60 yn talu am ddŵr glân i ddau deulu am o leiaf mis.

Mae apeliadau fel hyn, ac ein hymateb ni yn dangos ein bod ni yn poeni, ac yn medru gweithredu i helpu pobl sydd wirioneddol angen cymorth.

Felly beth am i hyn fod yn esiampl o sut y medrwn ni ddod at ein gilydd mewn cyfnod o argyfwng i ddangos haelioni ag undod gyda phobl ar draws y byd sydd yn byw mewn caledi.

I ddysgu mwy am waith dyngarol ag apeliadau Oxfam, ewch i:

https://www.oxfam.org.uk/what-we-do/emergency-response